JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 23
| Jere | WelBeibl | 23:1 | “Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid, maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.” | |
| Jere | WelBeibl | 23:2 | Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi'i wneud,” meddai'r ARGLWYDD. | |
| Jere | WelBeibl | 23:3 | “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw. | |
| Jere | WelBeibl | 23:4 | Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD. | |
| Jere | WelBeibl | 23:5 | “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad. | |
| Jere | WelBeibl | 23:6 | Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub a bydd Israel yn saff. Yr enw ar y brenin yma fydd, ‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:7 | “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:8 | bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi'u gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.” | |
| Jere | WelBeibl | 23:9 | Neges am y proffwydi: Jeremeia: Dw i wedi cynhyrfu'n lân, a dw i'n crynu drwyddo i. Dw i fel dyn wedi meddwi, fel rhywun sy'n chwil gaib. Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r ARGLWYDD a'i neges yn cael eu trin. | |
| Jere | WelBeibl | 23:10 | Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo. Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi'i felltithio. Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo. A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg ac yn camddefnyddio'u grym. | |
| Jere | WelBeibl | 23:11 | Yr ARGLWYDD: “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol. Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud hyd yn oed yn y deml ei hun!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
| Jere | WelBeibl | 23:12 | “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig. Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio. Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw. Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
| Jere | WelBeibl | 23:13 | “Gwelais broffwydi Samaria gynt yn gwneud peth cwbl anweddus: Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal, ac yn camarwain fy mhobl, Israel. | |
| Jere | WelBeibl | 23:14 | A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll. Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd! Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg yn lle ceisio'u cael nhw i stopio. Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i. Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.” | |
| Jere | WelBeibl | 23:15 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y proffwydi: “Bydda i'n gwneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw, ac yfed dŵr gwenwynig barn. Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol am ledaenu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.” | |
| Jere | WelBeibl | 23:16 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud – maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag. Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. | |
| Jere | WelBeibl | 23:17 | Maen nhw'n dal ati i ddweud wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:18 | Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r ARGLWYDD, ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud? Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?” | |
| Jere | WelBeibl | 23:19 | Jeremeia: Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig. Bydd yn dod fel storm. Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg. | |
| Jere | WelBeibl | 23:20 | Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd. | |
| Jere | WelBeibl | 23:21 | Yr ARGLWYDD: “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma, ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges. Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw, ond roedden nhw'n dal i broffwydo. | |
| Jere | WelBeibl | 23:22 | Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.” | |
| Jere | WelBeibl | 23:23 | “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r ARGLWYDD. “Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?” | |
| Jere | WelBeibl | 23:24 | “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!” | |
| Jere | WelBeibl | 23:25 | “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi'n ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw. | |
| Jere | WelBeibl | 23:26 | Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo'u hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd? | |
| Jere | WelBeibl | 23:27 | Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal. | |
| Jere | WelBeibl | 23:28 | Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!” meddai'r ARGLWYDD. | |
| Jere | WelBeibl | 23:29 | “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai'r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.” | |
| Jere | WelBeibl | 23:30 | “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges oddi ar ei gilydd,” meddai'r ARGLWYDD. | |
| Jere | WelBeibl | 23:31 | “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud …’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:32 | Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi'i ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i mo'u hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD. | |
| Jere | WelBeibl | 23:33 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:34 | Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu. | |
| Jere | WelBeibl | 23:35 | Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i'ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:36 | Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD hollbwerus, y Duw byw! | |
| Jere | WelBeibl | 23:37 | Beth ddylech chi ei ofyn i'r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’ | |
| Jere | WelBeibl | 23:38 | Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud, “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny. | |
| Jere | WelBeibl | 23:39 | Felly, dw i'n mynd i'ch codi chi a'ch taflu chi i ffwrdd – chi a'r ddinas rois i i'ch hynafiaid chi. | |