Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 9
Psal WelBeibl 9:1  Addolaf di, ARGLWYDD, o waelod calon; a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.
Psal WelBeibl 9:2  Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot. Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf.
Psal WelBeibl 9:3  Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc, maen nhw'n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di,
Psal WelBeibl 9:4  am dy fod ti'n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i. Ti'n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu'n gyfiawn.
Psal WelBeibl 9:5  Ti sy'n ceryddu'r cenhedloedd, yn dinistrio'r rhai drwg, ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd!
Psal WelBeibl 9:6  Mae hi ar ben ar y gelyn! Mae eu trefi'n adfeilion, a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.
Psal WelBeibl 9:7  Ond mae'r ARGLWYDD yn teyrnasu am byth! Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.
Psal WelBeibl 9:8  Bydd yn barnu'n deg, ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn.
Psal WelBeibl 9:9  Mae'r ARGLWYDD yn hafan ddiogel i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu – yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.
Psal WelBeibl 9:10  Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di. Ti ddim yn troi cefn ar y rhai sy'n dy geisio di, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 9:11  Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n teyrnasu yn Seion! Dwedwch wrth bawb beth mae wedi'i wneud!
Psal WelBeibl 9:12  Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef; mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.
Psal WelBeibl 9:13  Dangos drugaredd ata i, O ARGLWYDD; edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef. Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd drwy giatiau marwolaeth.
Psal WelBeibl 9:14  Wedyn bydda i'n dy foli di o fewn giatiau Seion hardd. Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i!
Psal WelBeibl 9:15  Mae'r cenhedloedd wedi llithro i'r twll wnaethon nhw ei gloddio, a'u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio.
Psal WelBeibl 9:16  Mae'r ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e! Mae e'n gwneud beth sy'n iawn. Mae'r rhai drwg wedi'u dal gan eu dyfais eu hunain. (Yn ddwys:) Saib
Psal WelBeibl 9:17  Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw. Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw!
Psal WelBeibl 9:18  Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth; fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin.
Psal WelBeibl 9:19  Cod, O ARGLWYDD! Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd! Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!
Psal WelBeibl 9:20  Dychryn nhw, O ARGLWYDD! Gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw! Saib