JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 4
Jere | WelBeibl | 4:1 | “Dim ond i ti droi yn ôl, o Israel,” meddai'r ARGLWYDD “Ie, troi yn ôl! Cael gwared â'r eilun-dduwiau ffiaidd yna o'm golwg i a stopio crwydro o hyn ymlaen; | |
Jere | WelBeibl | 4:2 | dweud y gwir, a bod yn onest wrth dyngu llw, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw!’ Wedyn bydd y cenhedloedd am iddo'u bendithio nhw, a byddan nhw'n ymffrostio ynddo.” | |
Jere | WelBeibl | 4:3 | Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, bobl Jwda a Jerwsalem: “Rhaid i chi drin y tir caled, a pheidio hau had da yng nghanol drain; | |
Jere | WelBeibl | 4:4 | rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD, newid eich agwedd a chael gwared â phob rhwystr. Os na wnewch chi, bydda i'n ddig. Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd, o achos yr holl ddrwg dych chi wedi'i wneud.” | |
Jere | WelBeibl | 4:5 | Yr ARGLWYDD: “Cyhoeddwch hyn yn Jwda, a dweud wrth bawb yn Jerwsalem: ‘Chwythwch y corn hwrdd i rybuddio pobl drwy'r wlad i gyd.’ Gwaeddwch yn uchel, ‘Dewch, rhaid dianc i'r trefi caerog!’ | |
Jere | WelBeibl | 4:6 | Codwch arwydd yn dweud, ‘I Seion!’ Ffowch i le saff! Peidiwch sefyllian! Dw i ar fin dod â dinistr o gyfeiriad y gogledd – trychineb ofnadwy! | |
Jere | WelBeibl | 4:7 | Mae llew wedi dod allan o'i ffau! Mae'r un sy'n dinistrio cenhedloedd ar ei ffordd. Mae'n dod i ddifetha'r wlad, a gwneud ei threfi'n adfeilion lle bydd neb yn byw. | |
Jere | WelBeibl | 4:8 | Felly gwisgwch sachliain, a galaru ac udo: ‘Mae'r ARGLWYDD yn dal wedi digio'n lân hefo ni.’” | |
Jere | WelBeibl | 4:9 | “Y diwrnod hwnnw,” meddai'r ARGLWYDD, “bydd y brenin a'i swyddogion wedi colli pob hyder. Bydd yr offeiriaid yn syfrdan a'r proffwydi'n methu dweud gair.” | |
Jere | WelBeibl | 4:10 | Fy ymateb i oedd, “O! Feistr, ARGLWYDD, mae'n rhaid dy fod ti wedi twyllo'r bobl yma'n llwyr, a Jerwsalem hefyd! Roeddet ti wedi addo heddwch i Jerwsalem, ond mae cleddyf yn cyffwrdd ein gyddfau ni!” | |
Jere | WelBeibl | 4:11 | Bryd hynny bydd yr ARGLWYDD yn dweud wrth y bobl yma ac wrth Jerwsalem, “Bydd gwynt poeth o fryniau'r anialwch yn chwythu ar fy mhobl druan. Nid rhyw wynt ysgafn i nithio'r had a chwythu'r us i ffwrdd fydd e. | |
Jere | WelBeibl | 4:13 | Edrychwch! Mae'r gelyn yn dod fel cymylau'n casglu. Mae sŵn ei gerbydau fel sŵn corwynt, a'i geffylau yn gyflymach nag eryrod. “Gwae ni, mae hi ar ben arnon ni!” meddai'r bobl. | |
Jere | WelBeibl | 4:14 | O, Jerwsalem, golcha'r drwg o dy galon i ti gael dy achub. Am faint wyt ti'n mynd i ddal gafael yn dy syniadau dinistriol? | |
