Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 68
Psal WelBeibl 68:1  Pan mae Duw yn codi, mae'r gelynion yn cael eu gwasgaru; mae'r rhai sydd yn ei erbyn yn dianc oddi wrtho.
Psal WelBeibl 68:2  Chwytha nhw i ffwrdd, fel mwg yn cael ei chwythu gan y gwynt! Bydd pobl ddrwg yn cael eu difa gan Dduw, fel cwyr yn cael ei doddi gan dân.
Psal WelBeibl 68:3  Ond bydd y rhai cyfiawn yn dathlu, ac yn gorfoleddu o flaen Duw; byddan nhw wrth eu boddau!
Psal WelBeibl 68:4  Canwch i Dduw! Canwch gân o fawl iddo, a chanmol yr un sy'n marchogaeth y cymylau! Yr ARGLWYDD ydy ei enw! Dewch i ddathlu o'i flaen!
Psal WelBeibl 68:5  Tad plant amddifad, yr un sy'n amddiffyn gweddwon, ie, Duw yn ei gysegr.
Psal WelBeibl 68:6  Mae Duw yn rhoi'r digartref mewn teulu, ac yn gollwng caethion yn rhydd i sain cerddoriaeth. Ond bydd y rhai sy'n gwrthryfela yn byw mewn anialwch.
Psal WelBeibl 68:7  O Dduw, pan oeddet ti'n arwain dy bobl allan, ac yn martsio ar draws yr anialwch, Saib
Psal WelBeibl 68:8  dyma'r ddaear yn crynu, a'r awyr yn arllwys y glaw o flaen Duw, yr un oedd ar Sinai, o flaen Duw, sef Duw Israel.
Psal WelBeibl 68:9  Rhoist ddigonedd o law i'r tir, O Dduw, ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd yn gwywo.
Psal WelBeibl 68:10  Dyna ble mae dy bobl yn byw. Buost yn dda, a rhoi yn hael i'r anghenus, O Dduw.
Psal WelBeibl 68:11  Mae'r ARGLWYDD yn dweud y gair, ac mae tyrfa o ferched yn cyhoeddi'r newyddion da:
Psal WelBeibl 68:12  Mae'r brenhinoedd a'u byddinoedd yn ffoi ar frys, a gwragedd tŷ yn rhannu'r ysbail.
Psal WelBeibl 68:13  “Er dy fod wedi aros adre rhwng y corlannau, dyma i ti adenydd colomen wedi'u gorchuddio ag arian a blaenau'r adenydd yn aur melyn coeth.”
Psal WelBeibl 68:14  Pan oedd y Duw Hollalluog yn gwasgaru'r brenhinoedd, roedd fel petai storm eira yn chwythu ar Fynydd Salmon!
Psal WelBeibl 68:15  O fynydd anferth, mynydd Bashan; O fynydd y copaon uchel, mynydd Bashan;
Psal WelBeibl 68:16  O fynydd y copaon uchel, pam wyt ti mor genfigennus o'r mynydd mae Duw wedi'i ddewis i fyw arno? Dyna lle bydd yr ARGLWYDD yn aros am byth!
Psal WelBeibl 68:17  Mae gan Dduw ddegau o filoedd o gerbydau, a miloedd ar filoedd o filwyr. Mae'r ARGLWYDD gyda nhw; mae Duw Sinai wedi dod i'w gysegr.
Psal WelBeibl 68:18  Ti wedi mynd i fyny i'r ucheldir, ac arwain caethion ar dy ôl, a derbyn rhoddion gan bobl – hyd yn oed gan y rhai oedd yn gwrthwynebu i ti aros yno, ARGLWYDD Dduw.
Psal WelBeibl 68:19  Mae'r ARGLWYDD yn Dduw bendigedig! Mae e'n edrych ar ein holau ni o ddydd i ddydd. Duw ydy'n hachubwr ni! Saib
Psal WelBeibl 68:20  Ein Duw ni ydy'r Duw sy'n achub! Gyda'r ARGLWYDD, ein Meistr, gallwn ddianc rhag marwolaeth.
Psal WelBeibl 68:21  Fe ydy'r Duw sy'n taro pennau ei elynion – pob copa walltog sy'n euog o'i flaen.
Psal WelBeibl 68:22  Dwedodd yr ARGLWYDD, “Bydda i'n dod â'r gelynion yn ôl o Bashan, ie, hyd yn oed yn ôl o waelod y môr!
Psal WelBeibl 68:23  Byddi'n trochi dy draed yn eu gwaed, a bydd tafodau dy gŵn yn cael eu siâr o'r cyrff.”
Psal WelBeibl 68:24  Mae pobl yn gweld dy orymdaith, O Dduw, yr orymdaith pan mae fy Nuw, fy mrenin, yn mynd i'r cysegr:
Psal WelBeibl 68:25  y cantorion ar y blaen, yna'r offerynnwr yng nghanol y merched ifanc sy'n taro'r tambwrîn.
Psal WelBeibl 68:26  “Bendithiwch Dduw yn y gynulleidfa fawr! Bendithiwch yr ARGLWYDD, bawb sy'n tarddu o ffynnon Israel.”
Psal WelBeibl 68:27  Dacw Benjamin, yr ifancaf, yn arwain; penaethiaid Jwda yn dyrfa swnllyd; penaethiaid Sabulon a Nafftali.
Psal WelBeibl 68:28  Mae dy Dduw yn dy wneud di'n gryf! O Dduw, sydd wedi gweithredu ar ein rhan, dangos dy rym
Psal WelBeibl 68:29  wrth ddod o dy deml yn Jerwsalem. Boed i frenhinoedd dalu teyrnged i ti!
Psal WelBeibl 68:30  Cerydda fwystfil y corsydd brwyn, y gyr o deirw a'r bobl sy'n eu dilyn fel lloi! Gwna iddyn nhw blygu o dy flaen a rhoi arian i ti'n rhodd. Ti'n gyrru'r bobloedd sy'n mwynhau rhyfel ar chwâl!
Psal WelBeibl 68:31  Bydd llysgenhadon yn dod o'r Aifft, a bydd pobl Affrica yn brysio i dalu teyrnged i Dduw.
Psal WelBeibl 68:32  Canwch i Dduw, chi wledydd y byd! Canwch fawl i'r ARGLWYDD. Saib
Psal WelBeibl 68:33  I'r un sy'n marchogaeth drwy'r awyr – yr awyr sydd yno o'r dechrau. Gwrandwch! Mae ei lais nerthol yn taranu.
Psal WelBeibl 68:34  Cyfaddefwch mor rymus ydy Duw! Mae e'n teyrnasu yn ei holl ysblander dros Israel, ac yn dangos ei rym yn yr awyr.
Psal WelBeibl 68:35  O Dduw, rwyt ti'n syfrdanol yn dod allan o dy gysegr! Ie, Duw Israel sy'n rhoi grym a nerth i'w bobl. Boed i Dduw gael ei anrhydeddu!