Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 6
Jere WelBeibl 6:1  “Bobl Benjamin, ffowch i le saff! A dianc o ganol Jerwsalem! Chwythwch y corn hwrdd yn Tecoa, a chynnau tân yn Beth-hacerem i rybuddio'r bobl. Mae byddin yn dod o'r gogledd i ddinistrio popeth.
Jere WelBeibl 6:3  ond daw byddin iddi fel bugeiliaid yn arwain eu praidd. Byddan nhw'n codi eu pebyll o'i chwmpas, a bydd yn cael ei phori nes bydd dim ar ôl!
Jere WelBeibl 6:4  ‘Paratowch i ymladd yn ei herbyn! Dewch! Gadewch i ni ymosod arni ganol dydd!’ ‘Hen dro, mae'n dechrau nosi – mae'r haul yn machlud a'r cysgodion yn hir.’
Jere WelBeibl 6:5  ‘Sdim ots! Gadewch i ni ymosod ganol nos, a dinistrio'i phalasau yn llwyr.’
Jere WelBeibl 6:6  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Torrwch goed a chodi ramp i ymosod ar ei waliau. Hi ydy'r ddinas sydd i'w chosbi; does dim byd ond gormes ynddi!
Jere WelBeibl 6:7  Mae rhyw ddrwg yn tarddu ohoni'n ddi-baid, fel dŵr yn llifo o ffynnon. Sŵn trais a dinistr sydd i'w glywed ar ei strydoedd; a dw i'n gweld dim ond pobl wedi'u hanafu ym mhobman.’
Jere WelBeibl 6:8  Felly dysga dy wers, Jerwsalem! Neu bydda i'n troi yn dy erbyn, ac yn dy ddinistrio'n llwyr. Fydd neb yn byw ynot ti!”
Jere WelBeibl 6:9  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Byddan nhw'n lloffa'n llwyr y rhai fydd wedi'u gadael ar ôl. Byddan nhw fel casglwr grawnwin yn edrych dros y brigau yr ail waith i wneud yn siŵr fod dim ffrwyth wedi'i adael.”
Jere WelBeibl 6:10  Jeremeia: “Ond pwy sy'n mynd i wrando hyd yn oed os gwna i eu rhybuddio nhw? Maen nhw'n gwrthod gwrando. Dŷn nhw'n cymryd dim sylw! Mae dy neges, ARGLWYDD, yn jôc – does ganddyn nhw ddim eisiau ei chlywed!
Jere WelBeibl 6:11  Fel ti, dw i'n hollol ddig gyda nhw, ARGLWYDD; alla i ddim ei ddal yn ôl.” Yr ARGLWYDD: “Felly tywallt dy ddig ar y plant sy'n chwarae ar y stryd, ac ar y criw o bobl ifanc. Bydd cyplau priod yn cael eu cymryd i ffwrdd, y bobl hŷn a'r henoed.
Jere WelBeibl 6:12  Bydd eu tai'n cael eu rhoi i'r gelynion, a'u caeau, a'u gwragedd hefyd! Dw i'n mynd i daro pawb sy'n byw yn y wlad yma!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 6:13  “Maen nhw i gyd yn farus am elw anonest – y bobl gyffredin a'r arweinwyr. Hyd yn oed y proffwydi a'r offeiriaid – maen nhw i gyd yn twyllo!
Jere WelBeibl 6:14  Mae'r help maen nhw'n ei gynnig yn arwynebol a gwag. ‘Bydd popeth yn iawn,’ medden nhw; Ond dydy popeth ddim yn iawn!
Jere WelBeibl 6:15  Dylai fod cywilydd arnyn nhw am y fath beth! Ond na! Does ganddyn nhw ddim mymryn o gywilydd. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth ydy gwrido! Felly byddan nhw'n cael eu lladd gyda pawb arall. Bydda i'n eu cosbi nhw, a byddan nhw'n syrthio.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 6:16  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dych chi'n sefyll ar groesffordd, felly holwch am yr hen lwybrau – sef y ffordd sy'n arwain i fendith. Ewch ar hyd honno a cewch orffwys wedyn.” Ond ymateb y bobl oedd, “Na, dim diolch!”
Jere WelBeibl 6:17  “Anfonais broffwydi fel gwylwyr i'ch rhybuddio chi. Os ydy'r corn hwrdd yn rhoi rhybudd, rhaid i chi ymateb. Ond roeddech chi'n gwrthod cymryd unrhyw sylw.
Jere WelBeibl 6:18  Felly, chi'r cenhedloedd, gwrandwch ar hyn. Cewch weld beth fydd yn digwydd i'r bobl yma.
Jere WelBeibl 6:19  Gwranda dithau, ddaear. Dw i'n dod â dinistr ar y bobl yma. Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw am eu holl gynllwynio. Dŷn nhw ddim wedi cymryd sylw o beth dw i'n ddweud, ac maen nhw wedi gwrthod beth dw i'n ddysgu iddyn nhw.
Jere WelBeibl 6:20  Beth ydy pwynt cyflwyno thus o Sheba i mi, neu sbeisiau persawrus o wlad bell? Dw i ddim yn gallu derbyn eich offrymau i'w llosgi, a dydy'ch aberthau chi ddim yn plesio chwaith.”
Jere WelBeibl 6:21  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i osod cerrig o'u blaenau nhw, i wneud i'r bobl yma faglu a syrthio. Bydd rhieni a phlant, cymdogion a ffrindiau yn marw.”
Jere WelBeibl 6:22  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwyliwch! Mae byddin yn dod o gyfeiriad y gogledd. Mae gwlad gref ym mhen draw'r byd yn paratoi i fynd i ryfel.
Jere WelBeibl 6:23  Mae ei milwyr wedi gafael yn y bwa a'r cleddyf; maen nhw'n greulon a fyddan nhw'n dangos dim trugaredd. Mae sŵn eu ceffylau'n carlamu fel sŵn y môr yn rhuo. Mae eu rhengoedd nhw mor ddisgybledig, ac maen nhw'n dod yn eich erbyn chi, bobl Seion.”
Jere WelBeibl 6:24  Y bobl: “Dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, does dim byd allwn ni ei wneud. Mae dychryn wedi gafael ynon ni fel gwraig mewn poen wrth gael babi.
Jere WelBeibl 6:25  Paid mentro allan i gefn gwlad. Paid mynd allan ar y ffyrdd. Mae cleddyf y gelyn yn barod. Does ond dychryn ym mhobman!”
Jere WelBeibl 6:26  Jeremeia: “Fy mhobl annwyl, gwisgwch sachliain a rholio mewn lludw. Galarwch ac wylwch fel petai eich unig blentyn wedi marw – dyna'r golled fwya chwerw! Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod unrhyw funud!”
Jere WelBeibl 6:27  Yr ARGLWYDD: “Jeremeia, dw i am i ti brofi fy mhobl, fel un sy'n profi safon metel. Dw i am i ti eu gwylio nhw, a phwyso a mesur.”
Jere WelBeibl 6:28  Jeremeia: “Maen nhw'n ofnadwy o benstiff, yn dweud celwyddau, ac mor galed â haearn neu bres. Maen nhw i gyd yn creu llanast llwyr!
Jere WelBeibl 6:29  Mae'r fegin yn chwythu'n ffyrnig, a'r tân yn poethi. Ond mae gormod o amhurdeb i'r plwm ei symud. Mae'r broses o buro wedi methu, a'r drwg yn dal yno.
Jere WelBeibl 6:30  ‛Arian diwerth‛ ydy'r enw arnyn nhw, am fod yr ARGLWYDD wedi'u gwrthod nhw.”