Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 31
Jere WelBeibl 31:1  “Bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD, “fi fydd Duw pob llwyth yn Israel, a byddan nhw yn bobl i mi.”
Jere WelBeibl 31:2  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Cafodd pobl Israel osgoi'r cleddyf a profi ffafr Duw yn yr anialwch, wrth iddyn nhw chwilio am le i orffwys.
Jere WelBeibl 31:3  Roedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo mewn gwlad bell, a dweud, ‘Mae fy nghariad i atat ti yn gariad sy'n para am byth, a dyna pam dw i wedi aros yn ffyddlon i ti.
Jere WelBeibl 31:4  Bydda i'n dy ailadeiladu eto, o wyryf annwyl Israel! Byddi'n gafael yn dy dambwrîn eto, ac yn mynd allan i ddawnsio a joio.
Jere WelBeibl 31:5  Byddi'n plannu gwinllannoedd ar fryniau Samaria unwaith eto. A'r rhai fydd yn eu plannu fydd yn cael mwynhau eu ffrwyth.
Jere WelBeibl 31:6  Mae'r amser yn dod pan fydd y gwylwyr yn gweiddi ar fryniau Effraim: “Dewch! Gadewch i ni fynd i fyny i Seion i addoli'r ARGLWYDD ein Duw.”’”
Jere WelBeibl 31:7  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Canwch yn llawen dros bobl Israel, a gweiddi o blaid y wlad bwysicaf. Gweiddi ac addoli gan ddweud, ‘Achub dy bobl, o ARGLWYDD, achub y rhai sydd ar ôl o Israel.’
Jere WelBeibl 31:8  ‘Ydw, dw i'n mynd i ddod â nhw o dir y gogledd; dw i'n mynd i'w casglu nhw o ben draw'r byd. Bydd pobl ddall a chloff yn dod gyda nhw, gwragedd beichiog hefyd, a'r rhai sydd ar fin cael plant. Bydd tyrfa fawr yn dod yn ôl yma.
Jere WelBeibl 31:9  Byddan nhw'n dod yn eu dagrau, yn gweddïo wrth i mi eu harwain yn ôl. Bydda i'n eu harwain wrth ymyl afonydd o ddŵr ac ar hyd llwybrau gwastad lle fyddan nhw ddim yn baglu. Fi ydy tad Israel; Effraim ydy fy mab hynaf.’”
Jere WelBeibl 31:10  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi'r cenhedloedd i gyd, a'i chyhoeddi yn y gwledydd pell ar yr arfordir a'r ynysoedd: “Bydd yr ARGLWYDD, wnaeth yrru pobl Israel ar chwâl, yn eu casglu eto ac yn gofalu amdanyn nhw fel bugail yn gofalu am ei braidd.”
Jere WelBeibl 31:11  Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ryddhau pobl Jacob. Bydd yn eu gollwng nhw'n rhydd o afael yr un wnaeth eu trechu nhw.
Jere WelBeibl 31:12  Byddan nhw'n dod gan ganu'n frwd ar Fynydd Seion. Byddan nhw'n wên i gyd am fod yr ARGLWYDD mor dda. Mae'n rhoi ŷd, sudd grawnwin ac olew olewydd, ŵyn a lloi bach. Mae'n gwneud bywyd fel gardd hyfryd wedi'i dyfrio. Fyddan nhw byth yn teimlo'n llesg a blinedig eto.
Jere WelBeibl 31:13  Yna bydd y merched ifanc yn dawnsio'n llawen, a'r bechgyn ifanc a'r dynion hŷn yn dathlu gyda'i gilydd. Bydda i'n troi eu galar yn llawenydd. Bydda i'n eu cysuro nhw, a rhoi hapusrwydd yn lle tristwch.
Jere WelBeibl 31:14  Bydd gan yr offeiriaid fwy na digon o aberthau, a bydd fy mhobl yn cael digonedd o bethau da, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 31:15  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae cri i'w chlywed yn Rama, sŵn wylo chwerw a galaru mawr – Rachel yn crio am ei phlant. Mae'n gwrthod cael ei chysuro, am eu bod nhw wedi mynd.”
Jere WelBeibl 31:16  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Stopia grio. Paid colli mwy o ddagrau. Dw i'n mynd i roi gwobr i ti am dy waith. Bydd dy blant yn dod yn ôl o wlad y gelyn.
Jere WelBeibl 31:17  Mae gobaith i'r dyfodol,” meddai'r ARGLWYDD “Bydd dy blant yn dod yn ôl i'w gwlad eu hunain.
Jere WelBeibl 31:18  Dw i wedi clywed pobl Effraim yn dweud yn drist, ‘Roedden ni'n wyllt fel tarw ifanc heb ei ddofi. Ti wedi'n disgyblu ni, a dŷn ni wedi dysgu'n gwers. Gad i ni ddod yn ôl i berthynas iawn hefo ti. Ti ydy'r ARGLWYDD ein Duw ni.
Jere WelBeibl 31:19  Roedden ni wedi troi cefn arnat ti, ond bellach dŷn ni wedi troi'n ôl. Ar ôl gweld ein bai roedden ni wedi'n llethu gan alar am fod mor wirion! Roedd gynnon ni gywilydd go iawn am y ffordd roedden ni wedi ymddwyn pan oedden ni'n ifanc.’
