Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 23
Jere WelBeibl 23:1  “Mae ar ben ar arweinwyr y wlad!” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle gofalu am fy mhobl fel mae bugeiliaid yn gofalu am eu defaid, maen nhw'n gwneud niwed iddyn nhw a'u gyrru nhw ar chwâl.”
Jere WelBeibl 23:2  Felly dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud am y ‛bugeiliaid‛ yma sydd i fod i ofalu am fy mhobl: “Dych chi wedi chwalu'r praidd a gyrru'r defaid i ffwrdd yn lle gofalu amdanyn nhw. Felly bydda i'n eich cosbi chi am y drwg dych chi wedi'i wneud,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:3  “Ond dw i'n mynd i gasglu'r defaid sydd ar ôl at ei gilydd. Bydda i'n eu casglu nhw o'r gwledydd lle gwnes i eu gyrru nhw, a'u harwain nhw yn ôl i'w corlan. Byddan nhw'n cael rhai bach a bydd mwy a mwy ohonyn nhw.
Jere WelBeibl 23:4  Bydda i'n penodi arweinwyr fydd yn gofalu'n iawn amdanyn nhw. Fydd dim rhaid iddyn nhw fod ag ofn. Fydd dim byd i'w dychryn nhw, a fydd dim un ohonyn nhw yn mynd ar goll,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:5  “Mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydda i'n gwneud i flaguryn dyfu ar goeden deuluol Dafydd, un fydd yn gwneud beth sy'n iawn. Bydd e'n frenin fydd yn teyrnasu'n ddoeth. Bydd e'n gwneud beth sy'n gyfiawn ac yn deg yn y wlad.
Jere WelBeibl 23:6  Bryd hynny bydd Jwda'n cael ei hachub a bydd Israel yn saff. Yr enw ar y brenin yma fydd, ‘Yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfiawnder i ni.’
Jere WelBeibl 23:7  “Ac eto, mae amser gwell i ddod,” meddai'r ARGLWYDD. “Yn lle dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o'r Aifft …’
Jere WelBeibl 23:8  bydd pobl yn dweud, ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr un achubodd bobl Israel o dir y gogledd ac o'r gwledydd lle roedd wedi'u gyrru nhw.’ A bryd hynny byddan nhw'n cael byw yn eu gwlad eu hunain.”
Jere WelBeibl 23:9  Neges am y proffwydi: Jeremeia: Dw i wedi cynhyrfu'n lân, a dw i'n crynu drwyddo i. Dw i fel dyn wedi meddwi, fel rhywun sy'n chwil gaib. Alla i ddim diodde'r ffordd mae'r ARGLWYDD a'i neges yn cael eu trin.
Jere WelBeibl 23:10  Mae'r wlad yn llawn pobl sy'n anffyddlon iddo. Mae'r tir wedi sychu am ei fod wedi'i felltithio. Does dim porfa yn yr anialwch – mae wedi gwywo. A'r cwbl am eu bod nhw'n byw bywydau drwg ac yn camddefnyddio'u grym.
Jere WelBeibl 23:11  Yr ARGLWYDD: “Mae'r proffwydi a'r offeiriaid yn bobl annuwiol. Dw i wedi gweld y pethau ofnadwy maen nhw'n eu gwneud hyd yn oed yn y deml ei hun!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 23:12  “Felly bydd eu llwybrau yn dywyll a llithrig. Byddan nhw'n baglu ac yn syrthio. Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw. Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 23:13  “Gwelais broffwydi Samaria gynt yn gwneud peth cwbl anweddus: Roedden nhw'n proffwydo ar ran y duw Baal, ac yn camarwain fy mhobl, Israel.
Jere WelBeibl 23:14  A nawr dw i'n gweld proffwydi Jerwsalem yn gwneud rhywbeth yr un mor erchyll. Maen nhw'n anffyddlon i mi ac yn dilyn celwydd! Maen nhw'n annog y rhai sy'n gwneud drwg yn lle ceisio'u cael nhw i stopio. Maen nhw mor ddrwg â Sodom yn fy ngolwg i. Mae pobl Jerwsalem fel pobl Gomorra.”
Jere WelBeibl 23:15  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud am y proffwydi: “Bydda i'n gwneud i'r bobl yma ddioddef yn chwerw, ac yfed dŵr gwenwynig barn. Mae proffwydi Jerwsalem yn gyfrifol am ledaenu annuwioldeb drwy'r wlad i gyd.”
Jere WelBeibl 23:16  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Peidiwch gwrando ar beth mae'r proffwydi yna'n ei ddweud – maen nhw'n eich twyllo gyda'u gobaith gwag. Maen nhw'n rhannu eu ffantasïau yn lle beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.
Jere WelBeibl 23:17  Maen nhw'n dal ati i ddweud wrth y rhai sy'n ddirmygus ohono i, ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud y bydd popeth yn iawn!’ Maen nhw'n dweud wrth y rhai sy'n ystyfnig, ‘Fydd dim byd drwg yn digwydd i chi.’
Jere WelBeibl 23:18  Ond prun ohonyn nhw sy'n gwybod cynlluniau'r ARGLWYDD, ac wedi clywed a deall beth mae e'n ddweud? Prun ohonyn nhw sydd wedi gwrando arno?”
