JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 17
Jere | WelBeibl | 17:1 | “Mae pechod pobl Jwda wedi'i gerfio gyda chŷn haearn ar lech eu calonnau. Mae fel arysgrif wedi'i chrafu gyda diemwnt ar y cyrn ar gorneli'r allorau. | |
Jere | WelBeibl | 17:2 | Dydy'r plant yn gwybod am ddim byd ond am allorau paganaidd a pholion y dduwies Ashera! Maen nhw wedi'u gosod wrth ymyl pob coeden ddeiliog ar ben pob bryn, | |
Jere | WelBeibl | 17:3 | ar y mynyddoedd ac yn y caeau. Bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion. Dyma'r pris fyddwch chi'n ei dalu am yr holl bechu drwy'r wlad. | |
Jere | WelBeibl | 17:4 | Byddwch chi'n colli gafael yn y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi. Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.” | |
Jere | WelBeibl | 17:5 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Yr ARGLWYDD “Melltith ar y rhai sy'n trystio pobl feidrol a chryfder dynol, ac sydd wedi troi cefn arna i. | |
Jere | WelBeibl | 17:6 | Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial, heb ddim gobaith i'r dyfodol. Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth, mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw. | |
Jere | WelBeibl | 17:7 | Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio i ac yn rhoi eu hyder ynof fi. | |
Jere | WelBeibl | 17:8 | Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi'i phlannu ar lan afon, a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr. Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi; mae ei dail yn aros yn wyrdd. A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder; bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni. | |
Jere | WelBeibl | 17:9 | Oes rhywun yn deall y galon ddynol? Mae'n fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni. | |
Jere | WelBeibl | 17:10 | Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galon ac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl. Dw i'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn. | |
Jere | WelBeibl | 17:11 | Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyll fel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'u dodwy. Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl, ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.” | |
Jere | WelBeibl | 17:12 | Jeremeia: “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wych, yn uchel o'r dechrau cyntaf: ti ydy'r lle saff i ni droi! | |
Jere | WelBeibl | 17:13 | ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel, a bydd pawb sy'n troi cefn arnat ti yn cael eu cywilyddio. Yr ARGLWYDD Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirw am iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD, y ffynnon o ddŵr glân croyw.” | |
Jere | WelBeibl | 17:14 | Jeremeia: “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu; dim ond ti sy'n gallu fy achub. Ti ydy'r un dw i'n ei foli! | |
Jere | WelBeibl | 17:15 | Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i! ‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD? Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’ | |
Jere | WelBeibl | 17:16 | Gwnes i dy annog i atal y dinistr. Doedd gen i ddim eisiau gweld y diwrnod o drwbwl di-droi'n-ôl yn cyrraedd. Ti'n gwybod yn iawn beth ddwedais i. Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di. | |
Jere | WelBeibl | 17:18 | Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio; paid codi cywilydd arna i. Gad iddyn nhw gael eu siomi; paid siomi fi. Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw, a dinistria nhw'n llwyr!” | |
Jere | WelBeibl | 17:19 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i sefyll wrth Giât y Bobl lle mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan o'r ddinas. Yna dos at giatiau eraill y ddinas. | |
Jere | WelBeibl | 17:20 | Dwed wrth y bobl yno: ‘Frenhinoedd Jwda, pobl Jwda, a phawb sy'n byw yn Jerwsalem, pawb sy'n dod drwy'r giatiau yma, gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD. | |
Jere | WelBeibl | 17:21 | Gwyliwch am eich bywydau eich bod chi ddim yn cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth. | |
Jere | WelBeibl | 17:22 | Peidiwch cario dim allan o'ch tai chwaith, a mynd i weithio ar y Saboth. Dw i eisiau i'r Saboth fod yn ddiwrnod sbesial, fel y dwedais i wrth eich hynafiaid. | |
Jere | WelBeibl | 17:23 | Ond wnaethon nhw ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod dysgu gwers.’ | |
Jere | WelBeibl | 17:24 | “‘Ond os gwnewch chi wrando arna i,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘peidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar Saboth, cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio gweithio ar y diwrnod hwnnw, | |
Jere | WelBeibl | 17:25 | bydd brenhinoedd, disgynyddion Dafydd, yn dal i ddod drwy'r giatiau yma yn eu cerbydau ac ar geffylau. Bydd eu swyddogion yn dod gyda nhw, a phobl Jwda a Jerwsalem hefyd. Bydd pobl yn byw yn y ddinas yma am byth. | |
Jere | WelBeibl | 17:26 | Bydd pobl yn dod yma o drefi Jwda a'r ardal o gwmpas Jerwsalem, o dir llwyth Benjamin, o'r iseldir yn y gorllewin, o'r bryniau ac o'r Negef yn y de. Byddan nhw'n dod i deml yr ARGLWYDD gydag offrymau i'w llosgi ac aberthau, offrymau o rawn ac arogldarth, ac offrymau diolch. | |
Jere | WelBeibl | 17:27 | Ond rhaid i chi wrando arna i, a chadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, a pheidio cario pethau i'w gwerthu drwy giatiau Jerwsalem ar y Saboth. Os wnewch chi ddim gwrando bydda i'n rhoi giatiau Jerwsalem ar dân. Fydd y tân ddim yn diffodd, a bydd plastai Jerwsalem i gyd yn cael eu llosgi'n ulw.’” | |