Jere WelBeibl 31:20  Yr ARGLWYDD: Yn wir mae pobl Effraim yn dal yn blant i mi! Maen nhw'n blant annwyl yn fy ngolwg i. Er fy mod wedi gorfod eu ceryddu nhw, dw i'n dal yn eu caru nhw. Mae'r teimladau mor gryf yno i, alla i ddim peidio dangos trugaredd atyn nhw.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 31:21  Jeremeia: O wyryf annwyl Israel! Cofia'r ffordd aethost ti. Gosod arwyddion, a chodi mynegbyst i ganfod y ffordd yn ôl. Tyrd yn ôl! Tyrd adre i dy drefi dy hun.
Jere WelBeibl 31:22  Am faint wyt ti'n mynd i oedi, ferch anffyddlon? Mae'r ARGLWYDD yn creu rhywbeth newydd – mae fel benyw yn amddiffyn dyn!
Jere WelBeibl 31:23  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i roi'r cwbl wnaeth pobl Jwda ei golli yn ôl iddyn nhw, a byddan nhw'n dweud eto am Jerwsalem: ‘O fynydd cysegredig lle mae cyfiawnder yn byw, boed i'r ARGLWYDD dy fendithio di!’
Jere WelBeibl 31:24  Bydd pobl yn byw gyda'i gilydd yn nhrefi Jwda unwaith eto. Bydd yno ffermwyr a bugeiliaid crwydrol yn gofalu am eu praidd.
Jere WelBeibl 31:25  Bydda i'n rhoi diod i'r rhai sydd wedi blino, ac yn adfywio'r rhai sy'n teimlo'n llesg.”
Jere WelBeibl 31:26  Yn sydyn dyma fi'n deffro ac yn edrych o'm cwmpas. Rôn i wedi bod yn cysgu'n braf!
Jere WelBeibl 31:27  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd poblogaeth fawr a digonedd o anifeiliaid yn Israel a Jwda unwaith eto.
Jere WelBeibl 31:28  Yn union fel roeddwn i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu tynnu o'r gwraidd a'u chwalu, eu dinistrio a'u bwrw i lawr, yn y dyfodol bydda i'n gwylio i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu hadeiladu a'u plannu'n ddiogel,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 31:29  “Bryd hynny fydd pobl ddim yn dweud pethau fel: ‘Mae'r rhieni wedi bwyta grawnwin surion ond y plant sy'n diodde'r blas drwg.’
Jere WelBeibl 31:30  Bydd pawb yn marw am ei bechod ei hun. Pwy bynnag sy'n bwyta'r grawnwin surion fydd yn diodde'r blas drwg.”
Jere WelBeibl 31:31  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud ymrwymiad newydd gyda phobl Israel a Jwda.
Jere WelBeibl 31:32  Fydd hwn ddim yr un fath â'r un wnes i gyda'u hynafiaid (pan afaelais yn eu llaw a'u harwain allan o'r Aifft). Roedden nhw wedi torri amodau'r ymrwymiad hwnnw, er fy mod i wedi bod yn ŵr ffyddlon iddyn nhw.
Jere WelBeibl 31:33  Dyma'r ymrwymiad fydda i'n ei wneud gyda phobl Israel bryd hynny,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydda i'n rhoi fy nghyfraith yn eu calonnau nhw, ac yn ei hysgrifennu ar eu meddyliau nhw. Fi fydd eu Duw nhw, a nhw fydd fy mhobl i.
Jere WelBeibl 31:34  Fyddan nhw ddim yn gorfod dysgu pobl eraill, a dweud wrth ei gilydd, ‘Rhaid i ti ddod i nabod yr ARGLWYDD’. Byddan nhw i gyd yn fy nabod i, y bobl gyffredin a'r arweinwyr, am fy mod i'n maddau iddyn nhw am y pethau wnaethon nhw o'i le, ac yn anghofio'u pechodau am byth.”
Jere WelBeibl 31:35  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sydd wedi gosod trefn i'r haul roi golau'n y dydd a'r lleuad a'r sêr roi eu golau'n y nos, yr un sy'n corddi'r môr yn donnau mawr – yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e:
Jere WelBeibl 31:36  “Byddai dileu pobl Israel fel cenedl yr un fath â chael gwared â threfn natur!”
Jere WelBeibl 31:37  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Mae'n amhosib mesur yr awyr a'r gofod, neu archwilio sylfeini'r ddaear. Mae'r un mor amhosib i mi wrthod pobl Israel am bopeth drwg maen nhw wedi'i wneud,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 31:38  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd dinas Jerwsalem yn cael ei hadeiladu i mi eto, o Dŵr Chanan-el i Giât y Gornel.
Jere WelBeibl 31:39  Bydd ei ffiniau'n ymestyn i'r gorllewin at Fryn Gareb ac yna'n troi i'r de i lawr i Goath.
Jere WelBeibl 31:40  Bydd hyd yn oed y dyffryn lle cafodd yr holl gyrff marw a'u lludw eu taflu, a'r holl gaeau i lawr at Ddyffryn Cidron yn y dwyrain at gornel Giât y Ceffylau, yn rhan o'r ddinas fydd wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD. Fydd y ddinas ddim yn cael ei chwynnu na'i bwrw i lawr byth eto.”