Jere WelBeibl 23:19  Jeremeia: Gwyliwch chi! Bydd yr ARGLWYDD yn ddig. Bydd yn dod fel storm. Bydd fel corwynt dinistriol yn disgyn ar y rhai drwg.
Jere WelBeibl 23:20  Fydd llid yr ARGLWYDD ddim yn tawelu nes bydd wedi gwneud popeth mae'n bwriadu ei wneud. Byddwch chi'n dod i ddeall y peth yn iawn ryw ddydd.
Jere WelBeibl 23:21  Yr ARGLWYDD: “Wnes i ddim anfon y proffwydi yma, ond roedden nhw'n rhedeg i gyhoeddi eu neges. Wnes i ddim rhoi neges iddyn nhw, ond roedden nhw'n dal i broffwydo.
Jere WelBeibl 23:22  Petaen nhw wedi sefyll o'm blaen a gwrando, bydden nhw wedi cyhoeddi fy neges i'm pobl. Bydden nhw wedi gwneud iddyn nhw droi cefn ar ddrwg.”
Jere WelBeibl 23:23  “Ai rhyw dduw bach lleol ydw i?” meddai'r ARGLWYDD. “Onid fi ydy'r Duw sy'n gweld popeth o bell?”
Jere WelBeibl 23:24  “Pwy sy'n gallu cuddio oddi wrtho i?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i ym mhobman drwy'r nefoedd a'r ddaear!”
Jere WelBeibl 23:25  “Dw i wedi clywed beth mae'r proffwydi'n ei ddweud. Maen nhw'n honni siarad drosto i, ond yn dweud celwydd! ‘Dw i wedi cael breuddwyd! Dw i wedi cael breuddwyd!’ medden nhw.
Jere WelBeibl 23:26  Am faint mae'n rhaid i hyn fynd ymlaen? Am faint maen nhw'n mynd i ddal ati i ddweud celwydd? Maen nhw'n twyllo'u hunain! Ydyn nhw'n mynd i newid rywbryd?
Jere WelBeibl 23:27  Am faint maen nhw'n mynd i rannu eu breuddwydion gyda'i gilydd, a cheisio cael fy mhobl i anghofio pwy ydw i? Dyna beth wnaeth eu hynafiaid – anghofio amdana i ac addoli'r duw Baal.
Jere WelBeibl 23:28  Gadewch i'r proffwyd gafodd freuddwyd ei rhannu fel breuddwyd. Ond dylai'r un dw i wedi rhoi neges iddo gyhoeddi'r neges yna'n ffyddlon.” “Allwch chi ddim cymharu'r gwellt gyda'r grawn!” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:29  “Mae fy neges i fel tân yn llosgi,” meddai'r ARGLWYDD. “Mae fel gordd yn dryllio carreg.”
Jere WelBeibl 23:30  “Felly, dw i eisiau i chi ddeall fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dwyn y neges oddi ar ei gilydd,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:31  “Dw i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n dweud beth maen nhw eisiau, ac yna'n honni, ‘Dyma beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud …’
Jere WelBeibl 23:32  Dw i eisiau i chi ddeall,” meddai'r ARGLWYDD, “fy mod i yn erbyn y proffwydi hynny sy'n cyhoeddi'r celwydd maen nhw wedi'i ddychmygu. Maen nhw'n camarwain fy mhobl gyda'u celwyddau a'u honiadau anghyfrifol. Wnes i mo'u hanfon nhw na dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Dŷn nhw ddim yn helpu'r bobl yma o gwbl,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 23:33  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Jeremeia, pan mae'r bobl yma, neu broffwyd neu offeiriad, yn gofyn i ti, ‘Beth ydy'r baich mae'r ARGLWYDD yn ei roi arnon ni nawr?’ dywed wrthyn nhw, ‘Chi ydy'r baich, a dw i'n mynd i'ch taflu chi i ffwrdd,’
Jere WelBeibl 23:34  Ac os bydd proffwyd, offeiriad, neu unrhyw un arall yn dweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ bydda i'n cosbi'r dyn hwnnw a'i deulu.
Jere WelBeibl 23:35  Dyma ddylech chi fod yn ei ofyn i'ch gilydd: ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’
Jere WelBeibl 23:36  Rhaid i chi stopio dweud fod yr ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnoch chi. Y pethau dych chi'ch hunain yn eu dweud ydy'r ‛baich‛. Dych chi wedi gwyrdroi neges ein Duw ni, yr ARGLWYDD hollbwerus, y Duw byw!
Jere WelBeibl 23:37  Beth ddylech chi ei ofyn i'r proffwyd ydy, ‘Beth oedd ateb yr ARGLWYDD?’ neu ‘Beth ddwedodd yr ARGLWYDD?’
Jere WelBeibl 23:38  Os daliwch chi ati i ddweud, ‘Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,’ dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dych chi'n dal i ddweud, “Mae'r ARGLWYDD yn rhoi baich trwm arnon ni,” er fy mod i wedi dweud yn glir wrthoch chi am beidio gwneud hynny.
Jere WelBeibl 23:39  Felly, dw i'n mynd i'ch codi chi a'ch taflu chi i ffwrdd – chi a'r ddinas rois i i'ch hynafiaid chi.
Jere WelBeibl 23:40  Bydda i'n eich gwneud chi'n jôc, a byddwch yn cael eich cywilyddio am byth.’”