JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 49
Jere | WelBeibl | 49:1 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am bobl Ammon: “Oes gan Israel ddim disgynyddion? Oes neb ohonyn nhw ar ôl i etifeddu'r tir? Ai dyna pam dych chi sy'n addoli Milcom wedi dwyn tir Gad a setlo yn ei drefi? | |
Jere | WelBeibl | 49:2 | Felly, mae'r amser yn dod,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn, “pan fydd sŵn rhyfel i'w glywed yn Rabba. Bydd prifddinas Ammon yn domen o adfeilion, a bydd ei phentrefi yn cael eu llosgi'n ulw. Wedyn bydd Israel yn cymryd ei thir yn ôl gan y rhai gymrodd ei thir oddi arni,” —meddai'r ARGLWYDD. | |
Jere | WelBeibl | 49:3 | “Udwch, bobl Cheshbon, am fod Ai wedi'i bwrw i lawr! Gwaeddwch, chi sydd yn y pentrefi o gwmpas Rabba! Gwisgwch sachliain a galarwch! Rhedwch o gwmpas yn anafu eich hunain! Bydd eich duw Milcom yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e! | |
Jere | WelBeibl | 49:4 | Pam dych chi'n brolio eich bod mor gryf? Mae eich cryfder yn diflannu, bobl anffyddlon! Roeddech yn trystio eich cyfoeth ac yn meddwl, ‘Pwy fyddai'n meiddio ymosod arnon ni?’ | |
Jere | WelBeibl | 49:5 | Wel, dw i'n mynd i dy ddychryn di o bob cyfeiriad,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus. “Byddi'n cael dy yrru ar chwâl, a fydd neb yna i helpu'r ffoaduriaid. | |
Jere | WelBeibl | 49:6 | “Ond wedyn bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Ammon yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 49:7 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am Edom: “Oes rhywun doeth ar ôl yn Teman? Oes neb call ar ôl i roi cyngor? Ydy eu doethineb nhw wedi diflannu? | |
Jere | WelBeibl | 49:8 | Ffowch! Trowch yn ôl! Ewch i guddio'n bell, bobl Dedan! Dw i'n dod â dinistr ar ddisgynyddion Esau, mae'n amser i mi eu cosbi. | |
Jere | WelBeibl | 49:9 | Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti, oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? Petai lladron yn dod yn y nos, fydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau! | |
Jere | WelBeibl | 49:10 | Ond dw i'n mynd i gymryd popeth oddi ar bobl Esau. Bydda i'n dod o hyd iddyn nhw; fyddan nhw ddim yn gallu cuddio. Bydd eu plant, eu perthnasau, a'u cymdogion i gyd yn cael eu dinistrio. Fydd neb ar ôl! | |
Jere | WelBeibl | 49:11 | Gadael dy blant amddifad gyda mi, gwna i ofalu amdanyn nhw. Bydd dy weddwon hefyd yn gallu dibynnu arna i.” | |
Jere | WelBeibl | 49:12 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Os oes rhaid i bobl ddiniwed ddiodde, wyt ti'n meddwl y byddi di'n dianc? Na! Bydd rhaid i tithau yfed o gwpan barn. | |
Jere | WelBeibl | 49:13 | Dw i wedi addo ar lw,” meddai'r ARGLWYDD. “Bydd Bosra yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd yn destun sbort. Bydd yn cael ei dinistrio'n llwyr a'i gwneud yn enghraifft o bobl wedi'u melltithio. Bydd eu trefi yn cael eu gadael yn adfeilion am byth.” | |
Jere | WelBeibl | 49:14 | Jeremeia: “Ces i neges gan yr ARGLWYDD, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, ‘Dewch at eich gilydd i ymosod arni hi. Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!’” | |
Jere | WelBeibl | 49:15 | Yr ARGLWYDD: “Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan; bydd pawb yn cael hwyl ar dy ben. | |
Jere | WelBeibl | 49:16 | Mae dy allu i ddychryn pobl a dy falchder wedi dy dwyllo di. Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig, yn byw ar ben y mynydd – ond hyd yn oed petaet ti'n gwneud dy nyth mor uchel â'r eryr, bydda i'n dy dynnu di i lawr.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 49:17 | “Bydd Edom yn cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr. | |
