Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 119
Psal WelBeibl 119:1  Mae'r rhai sy'n byw yn iawn, ac yn gwneud beth mae cyfraith yr ARGLWYDD yn ei ddweud wedi'u bendithio'n fawr!
Psal WelBeibl 119:2  Mae'r rhai sy'n gwneud beth mae'n ddweud, ac yn rhoi eu hunain yn llwyr iddo wedi'u bendithio'n fawr!
Psal WelBeibl 119:3  Dŷn nhw'n gwneud dim drwg, ond yn ymddwyn fel mae e eisiau.
Psal WelBeibl 119:4  Ti wedi gorchymyn fod dy ofynion i gael eu cadw'n ofalus.
Psal WelBeibl 119:5  O na fyddwn i bob amser yn ymddwyn fel mae dy ddeddfau di'n dweud!
Psal WelBeibl 119:6  Wedyn fyddwn i ddim yn teimlo cywilydd wrth feddwl am dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:7  Dw i'n diolch i ti o waelod calon wrth ddysgu mor deg ydy dy reolau.
Psal WelBeibl 119:8  Dw i'n mynd i gadw dy ddeddfau; felly paid troi cefn arna i'n llwyr!
Psal WelBeibl 119:9  Sut mae llanc ifanc i ddal ati i fyw bywyd glân? – drwy wneud fel rwyt ti'n dweud.
Psal WelBeibl 119:10  Dw i wedi rhoi fy hun yn llwyr i ti; paid gadael i mi grwydro oddi wrth dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:11  Dw i'n trysori dy neges di yn fy nghalon, er mwyn peidio pechu yn dy erbyn.
Psal WelBeibl 119:12  Rwyt ti'n fendigedig, O ARGLWYDD! Dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:13  Dw i'n ailadrodd yn uchel y rheolau rwyt ti wedi'u rhoi.
Psal WelBeibl 119:14  Mae byw fel rwyt ti'n dweud yn rhoi mwy o lawenydd na'r cyfoeth mwya.
Psal WelBeibl 119:15  Dw i am fyfyrio ar dy ofynion, a chadw fy llygaid ar dy ffyrdd.
Psal WelBeibl 119:16  Mae dy ddeddfau di'n rhoi'r pleser mwya i mi! Dw i ddim am anghofio beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:17  Helpa dy was! Cadw fi'n fyw i mi allu gwneud beth ti'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 119:18  Agor fy llygaid, i mi allu deall y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu dysgu.
Psal WelBeibl 119:19  Dw i ddim ond ar y ddaear yma dros dro. Paid cuddio dy orchmynion oddi wrtho i.
Psal WelBeibl 119:20  Dw i'n ysu am gael gwybod beth ydy dy ddyfarniad di.
Psal WelBeibl 119:21  Rwyt ti'n ceryddu pobl falch, ac yn melltithio'r rhai sy'n crwydro oddi wrth dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:22  Wnei di symud yr holl wawdio a'r cam-drin i ffwrdd? Dw i'n cadw dy reolau di.
Psal WelBeibl 119:23  Er bod arweinwyr yn cynllwynio yn fy erbyn i, mae dy was yn astudio dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:24  Mae dy ofynion di'n hyfrydwch pur i mi, ac yn rhoi arweiniad cyson i mi.
Psal WelBeibl 119:25  Dw i'n methu codi o'r llwch! Adfywia fi fel rwyt wedi addo!
Psal WelBeibl 119:26  Dyma fi'n dweud beth oedd yn digwydd, a dyma ti'n ateb. Dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:27  Gad i mi ddeall sut mae byw yn ffyddlon i dy ofynion, a bydda i'n myfyrio ar y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
Psal WelBeibl 119:28  Mae tristwch yn fy lladd i! Cod fi ar fy nhraed fel gwnest ti addo!
Psal WelBeibl 119:29  Symud unrhyw dwyll sydd ynof fi; a rho dy ddysgeidiaeth i mi.
Psal WelBeibl 119:30  Dw i wedi dewis byw'n ffyddlon i ti, a chadw fy llygaid ar dy reolau di.
Psal WelBeibl 119:31  Dw i'n dal gafael yn dy orchmynion; ARGLWYDD, paid siomi fi!
Psal WelBeibl 119:32  Dw i wir eisiau byw'n ffyddlon i dy orchmynion; helpa fi i weld y darlun mawr.
Psal WelBeibl 119:33  O ARGLWYDD, dysga fi i fyw fel mae dy gyfraith di'n dweud; a'i dilyn i'r diwedd.