Jere | WelBeibl | 4:16 | Cyhoeddwch i'r gwledydd o'i chwmpas, “Maen nhw yma!” a dwedwch wrth Jerwsalem, “Mae'r rhai sy'n ymosod ar ddinasoedd wedi dod o wlad bell, ac yn bloeddio, ‘I'r gad!’ yn erbyn trefi Jwda.” | |
Jere | WelBeibl | 4:17 | Maen nhw'n cau amdani o bob cyfeiriad, fel gwylwyr yn gofalu am gae. “Ydy, mae hi wedi gwrthryfela yn fy erbyn i,” meddai'r ARGLWYDD. | |
Jere | WelBeibl | 4:18 | Ti wedi dod â hyn arnat dy hun, achos y ffordd rwyt wedi byw a'r pethau rwyt wedi'u gwneud. Bydd dy gosb yn brofiad chwerw! Bydd fel cleddyf yn treiddio i'r byw! | |
Jere | WelBeibl | 4:19 | Jeremeia: O'r poen dw i'n ei deimlo! Mae fel gwayw yn fy mol, ac mae fy nghalon i'n pwmpio'n wyllt. Alla i ddim cadw'n dawel wrth glywed y corn hwrdd yn seinio a'r milwyr yn gweiddi “I'r gad!” | |
Jere | WelBeibl | 4:20 | Mae un dinistr yn dod ar ôl y llall, nes bod y wlad i gyd wedi'i difetha. Yn sydyn mae pob pabell wedi'i dinistrio, a'u llenni wedi'u rhwygo mewn chwinciad. | |
Jere | WelBeibl | 4:21 | Am faint mae'n rhaid edrych ar faneri'r gelyn? Am faint fydd raid i'r rhyfela fynd ymlaen? | |
Jere | WelBeibl | 4:22 | Yr ARGLWYDD: “Mae fy mhobl yn ffyliaid. Dŷn nhw ddim yn fy nabod i go iawn. Maen nhw fel plant heb ddim sens. Dŷn nhw'n deall dim byd! Maen nhw'n hen lawiau ar wneud drwg, ond ddim yn gwybod sut i wneud beth sy'n dda.” | |
Jere | WelBeibl | 4:23 | Jeremeia: Edrychais ar y ddaear, ac roedd yn anrhefn gwag. Edrychais i'r awyr, a doedd dim golau! | |
Jere | WelBeibl | 4:24 | Edrychais ar y mynyddoedd, ac roedden nhw'n crynu! Roedd y bryniau i gyd yn gwegian. | |
Jere | WelBeibl | 4:25 | Edrychais eto – doedd dim pobl yn unman, ac roedd yr adar i gyd wedi hedfan i ffwrdd. | |
Jere | WelBeibl | 4:26 | Edrychais, ac roedd y tir amaeth wedi troi'n anialwch, a'r trefi i gyd yn adfeilion. Yr ARGLWYDD oedd wedi achosi'r cwbl, am ei fod wedi digio'n lân hefo ni. | |
Jere | WelBeibl | 4:27 | Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y tir i gyd yn destun sioc ond fydda i ddim yn ei ddinistrio'n llwyr. | |
Jere | WelBeibl | 4:28 | Bydd y ddaear yn galaru, a'r awyr wedi tywyllu. Dw i wedi dweud yn glir beth dw i am ei wneud, a dw i ddim yn bwriadu newid fy meddwl.” | |
Jere | WelBeibl | 4:29 | Mae sŵn y marchogion a'r bwasaethwyr yn dod, ac mae pawb yn ffoi o'r trefi. Maen nhw'n cuddio yn y llwyni, ac yn dringo'r clogwyni. Mae'r trefi'n wag – does neb ar ôl ynddyn nhw! | |
Jere | WelBeibl | 4:30 | A thithau'r ddinas sy'n mynd i gael dy ddinistrio: Beth wyt ti'n wneud yn dy ddillad gorau? Pam wyt ti'n addurno dy hun hefo dy dlysau? Pam wyt ti'n rhoi colur ar dy lygaid? Does dim pwynt i ti wisgo colur. Mae dy ‛gariadon‛ wedi dy wrthod; maen nhw eisiau dy ladd di! | |