Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 106
Psal WelBeibl 106:1  Haleliwia! Diolchwch i'r ARGLWYDD! Mae e mor dda aton ni; mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
Psal WelBeibl 106:2  Pwy sy'n gallu dweud am yr holl bethau mawr mae'r ARGLWYDD wedi'u gwneud? Pwy sy'n gallu dweud cymaint mae e'n haeddu ei foli?
Psal WelBeibl 106:3  Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n byw yn gywir, ac yn gwneud beth sy'n iawn bob amser!
Psal WelBeibl 106:4  Cofia fi, O ARGLWYDD, pan fyddi di'n helpu dy bobl; sylwa arna i pan fyddi di'n eu hachub nhw!
Psal WelBeibl 106:5  Dw i eisiau gweld y rhai rwyt ti wedi'u dewis yn llwyddo; dw i eisiau rhannu eu llawenydd nhw, a dathlu gyda dy bobl di.
Psal WelBeibl 106:6  Dŷn ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu yn dy erbyn di; dŷn ni wedi mynd ar gyfeiliorn, a gwneud drwg.
Psal WelBeibl 106:7  Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad, a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch.
Psal WelBeibl 106:8  Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da, ac er mwyn dangos ei nerth.
Psal WelBeibl 106:9  Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu! Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial.
Psal WelBeibl 106:10  Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu, a'u rhyddhau o afael y gelyn.
Psal WelBeibl 106:11  Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion, gan adael dim un ar ôl yn fyw.
Psal WelBeibl 106:12  Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn, ac yn canu mawl iddo!
Psal WelBeibl 106:13  Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn! Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
Psal WelBeibl 106:14  Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch, a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.
Psal WelBeibl 106:15  Rhoddodd iddyn nhw beth roedden nhw eisiau, ond yna eu taro nhw gyda chlefyd oedd yn eu gwneud yn wan.
Psal WelBeibl 106:16  Roedd pobl yn y gwersyll yn genfigennus o Moses, ac o Aaron, yr un roedd yr ARGLWYDD wedi'i gysegru.
Psal WelBeibl 106:17  Agorodd y ddaear a llyncu Dathan, a gorchuddio'r rhai oedd gydag Abiram.
Psal WelBeibl 106:18  Cafodd tân ei gynnau yn eu plith nhw, a dyma'r fflamau'n llosgi'r bobl ddrwg hynny.
Psal WelBeibl 106:19  Wedyn dyma nhw'n gwneud eilun o darw yn Sinai, a phlygu i addoli delw o fetel!
Psal WelBeibl 106:20  Cyfnewid y Duw bendigedig am ddelw o ych sy'n bwyta glaswellt.
Psal WelBeibl 106:21  Roedden nhw wedi anghofio'r Duw achubodd nhw! Anghofio'r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft –
Psal WelBeibl 106:22  y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham, a'r pethau anhygoel wrth y Môr Coch.
Psal WelBeibl 106:23  Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw, dyma Moses, y dyn oedd wedi'i ddewis, yn sefyll yn y bwlch ac yn troi ei lid i ffwrdd oddi wrthyn nhw.
Psal WelBeibl 106:24  Wedyn dyma nhw'n gwrthod y tir hyfryd, ac yn gwrthod credu'r addewid roddodd e.
Psal WelBeibl 106:25  Roedden nhw'n cwyno yn eu pebyll ac yn gwrthod bod yn ufudd i'r ARGLWYDD.
Psal WelBeibl 106:26  Felly dyma Duw yn addo ar lw y byddai'n eu lladd nhw yn yr anialwch!
Psal WelBeibl 106:27  Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedd a'u chwalu nhw drwy'r gwledydd.
Psal WelBeibl 106:28  A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor, a bwyta aberthau wedi'u cyflwyno i bethau marw!
Psal WelBeibl 106:29  Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig, a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith.
Psal WelBeibl 106:30  Yna dyma Phineas yn ymyrryd, a dyma'r pla yn stopio.
Psal WelBeibl 106:31  Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, a hynny am byth!
Psal WelBeibl 106:32  Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon Meriba a bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos.
Psal WelBeibl 106:33  Roedden nhw wedi'i wneud e mor chwerw nes iddo ddweud pethau byrbwyll.
Psal WelBeibl 106:34  Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloedd fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
Psal WelBeibl 106:35  Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedd a dechrau byw yr un fath â nhw.
Psal WelBeibl 106:36  Roedden nhw'n addoli eu duwiau, a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu.
Psal WelBeibl 106:37  Dyma nhw'n aberthu eu meibion a'u merched i gythreuliaid!
Psal WelBeibl 106:38  Ie, tywallt gwaed plant diniwed – gwaed eu meibion a'u merched eu hunain – a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan. Roedd y tir wedi'i lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt.
Psal WelBeibl 106:39  Roedd beth wnaethon nhw'n eu llygru nhw; roedden nhw'n ymddwyn yn anffyddlon.
Psal WelBeibl 106:40  Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwylltio'n lân hefo nhw! Roedd yn ffieiddio ei bobl ei hun!
Psal WelBeibl 106:41  Dyma fe'n eu rhoi nhw yn nwylo'r cenhedloedd; a gadael i'w gelynion eu rheoli.
Psal WelBeibl 106:42  Roedd gelynion yn eu gormesu; roedden nhw dan eu rheolaeth nhw'n llwyr!
Psal WelBeibl 106:43  Er bod Duw wedi'u hachub nhw dro ar ôl tro, roedden nhw'n dal yn ystyfnig ac yn tynnu'n groes. Aeth pethau o ddrwg i waeth o achos eu drygioni.
Psal WelBeibl 106:44  Ond pan oedd Duw'n gweld eu bod nhw mewn trybini ac yn eu clywed nhw'n gweiddi am help,
Psal WelBeibl 106:45  roedd yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e iddyn nhw ac yn ymatal o achos ei gariad atyn nhw.
Psal WelBeibl 106:46  Gwnaeth i bawb oedd yn eu dal nhw'n gaeth fod yn garedig atyn nhw.
Psal WelBeibl 106:47  Achub ni, O ARGLWYDD ein Duw! Casgla ni at ein gilydd o blith y cenhedloedd! Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd, ac yn brolio'r cwbl rwyt ti wedi'i wneud.
Psal WelBeibl 106:48  Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Gadewch i'r bobl i gyd ddweud, “Amen!” Haleliwia!