PSALMS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
Chapter 69
Psal | WelBeibl | 69:2 | Dw i'n suddo mewn cors ddofn, a does dim byd i mi sefyll arno. Dw i mewn dyfroedd dyfnion, ac yn cael fy ysgubo i ffwrdd gan y llifogydd. | |
Psal | WelBeibl | 69:3 | Dw i wedi blino gweiddi am help; mae fy ngwddf yn sych; mae fy llygaid yn cau ar ôl bod yn disgwyl yn obeithiol am Dduw. | |
Psal | WelBeibl | 69:4 | Mae mwy o bobl yn fy nghasáu i nag sydd o flew ar fy mhen. Mae cymaint o bobl gelwyddog yn fy erbyn i, ac eisiau fy nistrywio i. Sut alla i roi yn ôl rywbeth dw i heb ei ddwyn? | |
Psal | WelBeibl | 69:5 | O Dduw, rwyt ti'n gwybod gymaint o ffŵl ydw i. Dydy'r pethau dw i'n euog o'u gwneud ddim wedi'u cuddio oddi wrthot ti. | |
Psal | WelBeibl | 69:6 | Paid gadael i'r rhai sy'n dy drystio di fod â chywilydd ohono i, Feistr, ARGLWYDD hollbwerus. Paid gadael i'r rhai sy'n dy ddilyn di gael eu bychanu, O Dduw Israel. | |
Psal | WelBeibl | 69:8 | Dydy fy nheulu ddim eisiau fy nabod i; dw i fel rhywun estron i'm brodyr a'm chwiorydd. | |
Psal | WelBeibl | 69:9 | Mae fy sêl dros dy dŷ di wedi fy meddiannu i; dw i'n cael fy sarhau gan y rhai sy'n dy sarhau di. | |
Psal | WelBeibl | 69:12 | Mae'r rhai sy'n eistedd wrth giât y ddinas yn siarad amdana i; a dw i'n destun cân i'r meddwon. | |
Psal | WelBeibl | 69:13 | O ARGLWYDD, dw i'n gweddïo arnat ti ac yn gofyn i ti ddangos ffafr ata i. O Dduw, am dy fod ti mor ffyddlon, ateb fi ac achub fi. | |
Psal | WelBeibl | 69:14 | Tynna fi allan o'r mwd yma. Paid gadael i mi suddo! Achub fi rhag y bobl sy'n fy nghasáu i – achub fi o'r dŵr dwfn. | |
Psal | WelBeibl | 69:15 | Paid gadael i'r llifogydd fy ysgubo i ffwrdd! Paid gadael i'r dyfnder fy llyncu. Paid gadael i geg y pwll gau arna i. | |
Psal | WelBeibl | 69:19 | Ti'n gwybod fel dw i wedi cael fy sarhau, a'm bychanu a'm cywilyddio. Ti'n gweld y gelynion i gyd. | |
Psal | WelBeibl | 69:20 | Mae'r sarhau wedi torri fy nghalon i. Dw i'n anobeithio. Dw i'n edrych am gydymdeimlad, ond yn cael dim; am rai i'm cysuro, ond does neb. | |
Psal | WelBeibl | 69:21 | Yn lle hynny maen nhw'n rhoi gwenwyn yn fy mwyd, ac yn gwneud i mi yfed finegr i dorri fy syched. | |
Psal | WelBeibl | 69:23 | Gad iddyn nhw golli eu golwg a mynd yn ddall. Gwna iddyn nhw grynu mewn ofn drwy'r adeg. | |
Psal | WelBeibl | 69:26 | Maen nhw'n blino y rhai rwyt ti wedi'u taro, ac yn siarad am boen y rhai rwyt ti wedi'u hanafu. | |
Psal | WelBeibl | 69:27 | Ychwanega hyn at y pethau maen nhw'n euog o'u gwneud. Paid gadael iddyn nhw fynd yn rhydd! | |
Psal | WelBeibl | 69:28 | Rhwbia'u henwau oddi ar sgrôl y rhai sy'n fyw, Paid rhestru nhw gyda'r bobl sy'n iawn gyda ti. | |
Psal | WelBeibl | 69:32 | Bydd pobl gyffredin yn gweld hyn ac yn dathlu. Felly codwch eich calonnau, chi sy'n ceisio dilyn Duw! | |
Psal | WelBeibl | 69:33 | Mae'r ARGLWYDD yn gwrando ar y rhai sydd mewn angen, a dydy e ddim yn diystyru ei bobl sy'n gaeth. | |
Psal | WelBeibl | 69:35 | Oherwydd bydd Duw yn achub Seion ac yn adeiladu trefi Jwda eto. Bydd y bobl sy'n ei wasanaethu yn byw yno ac yn meddiannu'r wlad. | |