Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
II SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 11
II S WelBeibl 11:1  Yn y gwanwyn, sef yr adeg pan fyddai brenhinoedd yn arfer mynd i ryfela, dyma Dafydd yn anfon Joab a'i fyddin allan. Dyma Joab a'i swyddogion, a holl fyddin Israel, yn mynd ac yn trechu byddin yr Ammoniaid a chodi gwarchae at ddinas Rabba. Ond arhosodd Dafydd yn Jerwsalem.
II S WelBeibl 11:2  Yn hwyr un p'nawn, dyma Dafydd yn codi ar ôl bod yn gorffwys, a mynd i gerdded ar do fflat y palas. O'r fan honno dyma fe'n digwydd gweld gwraig yn ymolchi. Roedd hi'n wraig arbennig o hardd.
II S WelBeibl 11:3  Dyma Dafydd yn anfon rhywun i ddarganfod pwy oedd hi, a daeth hwnnw yn ôl gyda'r ateb, “Bathseba ferch Eliam, gwraig Wreia yr Hethiad, ydy hi.”
II S WelBeibl 11:4  Felly dyma Dafydd yn anfon negeswyr i'w nôl hi. Ac wedi iddi ddod dyma fe'n cael rhyw gyda hi. (Roedd hi newydd fod drwy'r ddefod o buro'i hun ar ôl ei misglwyf.) Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre.
II S WelBeibl 11:5  Pan wnaeth hi ddarganfod ei bod hi'n disgwyl babi, dyma hi'n anfon neges at Dafydd i ddweud wrtho.
II S WelBeibl 11:6  Felly dyma Dafydd yn anfon neges at Joab, yn gofyn iddo anfon Wreia yr Hethiad ato. A dyma Joab yn gwneud hynny.
II S WelBeibl 11:7  Pan gyrhaeddodd Wreia, dyma Dafydd yn ei holi sut oedd Joab a'r fyddin, a beth oedd hanes y rhyfel.
II S WelBeibl 11:8  Yna dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Dos adre i ymlacio.” A phan adawodd Wreia y palas, dyma'r brenin yn anfon anrheg ar ei ôl.
II S WelBeibl 11:9  Ond wnaeth Wreia ddim mynd adre. Arhosodd gyda'r gweision eraill wrth ddrws y palas.
II S WelBeibl 11:10  Pan glywodd Dafydd fod Wreia heb fynd adre, galwodd amdano a gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim mynd adre neithiwr? Ti wedi bod i ffwrdd ers amser hir.”
II S WelBeibl 11:11  Atebodd Wreia, “Mae'r Arch, a milwyr Israel a Jwda yn aros mewn pebyll. Mae Joab, y capten, a'r swyddogion eraill, yn gwersylla yn yr awyr agored. Fyddai hi'n iawn i mi fynd adre i fwyta ac yfed a chysgu gyda ngwraig? Ar fy llw, allwn i byth wneud y fath beth!”
II S WelBeibl 11:12  Felly dyma Dafydd yn dweud wrtho, “Aros yma am ddiwrnod arall. Gwna i dy anfon di yn ôl yfory.” Felly dyma Wreia yn aros yn Jerwsalem am ddiwrnod arall. Drannoeth
II S WelBeibl 11:13  dyma Dafydd yn gwahodd Wreia i fwyta ac yfed gydag e, ac yn ei feddwi. Ond pan aeth Wreia allan gyda'r nos dyma fe'n cysgu allan eto gyda gweision ei feistr. Aeth e ddim adre.
II S WelBeibl 11:14  Felly, y bore wedyn, dyma Dafydd yn gofyn i Wreia fynd â llythyr i Joab.
II S WelBeibl 11:15  Dyma beth roedd wedi'i ysgrifennu yn y llythyr, “Rho Wreia yn y rheng flaen lle mae'r brwydro galetaf. Yna ciliwch yn ôl oddi wrtho, a'i adael i gael ei daro a'i ladd.”
II S WelBeibl 11:16  Roedd Joab wedi bod yn gwylio dinas Rabba, a dyma fe'n rhoi Wreia lle roedd yn gwybod fod milwyr gorau'r gelyn yn ymladd.
II S WelBeibl 11:17  Dyma filwyr y gelyn yn mentro allan i ymosod, a chafodd Wreia a nifer o filwyr eraill Dafydd eu lladd.
II S WelBeibl 11:18  Yna dyma Joab yn anfon adroddiad at Dafydd i ddweud beth oedd wedi digwydd yn y frwydr.
II S WelBeibl 11:19  Dwedodd wrth y negesydd, “Pan fyddi'n rhoi'r adroddiad o beth ddigwyddodd i'r brenin,
II S WelBeibl 11:20  falle y bydd e'n gwylltio a dechrau holi: ‘Pam aethoch chi mor agos i'r ddinas i ymladd? Oeddech chi ddim yn sylweddoli y bydden nhw'n saethu o ben y waliau?
II S WelBeibl 11:21  Pwy laddodd Abimelech fab Gideon yn Thebes? Gwraig yn gollwng maen melin arno o ben y wal! Pam aethoch chi mor agos i'r wal?’ Yna dywed wrtho ‘Cafodd dy was Wreia yr Hethiad ei ladd hefyd.’”
II S WelBeibl 11:22  Felly, dyma'r negesydd yn mynd ac yn rhoi'r adroddiad yn llawn i Dafydd.
II S WelBeibl 11:23  Meddai wrtho, “Daeth milwyr y gelyn allan i ymladd ar y tir agored. Ond dyma ni'n eu gyrru nhw yn ôl yr holl ffordd at giât y ddinas.
II S WelBeibl 11:24  Ond wedyn dyma'r bwasaethwyr yn saethu o ben y wal, a lladd rhai o dy swyddogion. Roedd dy was Wreia yr Hethiad yn un ohonyn nhw.”
II S WelBeibl 11:25  Yna dyma Dafydd yn dweud wrth y negesydd, “Dwed wrth Joab, ‘Paid poeni am y peth. Fel yna mae hi mewn rhyfel. Rhai'n cael eu lladd, eraill ddim. Brwydra'n galetach yn erbyn y ddinas, a'i choncro!’ Annog e yn ei flaen!”
II S WelBeibl 11:26  Pan glywodd Bathseba fod ei gŵr wedi marw, bu'n galaru amdano.
II S WelBeibl 11:27  Ond wedi i'r cyfnod o alaru ddod i ben, dyma Dafydd yn anfon amdani a dod â hi i'w balas. Dyma hi'n dod yn wraig iddo, a chafodd fab iddo. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn hapus o gwbl am beth roedd Dafydd wedi'i wneud,