JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 1
Jere | WelBeibl | 1:1 | Neges Jeremeia, mab Chilceia, oedd yn offeiriad yn Anathoth (tref ar dir llwyth Benjamin). | |
Jere | WelBeibl | 1:2 | Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges iddo am y tro cyntaf pan oedd Joseia fab Amon wedi bod yn frenin ar Jwda ers un deg tair o flynyddoedd. | |
Jere | WelBeibl | 1:3 | Dyma Duw yn dal ati i roi negeseuon iddo pan oedd Jehoiacim, mab Joseia, yn frenin, ac wedyn am yr un deg un mlynedd y buodd Sedeceia (mab arall Joseia) yn frenin. Yn y pumed mis yn y flwyddyn olaf honno, cafodd pobl Jerwsalem eu cymryd i ffwrdd yn gaethion. | |
Jere | WelBeibl | 1:5 | “Rôn i'n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni, a dy benodi di'n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.” | |
Jere | WelBeibl | 1:6 | “O! Feistr, ARGLWYDD!” meddwn i. “Alla i ddim siarad ar dy ran di, dw i'n rhy ifanc.” | |
Jere | WelBeibl | 1:7 | Ond dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Paid dweud, ‘Dw i'n rhy ifanc.’ Byddi di'n mynd i ble dw i'n dy anfon di ac yn dweud beth dw i'n ddweud wrthot ti. | |
Jere | WelBeibl | 1:9 | Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn estyn ei law ac yn cyffwrdd fy ngheg i, a dweud, “Dyna ti. Dw i'n rhoi fy ngeiriau i yn dy geg di. | |
Jere | WelBeibl | 1:10 | Ydw, dw i wedi dy benodi di heddiw a rhoi awdurdod i ti dros wledydd a theyrnasoedd. Byddi'n tynnu o'r gwraidd ac yn chwalu, yn dinistrio ac yn bwrw i lawr, yn adeiladu ac yn plannu.” | |
Jere | WelBeibl | 1:11 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld cangen o goeden almon.” | |
Jere | WelBeibl | 1:12 | A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Ie, yn hollol. Dw i'n gwylio i wneud yn siŵr y bydd beth dw i'n ddweud yn dod yn wir.” | |
Jere | WelBeibl | 1:13 | Yna'r ail waith dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld crochan yn berwi, ac mae ar fin cael ei dywallt o gyfeiriad y gogledd.” | |
Jere | WelBeibl | 1:14 | “Ie,” meddai'r ARGLWYDD wrtho i, “bydd dinistr yn cael ei dywallt ar bobl y wlad yma o gyfeiriad y gogledd. | |
Jere | WelBeibl | 1:15 | Edrych, dw i'n mynd i alw ar bobloedd a brenhinoedd y gogledd.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “‘Byddan nhw'n gosod eu gorseddau wrth giatiau Jerwsalem. Byddan nhw'n ymosod ar y waliau o'i chwmpas, ac ar drefi eraill Jwda i gyd.’ | |
Jere | WelBeibl | 1:16 | “Bydda i'n cyhoeddi'r ddedfryd yn erbyn fy mhobl, ac yn eu cosbi nhw am yr holl bethau drwg maen nhw wedi'i wneud – sef troi cefn arna i a llosgi arogldarth i dduwiau eraill. Addoli pethau maen nhw wedi'u gwneud gyda'i dwylo eu hunain! | |
Jere | WelBeibl | 1:17 | “Ond ti, Jeremeia, bydd di'n barod. Dos, a dweud wrthyn nhw bopeth dw i'n ddweud wrthot ti. Paid bod â'u hofn nhw, neu bydda i'n dy ddychryn di o'u blaenau nhw. | |
Jere | WelBeibl | 1:18 | Ond heddiw dw i'n dy wneud di fel tref gaerog, neu fel colofn haearn neu wal bres. Byddi'n gwneud safiad yn erbyn y wlad i gyd, yn erbyn brenhinoedd Jwda, ei swyddogion, ei hoffeiriaid a'i phobl. | |