COLOSSIANS
Chapter 1
Colo | WelBeibl | 1:1 | Llythyr gan Paul, wedi fy newis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i'r Meseia Iesu. A gan y brawd Timotheus hefyd, | |
Colo | WelBeibl | 1:2 | At bobl Dduw yn Colosae sy'n ddilynwyr ffyddlon i'r Meseia: Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad yn ei roi i ni. | |
Colo | WelBeibl | 1:3 | Dŷn ni bob amser yn diolch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, pan dŷn ni'n gweddïo drosoch chi. | |
Colo | WelBeibl | 1:4 | Dŷn ni wedi clywed am eich ffyddlondeb chi i'r Meseia Iesu ac am y cariad sydd gynnoch chi at bawb arall sy'n credu. | |
Colo | WelBeibl | 1:5 | Mae'r ffydd a'r cariad hwnnw'n tarddu o'r gobaith hyderus y byddwch chi'n derbyn y cwbl sydd wedi'i storio yn y nefoedd i chi. Dych chi wedi clywed am hyn o'r blaen, pan gafodd y gwir (sef y newyddion da) | |
Colo | WelBeibl | 1:6 | ei rannu gyda chi am y tro cyntaf. Mae'r newyddion da yn mynd ar led ac yn dwyn ffrwyth drwy'r byd i gyd, a dyna'n union sydd wedi digwydd yn eich plith chi ers y diwrnod cyntaf i chi glywed am haelioni rhyfeddol Duw, a dod i'w ddeall yn iawn. | |
Colo | WelBeibl | 1:7 | Epaffras, ein cydweithiwr annwyl ni, ddysgodd hyn i gyd i chi, ac mae wedi bod yn gwasanaethu'r Meseia yn ffyddlon ar ein rhan ni. | |
Colo | WelBeibl | 1:9 | Ac felly dŷn ni wedi bod yn dal ati i weddïo drosoch chi ers y diwrnod y clywon ni hynny. Dŷn ni'n gofyn i Dduw ddangos i chi yn union beth mae eisiau, a'ch gwneud chi'n ddoeth i allu deall pethau ysbrydol. | |
Colo | WelBeibl | 1:10 | Pwrpas hynny yn y pen draw ydy i chi fyw fel mae Duw am i chi fyw, a'i blesio fe ym mhob ffordd: drwy fyw bywydau sy'n llawn o weithredoedd da o bob math, a dod i nabod Duw yn well. | |
Colo | WelBeibl | 1:11 | Dŷn ni'n gweddïo y bydd Duw yn defnyddio'r holl rym anhygoel sydd ganddo i'ch gwneud chi'n gryfach ac yn gryfach. Wedyn byddwch chi'n gallu dal ati yn amyneddgar, | |
Colo | WelBeibl | 1:12 | a diolch yn llawen i'r Tad. Fe sydd wedi'ch gwneud chi'n deilwng i dderbyn eich cyfran o beth mae wedi'i gadw i'w bobl ei hun yn nheyrnas y goleuni. | |
Colo | WelBeibl | 1:13 | Mae e wedi'n hachub ni o'r tywyllwch oedd yn ein gormesu ni. Ac mae wedi dod â ni dan deyrnasiad y Mab mae'n ei garu. | |
Colo | WelBeibl | 1:15 | Mae'n dangos yn union sut un ydy'r Duw anweledig – y ‛mab hynaf‛ wnaeth roi ei hun dros y greadigaeth gyfan. | |
Colo | WelBeibl | 1:16 | Cafodd popeth ei greu ganddo fe: popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear, popeth sydd i'w weld, a phopeth sy'n anweledig – y grymoedd a'r pwerau sy'n llywodraethu a rheoli. Cafodd popeth ei greu ganddo fe, i'w anrhydeddu e. | |
Colo | WelBeibl | 1:18 | Fe hefyd ydy'r pen ar y corff, sef yr eglwys; Fe ydy ei ffynhonnell hi, a'r cyntaf i ddod yn ôl yn fyw. Felly mae e'n ben ar y cwbl i gyd. | |
Colo | WelBeibl | 1:20 | ac yn cymodi popeth ag e'i hun drwyddo – pethau ar y ddaear ac yn y nefoedd. Daeth â heddwch drwy farw ar y groes. | |
Colo | WelBeibl | 1:21 | Ydy, mae wedi'ch cymodi chi hefyd! Chi oedd mor bell oddi wrth Dduw ar un adeg. Roeddech yn elynion iddo ac yn gwneud pob math o bethau drwg. Mae wedi'ch gwneud chi'n ffrindiau iddo'i hun | |
Colo | WelBeibl | 1:22 | drwy ddod yn ddyn o gig a gwaed, a marw ar y groes. Mae'n dod â chi at Dduw yn lân, yn ddi-fai, a heb unrhyw gyhuddiad yn eich erbyn. | |
Colo | WelBeibl | 1:23 | Ond rhaid i chi ddal i gredu, a bod yn gryf ac yn gadarn, a pheidio gollwng gafael yn y gobaith sicr mae'r newyddion da yn ei gynnig i chi. Dyma'r newyddion da glywoch chi, ac sydd wedi'i gyhoeddi drwy'r byd i gyd. A dyna'r gwaith dw i, Paul, wedi'i gael i'w wneud. | |
Colo | WelBeibl | 1:24 | Dw i'n falch o gael dioddef drosoch chi. Dw i'n cyflawni yn fy nghorff i beth o'r dioddef sydd ar ôl – sef ‛gofidiau'r Meseia‛ – a hynny er mwyn ei gorff, yr eglwys. | |
Colo | WelBeibl | 1:25 | Dw i wedi dod yn was iddi am fod Duw wedi rhoi gwaith penodol i mi, i gyhoeddi'r neges yn llawn ac yn effeithiol i chi sydd ddim yn Iddewon. | |
Colo | WelBeibl | 1:26 | Dyma'r cynllun dirgel gafodd ei gadw o'r golwg am oesoedd a chenedlaethau lawer, ond sydd bellach wedi'i ddangos i bobl Dduw. | |
Colo | WelBeibl | 1:27 | Mae Duw wedi dewis dangos fod y dirgelwch ffantastig yma ar gyfer pobl o bob cenedl. Y dirgelwch ydy bod y Meseia yn byw ynoch chi; a dyna'r hyder sydd gynnoch chi y cewch chi ran yn y pethau gwych sydd i ddod! | |
Colo | WelBeibl | 1:28 | Dŷn ni'n cyhoeddi'r neges amdano, ac yn rhybuddio a dysgu pawb mor ddoeth ag y gallwn ni. Dŷn ni eisiau cyflwyno pawb i Dduw yn ddilynwyr aeddfed i'r Meseia. | |