EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 15
Exod | WelBeibl | 15:1 | Dyma Moses a phobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD: “Dw i am ganu i'r ARGLWYDD a dathlu ei fuddugoliaeth: Mae e wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr! | |
Exod | WelBeibl | 15:2 | Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Fe sydd wedi fy achub i. Dyma'r Duw dw i'n ei addoli – Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol! | |
Exod | WelBeibl | 15:4 | Mae wedi taflu cerbydau y Pharo a'i fyddin i gyd i'r môr! Cafodd eu swyddogion gorau eu boddi yn y Môr Coch. | |
Exod | WelBeibl | 15:7 | Am dy fod mor aruthrol fawr, rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn – Ti'n dangos dy fod yn ddig, ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt. | |
Exod | WelBeibl | 15:8 | Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr, y llif yn sefyll fel argae, a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr. | |
Exod | WelBeibl | 15:9 | Dyma'r gelyn yn dweud, ‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw, a rhannu'r ysbail! Dw i'n mynd i gael amser da! Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro – dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’ | |
Exod | WelBeibl | 15:10 | Ond dyma ti'n chwythu, a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw! Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt! | |
Exod | WelBeibl | 15:11 | Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Does neb tebyg i ti – mor wych, ac mor sanctaidd, yn haeddu dy barchu a dy foli; ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol! | |
Exod | WelBeibl | 15:13 | Yn dy gariad byddi'n arwain y bobl rwyt wedi'u rhyddhau; byddi'n eu tywys yn dy nerth i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw. | |
Exod | WelBeibl | 15:15 | ac arweinwyr Edom wedi brawychu. Bydd dynion cryf Moab yn crynu, a phobl Canaan yn poeni. | |
Exod | WelBeibl | 15:16 | Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw – mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud fel carreg. Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl wedi pasio heibio, ARGLWYDD; nes i'r bobl wnest ti eu prynu basio heibio. | |
Exod | WelBeibl | 15:17 | Ond byddi'n mynd â nhw i mewn ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun – ble wyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD; y cysegr rwyt ti wedi'i sefydlu. | |
Exod | WelBeibl | 15:19 | Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw. Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.” | |
Exod | WelBeibl | 15:20 | Yna dyma Miriam y broffwydes (chwaer Aaron) yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl, gan ddawnsio. | |
Exod | WelBeibl | 15:21 | Roedd Miriam yn canu'r gytgan: “Canwch i'r ARGLWYDD i ddathlu ei fuddugoliaeth! Mae wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr!” | |
Exod | WelBeibl | 15:22 | Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Aethon nhw allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr. | |
Exod | WelBeibl | 15:23 | Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara – sef “Chwerw.”) | |
Exod | WelBeibl | 15:24 | Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw. | |
Exod | WelBeibl | 15:25 | Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr, roedd y dŵr yn iawn i'w yfed. Yn Mara, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw: | |
Exod | WelBeibl | 15:26 | “Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a cadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.” | |