Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 27
Jere WelBeibl 27:1  Yn fuan ar ôl i Sedeceia fab Joseia ddod yn frenin ar Jwda dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 27:2  Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i: “Gwna iau i ti dy hun, a'i rhwymo am dy wddf gyda strapiau lledr.
Jere WelBeibl 27:3  Wedyn anfon neges at frenhinoedd Edom, Moab, Ammon, Tyrus a Sidon. Rho'r neges i'r llysgenhadon maen nhw wedi'u hanfon at y Brenin Sedeceia yn Jerwsalem.
Jere WelBeibl 27:4  Dyma'r neges: ‘Mae Duw Israel, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn dweud,
Jere WelBeibl 27:5  “Fi ydy'r Duw wnaeth greu'r ddaear a'r holl bobl ac anifeiliaid sydd arni. Dw i'n Dduw cryf a nerthol, a fi sy'n dewis pwy sy'n ei rheoli.
Jere WelBeibl 27:6  Dw i wedi penderfynu rhoi'ch gwledydd chi i gyd yn nwylo fy ngwas, y Brenin Nebwchadnesar o Babilon. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt yn ei wasanaethu e!
Jere WelBeibl 27:7  Bydd y gwledydd i gyd yn ei wasanaethu e, a'i fab a'i ŵyr. Ond wedyn bydd yr amser yn dod pan fydd ei wlad e'n syrthio, a bydd nifer o wledydd eraill a brenhinoedd mawr yn gorchfygu Babilon ac yn ei rheoli hi.
Jere WelBeibl 27:8  “‘“Ond beth os bydd gwlad neu deyrnas yn gwrthod ymostwng i Nebwchadnesar, brenin Babilon? Beth fydd yn digwydd i'r wlad sy'n gwrthod rhoi ei gwar dan iau Babilon? Bydda i fy hun yn ei chosbi! Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint, nes bydd Babilon wedi'u dinistrio nhw yn llwyr.
Jere WelBeibl 27:9  Felly peidiwch gwrando ar eich proffwydi, na'r bobl hynny sy'n dweud ffortiwn drwy ddehongli breuddwydion, cysylltu gyda'r meirw neu ddewino – y rhai sy'n dweud fydd dim rhaid i chi wasanaethu brenin Babilon.
Jere WelBeibl 27:10  Maen nhw'n dweud celwydd. Os gwrandwch chi arnyn nhw byddwch chi'n cael eich cymryd i ffwrdd yn bell o'ch gwlad. Bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch yn marw yno.
Jere WelBeibl 27:11  Ond bydd y wlad sy'n rhoi ei gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e, yn cael llonydd. Byddan nhw'n cael dal ati i drin eu tir a byw yn eu gwlad eu hunain. Fi, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.”’”
Jere WelBeibl 27:12  Dwedais yr un peth wrth Sedeceia, brenin Jwda. “Rhaid i chi roi eich gwar dan iau brenin Babilon, a'i wasanaethu e a'i bobl. Os gwnewch chi hynny cewch fyw.
Jere WelBeibl 27:13  Pam ddylet ti â'th bobl gael eich lladd â'r cleddyf, neu drwy newyn a haint? Yn ôl yr ARGLWYDD dyna fydd yn digwydd i unrhyw wlad sy'n gwrthod plygu i frenin Babilon.
Jere WelBeibl 27:14  Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch na fydd raid i chi wasanaethu brenin Babilon. Maen nhw'n dweud celwydd!
Jere WelBeibl 27:15  ‘Wnes i mo'u hanfon nhw,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Maen nhw'n honni eu bod nhw'n siarad drosto i, ond proffwydo celwydd maen nhw. Os gwrandwch chi arnyn nhw bydda i'n eich gyrru chi i ffwrdd, a byddwch chi a'r proffwydi sy'n dweud celwydd yn marw yn y gaethglud.’”
Jere WelBeibl 27:16  Wedyn dyma fi'n dweud wrth yr offeiriaid a'r bobl i gyd, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Peidiwch gwrando ar y proffwydi sy'n dweud wrthoch chi y bydd dodrefn a llestri gwerthfawr y deml yn dod yn ôl o Babilon.’ Maen nhw'n dweud celwydd.
Jere WelBeibl 27:17  Peidiwch gwrando arnyn nhw. Os gwnewch chi wasanaethu brenin Babilon, cewch fyw. Pam ddylai'r ddinas yma gael ei dinistrio?
Jere WelBeibl 27:18  Os ydyn nhw'n broffwydi go iawn ac os ydy'r ARGLWYDD yn siarad hefo nhw, gwell iddyn nhw ddechrau gweddïo'n daer ar yr ARGLWYDD hollbwerus – gweddïo na fydd y dodrefn a'r llestri sydd ar ôl yn y deml a phalas y brenin yn cael eu cymryd i ffwrdd i Babilon!
Jere WelBeibl 27:19  Achos dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y pileri pres o flaen y deml, y ddysgl fawr bres sy'n cael ei galw ‛Y Môr‛, a'r trolïau pres, ac am bob dodrefnyn arall gwerthfawr sydd wedi'i adael yn y ddinas yma.
Jere WelBeibl 27:20  (Dyma'r pethau adawodd Nebwchadnesar brenin Babilon yn Jerwsalem pan aeth â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, a phobl bwysig Jerwsalem i gyd yn gaethion i Babilon.)
Jere WelBeibl 27:21  Ie, dyma mae Duw Israel, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn ei ddweud am y pethau gwerthfawr sydd wedi'u gadael yn y deml a phalas y brenin yn Jerwsalem:
Jere WelBeibl 27:22  ‘Bydd y cwbl yn cael eu cario i ffwrdd i Babilon ac yn aros yno nes bydda i'n dewis gwneud rhywbeth amdanyn nhw. Wedyn bydda i'n dod â nhw'n ôl i'r lle yma eto,’ Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.”