JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 24
| Jere | WelBeibl | 24:1 | Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a'r seiri coed a'r gweithwyr metel. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi gweledigaeth i mi. Gwelais ddwy fasged yn llawn ffigys wedi'u gosod o flaen teml yr ARGLWYDD. | |
| Jere | WelBeibl | 24:2 | Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu'n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i'w bwyta. | |
| Jere | WelBeibl | 24:3 | Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld, Jeremeia?” A dyma fi'n ateb, “Ffigys. Mae'r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae'r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i'w bwyta.” | |
| Jere | WelBeibl | 24:5 | “Dyma dw i, yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae'r ffigys da yn cynrychioli'r bobl sydd wedi'u cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid. | |
| Jere | WelBeibl | 24:6 | Dw i wedi'u hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad yma. Bydda i'n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn. | |
| Jere | WelBeibl | 24:7 | Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’ | |
| Jere | WelBeibl | 24:8 | “Ond,” meddai'r ARGLWYDD, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi'u gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft. | |
| Jere | WelBeibl | 24:9 | Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw'n jôc. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw'n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi'u melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw. | |