Psal WelBeibl 119:34  Helpa fi i ddeall, a bydda i'n cadw dy ddysgeidiaeth di; bydda i'n ymroi i wneud popeth mae'n ei ofyn.
Psal WelBeibl 119:35  Arwain fi i ddilyn llwybr dy orchmynion; dyna dw i eisiau'i wneud.
Psal WelBeibl 119:36  Gwna fi'n awyddus i gadw dy amodau di yn lle bod eisiau llwyddo'n faterol.
Psal WelBeibl 119:37  Cadw fi rhag edrych ar bethau diwerth! Gad i mi brofi bywyd wrth ddilyn dy ffyrdd di!
Psal WelBeibl 119:38  Gwna beth wnest ti ei addo i dy was, i ennyn parch ac addoliad ynof fi.
Psal WelBeibl 119:39  Cymer yr holl wawdio ofnadwy i ffwrdd, Mae dy ddedfryd di bob amser yn iawn.
Psal WelBeibl 119:40  Dw i'n dyheu am wneud beth rwyt ti'n ei ofyn; rho fywyd newydd i mi drwy dy ffyddlondeb.
Psal WelBeibl 119:41  Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD. Achub fi, fel rwyt ti wedi addo.
Psal WelBeibl 119:42  Wedyn bydda i'n gallu ateb y rhai sy'n fy enllibio, gan fy mod i'n credu beth rwyt ti'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 119:43  Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy'n wir, dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di.
Psal WelBeibl 119:44  Wedyn bydda i'n ufudd i dy ddysgeidiaeth di am byth bythoedd!
Psal WelBeibl 119:45  Gad i mi gerdded yn rhydd am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 119:46  Bydda i'n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion. Fydd gen i ddim cywilydd.
Psal WelBeibl 119:47  Mae dy orchmynion yn rhoi'r pleser mwya i mi, dw i wir yn eu caru nhw!
Psal WelBeibl 119:48  Dw i'n cydnabod ac yn caru dy orchmynion, ac yn myfyrio ar dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:49  Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was – dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi.
Psal WelBeibl 119:50  Yr hyn sy'n gysur i mi pan dw i'n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi.
Psal WelBeibl 119:51  Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i'n greulon, ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:52  Dw i'n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD, ac mae hynny'n rhoi cysur i mi.
Psal WelBeibl 119:53  Dw i'n gwylltio'n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny sy'n gwrthod dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:54  Dy ddeddfau di fu'n destun i'm cân ble bynnag dw i wedi byw!
Psal WelBeibl 119:55  Dw i'n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ddysgu.
Psal WelBeibl 119:56  Dyna dw i wedi'i wneud bob amser – ufuddhau i dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:57  Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i'n addo gwneud fel rwyt ti'n dweud.
Psal WelBeibl 119:58  Dw i'n erfyn arnat ti o waelod calon: dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud.
Psal WelBeibl 119:59  Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:60  Heb unrhyw oedi, dw i'n brysio i wneud beth rwyt ti'n ei orchymyn.
Psal WelBeibl 119:61  Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:62  Ganol nos dw i'n codi i ddiolch am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:63  Dw i'n ffrind i bawb sy'n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti'n ei ofyn.
Psal WelBeibl 119:64  Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi'r ddaear! Dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:65  Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 119:66  Rho'r gallu i mi wybod beth sy'n iawn; dw i'n trystio dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:67  Rôn i'n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i'n dioddef, ond bellach dw i'n gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:68  Rwyt ti'n dda, ac yn gwneud beth sy'n dda: dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:69  Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i, ond dw i'n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion.
Psal WelBeibl 119:70  Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw, ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:71  Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:72  Mae beth rwyt ti'n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur.
Psal WelBeibl 119:73  Ti sydd wedi fy ngwneud i a'm siapio i; helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:74  Bydd pawb sy'n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi, am mai dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi.
Psal WelBeibl 119:75  O ARGLWYDD, dw i'n gwybod fod beth rwyt ti'n ei benderfynu yn iawn; roeddet ti'n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi.
Psal WelBeibl 119:76  Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi, fel gwnest ti addo i dy was.
Psal WelBeibl 119:77  Mae dy ddysgeidiaeth di'n rhoi'r pleser mwya i mi felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw.
Psal WelBeibl 119:78  Gad i'r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam! Dw i'n mynd i astudio dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:79  Gwna i'r rhai sy'n dy barchu ac yn dilyn dy reolau fy nerbyn i yn ôl.
Psal WelBeibl 119:80  Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau fel bydd dim cywilydd arna i.
Psal WelBeibl 119:81  Dw i'n dyheu i ti fy achub i! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
Psal WelBeibl 119:82  Mae fy llygaid yn blino wrth ddisgwyl i ti wneud beth rwyt wedi'i addo: “Pryd wyt ti'n mynd i'm cysuro i?” meddwn i.
