PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 104
Psal | WelBeibl | 104:1 | Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD! O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr! Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas. | |
Psal | WelBeibl | 104:2 | Mae clogyn o oleuni wedi'i lapio amdanat. Ti wnaeth ledu'r awyr fel pabell uwch ein pennau. | |
Psal | WelBeibl | 104:3 | Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth, a gwneud dy gerbyd o'r cymylau i deithio ar adenydd y gwynt. | |
Psal | WelBeibl | 104:6 | Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg; roedd dŵr uwchben y mynyddoedd. | |
Psal | WelBeibl | 104:7 | Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi, a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd; | |
Psal | WelBeibl | 104:8 | cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoedd ac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi'i baratoi iddo. | |
Psal | WelBeibl | 104:9 | Gosodaist ffiniau allai'r moroedd mo'u croesi, i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto. | |
Psal | WelBeibl | 104:10 | Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau, a ffeindio'u ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd. | |
Psal | WelBeibl | 104:13 | Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel. Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau. | |
Psal | WelBeibl | 104:14 | Ti sy'n rhoi glaswellt i'r gwartheg, planhigion i bobl eu tyfu iddyn nhw gael bwyd o'r tir – | |
Psal | WelBeibl | 104:15 | gwin i godi calon, olew i roi sglein ar eu hwynebau, a bara i'w cadw nhw'n fyw. | |
Psal | WelBeibl | 104:16 | Mae'r coed anferth yn cael digon i'w yfed – y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus | |
Psal | WelBeibl | 104:18 | Mae'r mynyddoedd uchel yn gynefin i'r geifr gwyllt, a'r clogwyni yn lloches i'r brochod. | |
Psal | WelBeibl | 104:20 | Ti sy'n dod â'r tywyllwch iddi nosi, pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan. | |
Psal | WelBeibl | 104:24 | O ARGLWYDD, rwyt wedi creu cymaint o wahanol bethau! Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth. Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di! | |
Psal | WelBeibl | 104:25 | Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad, a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo – creaduriaid bach a mawr. | |
Psal | WelBeibl | 104:28 | Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta. Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni. | |
Psal | WelBeibl | 104:29 | Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn. Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw, maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd. | |
Psal | WelBeibl | 104:30 | Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu, ac mae'r tir yn cael ei adfywio. | |
Psal | WelBeibl | 104:31 | Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth! Boed i'r ARGLWYDD fwynhau'r cwbl a wnaeth! | |
Psal | WelBeibl | 104:32 | Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu! Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu! | |
Psal | WelBeibl | 104:33 | Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw, moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i. | |