Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 45
Psal WelBeibl 45:1  Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli. Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin; mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.
Psal WelBeibl 45:2  Ti ydy'r dyn mwya golygus sy'n bod, ac mae dy eiriau mor garedig. Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.
Psal WelBeibl 45:3  Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr! Dangos dy ysblander a dy fawredd.
Psal WelBeibl 45:4  Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth! Marchoga dros y gwir a dros gyfiawnder. Drwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!
Psal WelBeibl 45:5  Bydd dy saethau miniog yn trywanu calonnau dy elynion, a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.
Psal WelBeibl 45:6  Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth; a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.
Psal WelBeibl 45:7  Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni; felly mae Duw, ie, dy Dduw di, wedi dy eneinio di a thywallt olew llawenydd arnat ti yn fwy na neb arall.
Psal WelBeibl 45:8  Mae arogl hyfryd myrr, aloes a chasia ar dy ddillad i gyd. Mae offerynnau llinynnol o balasau ifori yn cael eu canu i dy ddifyrru di.
Psal WelBeibl 45:9  Mae tywysogesau ymhlith dy westeion, ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr, yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir.
Psal WelBeibl 45:10  Clyw, o dywysoges! Gwrando'n astud! Anghofia dy bobl a dy deulu.
Psal WelBeibl 45:11  Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch! Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo.
Psal WelBeibl 45:12  Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr, ac yn dod ag anrhegion i ti.
Psal WelBeibl 45:13  Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd, a'i gwisg briodas wedi'i brodio gyda gwaith aur manwl.
Psal WelBeibl 45:14  Mae hi'n cael ei harwain at y brenin, ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn, i'w chyflwyno i ti.
Psal WelBeibl 45:15  Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwain i mewn i balas y brenin.
Psal WelBeibl 45:16  Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid, ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad.
Psal WelBeibl 45:17  Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau, a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.