PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 10
Psal | WelBeibl | 10:1 | O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cadw draw? Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i? | |
Psal | WelBeibl | 10:2 | Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd – gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain! | |
Psal | WelBeibl | 10:3 | Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun, a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r ARGLWYDD. | |
Psal | WelBeibl | 10:4 | Mae'r un drwg mor falch, yn swancio ac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD: “Dydy e ddim yn galw neb i gyfri; dydy Duw ddim yn bodoli!” | |
Psal | WelBeibl | 10:5 | Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser. Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di, ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu. | |
Psal | WelBeibl | 10:6 | Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff. Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.” | |
Psal | WelBeibl | 10:7 | Mae e mor gegog – yn llawn melltith a thwyll a gormes, a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion! | |
Psal | WelBeibl | 10:8 | Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod; mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog – unrhyw un sy'n ddigon anffodus. | |
Psal | WelBeibl | 10:9 | Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau, yn barod i ddal y truan a'i gam-drin; ac mae'n ei ddal yn ei rwyd. | |
Psal | WelBeibl | 10:11 | Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni! Dydy e'n cymryd dim sylw. Dydy e byth yn edrych!” | |
Psal | WelBeibl | 10:12 | Cod, O ARGLWYDD! Cod dy law i'w daro, O Dduw! Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu. | |
Psal | WelBeibl | 10:14 | Rwyt ti'n gweld y cwbl – ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint. A byddi'n talu'n ôl! Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di, am mai ti sy'n helpu plant amddifad. | |
Psal | WelBeibl | 10:15 | Torra rym y dyn drwg! Galw fe i gyfrif am y drygioni roedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld. | |
Psal | WelBeibl | 10:17 | Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymu yn crefu arnat, O ARGLWYDD. Byddan nhw'n teimlo'n saff am dy fod ti'n gwrando arnyn nhw. | |