Psal WelBeibl 119:83  Dw i fel potel groen wedi crebachu gan fwg! Ond dw i ddim wedi diystyru dy ddeddfau.
Psal WelBeibl 119:84  Am faint mwy mae'n rhaid i mi ddisgwyl? Pryd wyt ti'n mynd i gosbi'r rhai sy'n fy erlid i?
Psal WelBeibl 119:85  Dydy'r bobl falch yna ddim yn cadw dy gyfraith di; maen nhw wedi cloddio tyllau i geisio fy nal i.
Psal WelBeibl 119:86  Dw i'n gallu dibynnu'n llwyr ar dy orchmynion di; mae'r bobl yma'n fy erlid i ar gam! Helpa fi!
Psal WelBeibl 119:87  Maen nhw bron â'm lladd i, ond dw i ddim wedi troi cefn ar dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:88  Yn dy gariad ffyddlon, cadw fi'n fyw, a bydda i'n gwneud popeth rwyt ti'n ei ofyn.
Psal WelBeibl 119:89  Dw i'n gallu dibynnu ar dy eiriau di, ARGLWYDD; maen nhw'n ddiogel yn y nefoedd am byth.
Psal WelBeibl 119:90  Ti wedi bod yn ffyddlon ar hyd y cenedlaethau! Ti roddodd y ddaear yn ei lle, ac mae'n aros yno.
Psal WelBeibl 119:91  Mae popeth yn disgwyl dy arweiniad di, mae'r cwbl yn dy wasanaethu di.
Psal WelBeibl 119:92  Byddwn i wedi marw o iselder oni bai fy mod wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth.
Psal WelBeibl 119:93  Wna i byth anghofio dy reolau di, rwyt ti wedi rhoi bywyd newydd i mi drwyddyn nhw.
Psal WelBeibl 119:94  Ti sydd biau fi. Achub fi! Dw i wedi ymroi i wneud beth wyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 119:95  Mae dynion drwg eisiau fy ninistrio, ond dw i'n myfyrio ar dy orchmynion.
Psal WelBeibl 119:96  Mae yna ben draw i bopeth arall, ond mae dy orchmynion di'n ddiderfyn!
Psal WelBeibl 119:97  O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i'n myfyrio ynddi drwy'r dydd.
Psal WelBeibl 119:98  Mae dy orchmynion di gyda mi bob amser; maen nhw'n fy ngwneud i'n gallach na'm gelynion;
Psal WelBeibl 119:99  Dw i wedi dod i ddeall mwy na'm hathrawon i gyd, am fy mod i'n myfyrio ar dy ddeddfau di.
Psal WelBeibl 119:100  Dw i wedi dod i ddeall yn well na'r rhai mewn oed, am fy mod i'n cadw dy ofynion di.
Psal WelBeibl 119:101  Dw i wedi cadw draw o bob llwybr drwg er mwyn gwneud beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:102  Dw i ddim wedi troi cefn ar dy reolau di, am mai ti dy hun sydd wedi fy nysgu i.
Psal WelBeibl 119:103  Mae'r pethau rwyt ti'n eu dweud mor dda, maen nhw'n felys fel mêl.
Psal WelBeibl 119:104  Dy orchmynion di sy'n rhoi deall i mi, ac felly dw i'n casáu pob ffordd ffals.
Psal WelBeibl 119:105  Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed, ac yn goleuo fy llwybr.
Psal WelBeibl 119:106  Dw i wedi addo ar lw y bydda i'n derbyn dy ddedfryd gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:107  Dw i'n dioddef yn ofnadwy; O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!
Psal WelBeibl 119:108  O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl, a dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:109  Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg, dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:110  Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi, ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.
Psal WelBeibl 119:111  Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth; maen nhw'n bleser pur i mi!
Psal WelBeibl 119:112  Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau: mae'r wobr yn para am byth.
Psal WelBeibl 119:113  Dw i'n casáu pobl ddauwynebog, ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:114  Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
Psal WelBeibl 119:115  Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg! Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
Psal WelBeibl 119:116  Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw; paid gadael i mi gael fy siomi.
Psal WelBeibl 119:117  Cynnal fi a chadw fi'n saff, a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
Psal WelBeibl 119:118  Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau – pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
Psal WelBeibl 119:119  Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach! Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
Psal WelBeibl 119:120  Mae meddwl amdanat ti'n codi croen gŵydd arna i; mae dy reolau di'n ddigon i godi ofn arna i.
Psal WelBeibl 119:121  Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda; paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.
