JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 34
Jere | WelBeibl | 34:1 | Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, a'i fyddin (oedd yn cynnwys milwyr o'r holl wledydd roedd wedi'u concro) yn ymosod ar Jerwsalem a'r trefi o'i chwmpas. A dyna pryd rhoddodd yr ARGLWYDD neges arall i Jeremeia, | |
Jere | WelBeibl | 34:2 | a dweud wrtho am fynd i ddweud wrth Sedeceia, brenin Jwda: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i roi'r ddinas yma yn nwylo brenin Babilon, a bydd yn ei llosgi'n ulw. | |
Jere | WelBeibl | 34:3 | A fyddi di ddim yn dianc o'i afael. Byddi'n cael dy ddal ac yn cael dy osod i sefyll dy brawf o'i flaen a'i wynebu'n bersonol. Wedyn byddi'n cael dy gymryd i Babilon.’ | |
Jere | WelBeibl | 34:4 | Ond gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud amdanat ti, Sedeceia, brenin Jwda. Mae'n dweud: ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddienyddio. | |
Jere | WelBeibl | 34:5 | Byddi'n cael marw'n dawel. Byddan nhw'n llosgi arogldarth yn dy angladd di, yn union fel gwnaethon nhw i'r brenhinoedd oedd o dy flaen di. Byddan nhw'n wylo ac yn galaru ar dy ôl di, “O, ein meistr!” Dw i'n addo i ti. Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn.’” | |
Jere | WelBeibl | 34:7 | Roedd byddin brenin Babilon yn dal i ymladd yn erbyn Jerwsalem ar y pryd, a hefyd yn erbyn Lachish ac Aseca, yr unig gaerau amddiffynnol yn Jwda oedd yn dal eu tir. | |
Jere | WelBeibl | 34:8 | Cafodd Jeremeia neges arall gan yr ARGLWYDD ar ôl i'r Brenin Sedeceia ymrwymo gyda'r bobl yn Jerwsalem i ollwng eu caethweision yn rhydd. | |
Jere | WelBeibl | 34:9 | Roedd pawb i fod i ryddhau'r dynion a'r merched oedd yn gaethweision. Doedd neb i fod i gadw un o'u pobl eu hunain o Jwda yn gaeth. | |
Jere | WelBeibl | 34:10 | Cytunodd pawb, yr arweinwyr a'r bobl i gyd, ac ymrwymo i ollwng eu caethweision yn rhydd – y dynion a'r merched oedd wedi bod yn gweithio iddyn nhw. Ar y dechrau dyma nhw'n gwneud beth roedden nhw wedi'i addo. | |
Jere | WelBeibl | 34:11 | Ond ar ôl hynny dyma nhw'n newid eu meddyliau, a chymryd y dynion a'r merched yn ôl, a'u gorfodi i weithio fel caethweision eto. | |
Jere | WelBeibl | 34:13 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, a'u rhyddhau nhw o fod yn gaethweision, gwnes i gytundeb gyda nhw: | |
Jere | WelBeibl | 34:14 | “Bob saith mlynedd rhaid i chi ollwng yn rhydd eich cydwladwyr Hebreig sydd wedi gwerthu eu hunain i chi ac wedi'ch gwasanaethu chi am chwe mlynedd.” Ond wnaeth eich hynafiaid ddim gwrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. | |
Jere | WelBeibl | 34:15 | Ond yna'n ddiweddar dyma chi'n newid eich ffyrdd a gwneud beth roeddwn i eisiau. Dyma chi'n gadael i'ch cydwladwyr fynd yn rhydd, ac mewn seremoni yn y deml ymrwymo i gadw at hynny. | |
Jere | WelBeibl | 34:16 | Ond wedyn dyma chi'n newid eich meddwl eto a dangos bod gynnoch chi ddim parch ata i go iawn. Dyma chi'n cymryd y dynion a'r merched oedd wedi cael eu gollwng yn rhydd i fyw eu bywydau eu hunain, a'u gwneud nhw'n gaethweision unwaith eto! | |
Jere | WelBeibl | 34:17 | “‘Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dych chi ddim wedi gwrando arna i go iawn. Dych chi ddim wedi gollwng eich cymdogion a'ch cydwladwyr yn rhydd. Felly dw i'n mynd i roi rhyddid i ryfel, newyn a haint eich lladd chi.” Fi, yr ARGLWYDD, sy'n dweud hyn. “Bydd beth fydd yn digwydd i chi yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. | |
Jere | WelBeibl | 34:18 | Bydda i'n cosbi'r bobl hynny sydd wedi torri amodau'r ymrwymiad. Bydda i'n eu gwneud nhw fel y llo gafodd ei dorri yn ei hanner ganddyn nhw wrth dyngu'r llw a cherdded rhwng y darnau. | |
Jere | WelBeibl | 34:19 | Bydda i'n cosbi swyddogion Jwda, swyddogion Jerwsalem, swyddogion y llys brenhinol, yr offeiriaid, a phawb arall wnaeth gerdded rhwng y darnau o'r llo. | |
Jere | WelBeibl | 34:20 | Byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion sydd am eu lladd nhw. Bydd eu cyrff yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt. | |
Jere | WelBeibl | 34:21 | Bydd y Brenin Sedeceia a'i swyddogion yn cael eu rhoi yn nwylo'r gelynion hefyd. Mae brenin Babilon a'i fyddin wedi mynd i ffwrdd a stopio ymosod arnoch chi am y tro. | |