Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 74
Psal WelBeibl 74:1  O Dduw, pam wyt ti'n ddig gyda ni drwy'r amser? Pam mae dy ffroenau'n mygu yn erbyn defaid dy borfa?
Psal WelBeibl 74:2  Cofia'r criw o bobl gymeraist ti i ti dy hun mor bell yn ôl, y bobl ollyngaist yn rhydd i fod yn llwyth sbesial i ti! Dyma Fynydd Seion, lle rwyt ti'n byw!
Psal WelBeibl 74:3  Brysia! Edrych ar yr adfeilion diddiwedd yma, a'r holl niwed mae'r gelyn wedi'i wneud i dy deml!
Psal WelBeibl 74:4  Mae'r gelynion wedi rhuo wrth ddathlu eu concwest yn dy gysegr; a gosod eu harwyddion a'u symbolau eu hunain yno.
Psal WelBeibl 74:5  Roedden nhw fel dynion yn chwifio bwyeill wrth glirio drysni a choed,
Psal WelBeibl 74:6  yn dryllio'r holl waith cerfio cywrain gyda bwyeill a morthwylion.
Psal WelBeibl 74:7  Yna rhoi dy gysegr ar dân, a dinistrio'n llwyr y deml lle roeddet ti'n aros.
Psal WelBeibl 74:8  “Gadewch i ni ddinistrio'r cwbl!” medden nhw. A dyma nhw'n llosgi pob cysegr i Dduw yn y tir.
Psal WelBeibl 74:9  Does dim arwydd o obaith i'w weld! Does dim proffwyd ar ôl, neb sy'n gwybod am faint mae hyn yn mynd i bara.
Psal WelBeibl 74:10  O Dduw, am faint mwy mae'r gelyn yn mynd i wawdio? Ydy e'n mynd i gael sarhau dy enw di am byth?
Psal WelBeibl 74:11  Pam wyt ti ddim yn gwneud rhywbeth? Pam wyt ti'n dal yn ôl? Plîs, gwna rywbeth!
Psal WelBeibl 74:12  O Dduw, ti ydy fy Mrenin i o'r dechrau! Ti ydy'r Duw sy'n gweithredu ac yn achub ar y ddaear!
Psal WelBeibl 74:13  Ti, yn dy nerth, wnaeth hollti'r môr. Ti ddrylliodd bennau'r ddraig yn y dŵr.
Psal WelBeibl 74:14  Ti sathrodd bennau Lefiathan, a'i adael yn fwyd i greaduriaid yr anialwch.
Psal WelBeibl 74:15  Ti agorodd y ffynhonnau a'r nentydd, a sychu llif yr afonydd.
Psal WelBeibl 74:16  Ti sy'n rheoli'r dydd a'r nos; ti osododd y lleuad a'r haul yn eu lle.
Psal WelBeibl 74:17  Ti roddodd dymhorau i'r ddaear; haf a gaeaf – ti drefnodd y cwbl!
Psal WelBeibl 74:18  Cofia fel mae'r gelyn wedi dy wawdio di, ARGLWYDD; fel mae pobl ffôl wedi dy sarhau di.
Psal WelBeibl 74:19  Paid rhoi dy golomen i'r bwystfil! Paid anghofio dy bobl druan yn llwyr.
Psal WelBeibl 74:20  Cofia'r ymrwymiad wnest ti! Mae lleoedd tywyll sy'n guddfan i greulondeb ym mhobman.
Psal WelBeibl 74:21  Paid gadael i'r bobl sy'n dioddef droi'n ôl yn siomedig. Gad i'r tlawd a'r anghenus foli dy enw.
Psal WelBeibl 74:22  Cod, O Dduw, a dadlau dy achos! Cofia fod ffyliaid yn dy wawdio drwy'r adeg.
Psal WelBeibl 74:23  Paid diystyru twrw'r gelynion, a bloeddio diddiwedd y rhai sy'n dy wrthwynebu di.