Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 41
Jere WelBeibl 41:1  Yna, yn y seithfed mis dyma Ishmael (mab Nethaneia ac ŵyr i Elishama) yn mynd i gyfarfod â Gedaleia fab Achicam yn Mitspa. Roedd deg o ddynion eraill gydag e. (Roedd Ishmael yn perthyn i'r teulu brenhinol, ac roedd wedi bod yn un o brif swyddogion y Brenin Sedeceia.) Roedden nhw'n cael pryd o fwyd gyda'i gilydd yn Mitspa.
Jere WelBeibl 41:2  Ond yn sydyn dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e'n codi ac yn tynnu eu cleddyfau a lladd Gedaleia, y dyn roedd brenin Babilon wedi'i benodi i reoli'r wlad.
Jere WelBeibl 41:3  Lladdodd Ishmael hefyd bob un o swyddogion Jwda oedd gyda Gedaleia yn Mitspa, a rhai milwyr o Babilon oedd yn digwydd bod yno.
Jere WelBeibl 41:4  Y diwrnod wedyn, cyn i neb glywed fod Gedaleia wedi'i lofruddio,
Jere WelBeibl 41:5  dyma wyth deg o ddynion yn cyrraedd yno o Sichem, Seilo a Samaria. Roedden nhw wedi siafio'u barfau, rhwygo'u dillad a thorri eu hunain â chyllyll, ac yn dod ag offrymau o rawn ac arogldarth i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD yn y deml yn Jerwsalem.
Jere WelBeibl 41:6  Aeth Ishmael allan i'w cyfarfod nhw. Roedd yn cymryd arno ei fod yn crio. A phan ddaeth atyn nhw, dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Dewch i weld Gedaleia fab Achicam.”
Jere WelBeibl 41:7  Ond pan aethon nhw i mewn i'r ddinas, dyma Ishmael a'r dynion oedd gydag e'n eu lladd nhw hefyd a thaflu eu cyrff i bydew.
Jere WelBeibl 41:8  Llwyddodd deg ohonyn nhw i arbed eu bywydau drwy ddweud wrth Ishmael, “Paid lladd ni. Mae gynnon ni stôr o wenith, haidd, olew a mêl wedi'i guddio mewn cae.” Felly wnaeth Ishmael ddim eu lladd nhw gyda'r lleill.
Jere WelBeibl 41:9  Roedd y pydew lle taflodd Ishmael gyrff y dynion laddwyd yn un mawr. (Dyma'r pydew oedd Asa, brenin Jwda, wedi'i adeiladu pan oedd yn amddiffyn y ddinas rhag Baasha, brenin Israel.) Ond roedd Ishmael wedi llenwi'r pydew gyda'r cyrff!
Jere WelBeibl 41:10  Yna, dyma Ishmael yn cymryd pawb oedd yn Mitspa yn gaeth – roedd hyn yn cynnwys merched o'r teulu brenhinol, a phawb arall roedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, wedi'u gosod dan awdurdod Gedaleia fab Achicam. Cymerodd Ishmael nhw i gyd yn gaeth a chychwyn ar ei ffordd yn ôl i wlad Ammon.
Jere WelBeibl 41:11  Pan glywodd Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin am y pethau erchyll roedd Ishmael fab Nethaneia wedi'u gwneud,
Jere WelBeibl 41:12  dyma nhw'n mynd â'u milwyr i ymladd yn ei erbyn. Cawson nhw hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.
Jere WelBeibl 41:13  Roedd y bobl roedd Ishmael wedi'u cymryd yn gaethion o Mitspa wrth eu boddau pan welon nhw Iochanan a swyddogion eraill y fyddin gydag e.
Jere WelBeibl 41:14  Dyma nhw'n troi a mynd drosodd at Iochanan fab Careach.
Jere WelBeibl 41:15  Ond llwyddodd Ishmael fab Nethaneia ac wyth o ddynion eraill i ddianc a chroesi drosodd i wlad Ammon.
Jere WelBeibl 41:16  Dyma Iochanan fab Careach a swyddogion eraill y fyddin oedd gydag e yn arwain y bobl oedd wedi'u hachub i ffwrdd. (Roedd dynion, gwragedd a phlant, a swyddogion y llys yn eu plith, sef y bobl roedd Ishmael fab Nethaneia wedi'u cymryd yn gaeth o Mitspa ar ôl llofruddio Gedaleia fab Achicam.) Ar ôl gadael Gibeon,
Jere WelBeibl 41:17  dyma nhw'n aros yn Llety Cimham, sydd wrth ymyl Bethlehem. Y bwriad oedd mynd i'r Aifft
Jere WelBeibl 41:18  i ddianc oddi wrth y Babiloniaid. Roedd ganddyn nhw ofn beth fyddai'r Babiloniaid yn ei wneud am fod Ishmael fab Nethaneia wedi llofruddio Gedaleia, y dyn roedd brenin Babilon wedi'i benodi i reoli'r wlad.