Psal WelBeibl 119:122  Plîs, addo y byddi'n cadw dy was yn saff. Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
Psal WelBeibl 119:123  Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i, ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
Psal WelBeibl 119:124  Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was; dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:125  Dy was di ydw i. Helpa fi i ddeall a gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
Psal WelBeibl 119:126  Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD! Mae'r bobl yma'n torri dy reolau.
Psal WelBeibl 119:127  Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di; mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
Psal WelBeibl 119:128  Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl; dw i'n casáu pob ffordd ffals.
Psal WelBeibl 119:129  Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol, a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.
Psal WelBeibl 119:130  Mae dy eiriau di yn goleuo materion, ac yn rhoi deall i bobl gyffredin.
Psal WelBeibl 119:131  Dw i'n dyheu, dw i'n disgwyl yn gegagored ac yn ysu am dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:132  Tro ata i, a bydd yn garedig ata i; dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di.
Psal WelBeibl 119:133  Dangos di'r ffordd ymlaen i mi; paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!
Psal WelBeibl 119:134  Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu, er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud.
Psal WelBeibl 119:135  Bydd yn garedig at dy was, a dysga dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:136  Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen i am fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:137  Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD; ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
Psal WelBeibl 119:138  Mae'r deddfau rwyt ti wedi'u rhoi yn gyfiawn, ac yn gwbl ddibynadwy.
Psal WelBeibl 119:139  Dw i'n gwylltio'n lân wrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.
Psal WelBeibl 119:140  Mae dy eiriau di wedi'u profi'n wir, ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.
Psal WelBeibl 119:141  Er fy mod i'n cael fy mychanu a'm dirmygu, dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:142  Mae dy gyfiawnder di yn para am byth; mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.
Psal WelBeibl 119:143  Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini, mae dy orchmynion di'n hyfrydwch pur i mi.
Psal WelBeibl 119:144  Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth; rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.
Psal WelBeibl 119:145  Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon! “Ateb fi, ARGLWYDD, er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”
Psal WelBeibl 119:146  Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi, er mwyn i mi gadw dy reolau.”
Psal WelBeibl 119:147  Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help! Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
Psal WelBeibl 119:148  Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau, ac yn myfyrio ar dy eiriau.
Psal WelBeibl 119:149  Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon; O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!
Psal WelBeibl 119:150  Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes! Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:151  Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD, ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.
Psal WelBeibl 119:152  Dw i wedi dysgu ers talwm fod dy reolau di yn aros am byth.
Psal WelBeibl 119:153  Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi! Dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:154  Dadlau fy achos a helpa fi! Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.
Psal WelBeibl 119:155  Does gan y rhai drwg ddim gobaith cael eu hachub gen ti; dŷn nhw ddim yn ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau.
Psal WelBeibl 119:156  Rwyt ti mor drugarog, O ARGLWYDD; adfywia fi yn unol â dy gyfiawnder!
Psal WelBeibl 119:157  Mae gen i lawer iawn o elynion yn fy erlid i; ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddeddfau di.
Psal WelBeibl 119:158  Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i, am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.
Psal WelBeibl 119:159  Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion! O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.
Psal WelBeibl 119:160  Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy; mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.
Psal WelBeibl 119:161  Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam! Ond mae dy eiriau di'n rhoi gwefr i mi.
Psal WelBeibl 119:162  Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus, fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.
Psal WelBeibl 119:163  Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd; ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.
Psal WelBeibl 119:164  Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dydd am dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:165  Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff; does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.
Psal WelBeibl 119:166  Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD! Dw i'n cadw dy orchmynion di;
Psal WelBeibl 119:167  dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau di ac yn eu caru nhw'n fawr.
Psal WelBeibl 119:168  Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di. Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.
Psal WelBeibl 119:169  Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD; helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.
Psal WelBeibl 119:170  Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti. Achub fi fel rwyt wedi addo.
Psal WelBeibl 119:171  Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau, am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.
Psal WelBeibl 119:172  Bydd fy nhafod yn canu am dy eiriau, am fod dy reolau di i gyd yn gyfiawn.
Psal WelBeibl 119:173  Estyn dy law i'm helpu. Dw i wedi dewis dilyn dy orchmynion di.
Psal WelBeibl 119:174  Dw i'n dyheu i ti fy achub i, ARGLWYDD; mae dy ddysgeidiaeth di'n hyfrydwch pur i mi.
Psal WelBeibl 119:175  Gad i mi fyw, i mi gael dy foli! gad i dy reolau di fy helpu i.
Psal WelBeibl 119:176  Dw i wedi crwydro fel dafad oedd ar goll. Tyrd i edrych amdana i! Dw i ddim wedi diystyru dy orchmynion di.