Jere | WelBeibl | 49:18 | Bydd yn union yr un fath â Sodom a Gomorra a'r pentrefi o'u cwmpas. Fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno eto,” yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 49:19 | “Bydda i'n gyrru pobl Edom o'u tir, fel llew yn dod allan o goedwig wyllt yr Iorddonen ac yn gyrru'r praidd yn y borfa agored ar chwâl. Bydda i'n dewis yr hyrddod gorau i'w llarpio. Achos pwy sy'n debyg i mi? Pwy sy'n mynd i'm galw i gyfri? Pa fugail sy'n gallu sefyll yn fy erbyn i?” | |
Jere | WelBeibl | 49:20 | Dyma gynllun yr ARGLWYDD yn erbyn Edom. Dyma mae'n bwriadu ei wneud i bobl Teman. “Bydd hyd yn oed yr ŵyn bach yn cael eu llusgo i ffwrdd. Bydd eu corlan yn cael ei dinistrio am beth wnaethon nhw. | |
Jere | WelBeibl | 49:21 | Bydd pobl y ddaear yn crynu wrth glywed am eu cwymp. Bydd eu sŵn nhw'n gweiddi i'w glywed wrth y Môr Coch. | |
Jere | WelBeibl | 49:22 | Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn codi i'r awyr, yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Bosra. Y diwrnod hwnnw bydd milwyr Edom wedi dychryn, fel gwraig ar fin cael babi!” | |
Jere | WelBeibl | 49:23 | Neges am Damascus: “Mae pobl Chamath ac Arpad wedi drysu. Maen nhw wedi clywed newyddion drwg. Maen nhw'n poeni ac wedi cynhyrfu fel môr stormus sy'n methu bod yn llonydd. | |
Jere | WelBeibl | 49:24 | Mae pobl Damascus wedi colli pob hyder, ac wedi ffoi mewn panig. Mae poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, fel gwraig ar fin cael babi. | |
Jere | WelBeibl | 49:25 | Bydd y ddinas enwog yn wag cyn bo hir – y ddinas oedd unwaith yn llawn bwrlwm a hwyl! | |
Jere | WelBeibl | 49:26 | Bydd ei bechgyn ifanc yn syrthio'n farw ar ei strydoedd, a'i milwyr i gyd yn cael eu lladd y diwrnod hwnnw,” —yr ARGLWYDD hollbwerus sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 49:27 | “Bydda i'n llosgi waliau Damascus, a bydd y tân yn dinistrio caerau amddiffynnol Ben-hadad.” | |
Jere | WelBeibl | 49:28 | Neges am Cedar ac ardaloedd Chatsor, gafodd eu taro gan Nebwchadnesar, brenin Babilon: Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Fyddin Babilon, codwch ac ymosod ar Cedar! Dinistriwch bobl y dwyrain. | |
Jere | WelBeibl | 49:29 | Cymerwch eu pebyll a'u preiddiau, eu llenni a'u hoffer, a'u camelod i gario'r cwbl i ffwrdd. Bydd pobl yn gweiddi: ‘Does ond dychryn ym mhobman!’ | |
Jere | WelBeibl | 49:30 | Bobl Chatsor, rhedwch i ffwrdd; ewch i guddio mewn ogofâu! Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn bwriadu ymosod arnoch chi. Mae e'n bwriadu eich dinistrio chi! | |
Jere | WelBeibl | 49:31 | Codwch, ac ymosod ar wlad sy'n meddwl ei bod mor saff!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Does dim giatiau dwbl gyda barrau i'w hamddiffyn, a does neb wrth ymyl i'w helpu. | |
Jere | WelBeibl | 49:32 | Bydd y milwyr yn cymryd ei chamelod a'i gyrroedd o wartheg yn ysbail. Bydda i'n gyrru ar chwâl bawb sy'n byw ar ymylon yr anialwch. Daw dinistr arnyn nhw o bob cyfeiriad, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 49:33 | Bydd Chatsor wedi'i throi'n adfeilion am byth. Bydd yn lle i siacaliaid fyw – fydd neb yn byw nac yn setlo i lawr yno. | |
Jere | WelBeibl | 49:34 | Y neges roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am wlad Elam, yn fuan ar ôl i Sedeceia gael ei wneud yn frenin ar Jwda. | |
Jere | WelBeibl | 49:35 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i'n mynd i ladd bwasaethwyr Elam, sef asgwrn cefn eu grym milwrol. | |
Jere | WelBeibl | 49:36 | Dw i'n mynd i ddod â gelynion yn erbyn pobl Elam o bob cyfeiriad, a byddan nhw'n cael eu gyrru ar chwâl. Bydd ffoaduriaid o Elam yn dianc i bobman. | |
Jere | WelBeibl | 49:37 | Bydd pobl Elam wedi'u dychryn yn lân gan y gelynion sydd am eu lladd nhw. Dw i wedi gwylltio'n lân hefo nhw, a dw i'n mynd i'w dinistrio nhw,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Bydda i'n anfon byddinoedd eu gelynion ar eu holau, nes bydda i wedi'u dinistrio nhw'n llwyr. | |
Jere | WelBeibl | 49:38 | Bydda i'n teyrnasu dros Elam. Bydda i'n lladd eu brenin a'u swyddogion,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |