JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 13
Jere | WelBeibl | 13:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu lliain isaf newydd, a'i wisgo am dy ganol. A phaid â'i olchi.” | |
Jere | WelBeibl | 13:2 | Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol. | |
Jere | WelBeibl | 13:4 | “Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.” | |
Jere | WelBeibl | 13:5 | Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. | |
Jere | WelBeibl | 13:6 | Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at afon Ewffrates i nôl y lliain ddwedais i wrthot ti am ei guddio yno.” | |
Jere | WelBeibl | 13:7 | Felly dyma fi'n mynd yno a phalu am y lliain lle roeddwn i wedi'i guddio. Roedd wedi'i ddifetha, ac yn dda i ddim. | |
Jere | WelBeibl | 13:10 | Mae'r bobl ddrwg yma'n gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach. | |
Jere | WelBeibl | 13:11 | Yn union fel lliain isaf wedi'i rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Rôn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.” | |
Jere | WelBeibl | 13:12 | “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’ | |
Jere | WelBeibl | 13:13 | Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib – y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd. | |
Jere | WelBeibl | 13:14 | Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 13:16 | Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew. | |
Jere | WelBeibl | 13:17 | Os wnewch chi ddim gwrando, bydda i'n mynd o'r golwg i grio am eich bod mor falch. Bydda i'n beichio crio, a bydd y dagrau'n llifo, am fod praidd yr ARGLWYDD wedi'i gymryd yn gaeth. | |
Jere | WelBeibl | 13:18 | Yr ARGLWYDD: “Dwed wrth y brenin a'r fam frenhines: ‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch. Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch. | |
Jere | WelBeibl | 13:19 | Bydd giatiau trefi'r Negef wedi'u cau, a neb yn gallu eu hagor. Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’” | |
Jere | WelBeibl | 13:20 | Jeremeia: “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd. Ble mae'r praidd gafodd ei roi yn dy ofal di? Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw? | |
Jere | WelBeibl | 13:21 | Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDD yn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhw i dy reoli di? Byddi'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi. | |
Jere | WelBeibl | 13:22 | Byddi'n gofyn i ti dy hun, ‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi? Pam mae fy nillad wedi'u rhwygo i ffwrdd? Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’ A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg! | |
Jere | WelBeibl | 13:23 | Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen? Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau? Na. A does dim gobaith i chi wneud da, am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!” | |
Jere | WelBeibl | 13:24 | Yr ARGLWYDD “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl, fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch. | |
Jere | WelBeibl | 13:25 | Dyna beth sy'n dod i ti! Dyna wyt ti'n ei haeddu. Ti wedi fy anghofio i, a throi at dduwiau ffals yn fy lle. | |
Jere | WelBeibl | 13:26 | Bydda i'n gwneud i ti gywilyddio – yn codi dy sgert dros dy wyneb a bydd pawb yn gweld dy rannau preifat. | |