Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 35
Psal WelBeibl 35:1  O ARGLWYDD, delia gyda'r rhai sy'n ymladd yn fy erbyn. Ymosod ar y rhai sy'n ymosod arna i!
Psal WelBeibl 35:2  Coda dy darian fach a'r un fawr, a thyrd yma i'm helpu i!
Psal WelBeibl 35:3  Defnyddia dy waywffon a dy bicell yn erbyn y rhai sydd ar fy ôl i. Gad i mi dy glywed di'n dweud, “Gwna i dy achub di!”
Psal WelBeibl 35:4  Rhwystra'r rhai sydd am fy lladd i; coda gywilydd arnyn nhw! Gwna i'r rhai sydd eisiau gwneud niwed i mi droi'n ôl mewn dychryn.
Psal WelBeibl 35:5  Gwna nhw fel us yn cael ei chwythu i ffwrdd gan y gwynt wrth i angel yr ARGLWYDD ymosod arnyn nhw.
Psal WelBeibl 35:6  Pan fydd angel yr ARGLWYDD yn mynd ar eu holau, gwna eu llwybr nhw yn dywyll ac yn llithrig.
Psal WelBeibl 35:7  Roedden nhw wedi gosod rhwyd i'm dal i, a hynny am ddim rheswm. Roedden nhw wedi cloddio twll i mi ddisgyn iddo.
Psal WelBeibl 35:8  Gwna i drychineb annisgwyl ddod ar eu traws nhw; gad iddyn nhw gael eu dal yn eu rhwyd eu hunain. Gwna iddyn nhw ddisgyn i lawr i dwll dinistr!
Psal WelBeibl 35:9  Bydda i, wedyn, yn gallu moli'r ARGLWYDD, a llawenhau am ei fod wedi fy achub i!
Psal WelBeibl 35:10  Bydd y cwbl ohono i'n datgan, “Pwy sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Ti'n achub y gwan rhag un sy'n rhy gryf iddo – achub y gwan a'r diamddiffyn rhag yr un sydd am ddwyn oddi arno.”
Psal WelBeibl 35:11  Mae tystion celwyddog yn codi ac yn fy nghyhuddo i ar gam.
Psal WelBeibl 35:12  Maen nhw'n talu drwg i mi am yr holl ddaioni wnes i. Maen nhw eisiau gweld diwedd arna i.
Psal WelBeibl 35:13  Pan oedden nhw'n sâl roeddwn i'n gwisgo sachliain, ac yn mynd heb fwyd yn fwriadol. Rôn i'n gweddïo drostyn nhw yn ddi-baid.
Psal WelBeibl 35:14  Rôn i'n cerdded o gwmpas yn galaru fel y byddwn i'n galaru dros ffrind neu frawd. Rôn i'n dal fy mhen yn isel fel un yn galaru ar ôl ei fam.
Psal WelBeibl 35:15  Ond roedden nhw wrth eu boddau pan wnes i faglu. Dyma nhw'n dod at ei gilydd yn fy erbyn – wn i ddim pam; roedden nhw'n llarpio fel anifeiliaid gwyllt.
Psal WelBeibl 35:16  Dynion annuwiol yn gwawdio am sbort, ac yn ceisio dangos eu dannedd!
Psal WelBeibl 35:17  O ARGLWYDD, am faint wyt ti'n mynd i sefyll yna'n gwylio'r cwbl? Achub fi wrth iddyn nhw ymosod arna i; cadw fi'n saff oddi wrth y llewod ifanc!
Psal WelBeibl 35:18  Wedyn bydda i'n diolch i ti yn y gynulleidfa fawr; bydda i'n dy foli di o flaen tyrfa enfawr o bobl.
Psal WelBeibl 35:19  Paid gadael i'r rhai sy'n elynion heb reswm lawenhau, nac i'r rhai sy'n fy nghasáu i heb achos wincio ar ei gilydd.
Psal WelBeibl 35:20  Dŷn nhw ddim am wneud lles i neb, dim ond cynllwynio yn eu herbyn, a thwyllo pobl ddiniwed.
Psal WelBeibl 35:21  A dyma nhw'n barod i'm llyncu innau, “A-ha! Dŷn ni wedi dy ddal di!” medden nhw.
Psal WelBeibl 35:22  O ARGLWYDD, rwyt ti wedi gweld y cwbl, felly paid cadw draw. Tyrd yma.
Psal WelBeibl 35:23  Symud, deffra, amddiffyn fi! Fy Nuw a'm Harglwydd, ymladd drosto i!
Psal WelBeibl 35:24  Achub fy ngham, O ARGLWYDD fy Nuw, am dy fod ti'n gyfiawn. Paid gadael iddyn nhw ddal ati i wneud sbort.
Psal WelBeibl 35:25  Paid gadael iddyn nhw feddwl, “A-ha! Dyma'n union beth roedden ni eisiau!” Paid gadael iddyn nhw ddweud, “Dŷn ni wedi'i ddinistrio!”
Psal WelBeibl 35:26  Rhwystra'r rhai sydd am wneud niwed i mi; coda gywilydd arnyn nhw! Cymer y rhai sydd wedi bod yn gwawdio mor falch a gwisga nhw gyda chywilydd ac embaras!
Psal WelBeibl 35:27  Ond gad i'r rhai sydd am i ti achub fy ngham weiddi'n llawen! Gad iddyn nhw allu dweud bob amser, “Yr ARGLWYDD sy'n rheoli! Mae am weld ei was yn llwyddo.”
Psal WelBeibl 35:28  Wedyn bydda i'n dweud wrth bawb dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn. Bydda i'n canu mawl i ti drwy'r dydd.