Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 13
Jere WelBeibl 13:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i brynu lliain isaf newydd, a'i wisgo am dy ganol. A phaid â'i olchi.”
Jere WelBeibl 13:2  Felly dyma fi'n prynu lliain isaf fel y dwedodd yr ARGLWYDD, a'i wisgo am fy nghanol.
Jere WelBeibl 13:3  Wedyn dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges arall i mi, a dweud,
Jere WelBeibl 13:4  “Cymer y lliain isaf brynaist ti, yr un rwyt ti'n ei wisgo, a dos at afon Ewffrates. Cuddia fe yno mewn hollt yn y graig.”
Jere WelBeibl 13:5  Felly dyma fi'n mynd ac yn ei guddio wrth yr Ewffrates, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
Jere WelBeibl 13:6  Aeth amser maith heibio, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Dos at afon Ewffrates i nôl y lliain ddwedais i wrthot ti am ei guddio yno.”
Jere WelBeibl 13:7  Felly dyma fi'n mynd yno a phalu am y lliain lle roeddwn i wedi'i guddio. Roedd wedi'i ddifetha, ac yn dda i ddim.
Jere WelBeibl 13:9  yn dweud, “Dyna sut bydda i'n difetha balchder Jwda a Jerwsalem.
Jere WelBeibl 13:10  Mae'r bobl ddrwg yma'n gwrthod gwrando arna i. Maen nhw'n ystyfnig ac yn mynnu gwneud beth maen nhw eisiau. Maen nhw'n addoli eilun-dduwiau paganaidd. Felly byddan nhw'n cael eu difetha fel y lliain yma, sy'n dda i ddim bellach.
Jere WelBeibl 13:11  Yn union fel lliain isaf wedi'i rwymo'n dynn am ganol dyn, roeddwn i wedi rhwymo pobl Israel a Jwda amdana i,” meddai'r ARGLWYDD. “Rôn i eisiau iddyn nhw fod yn bobl sbesial i mi, yn fy anrhydeddu i, ac yn fy addoli i. Ond roedden nhw'n gwrthod gwrando.”
Jere WelBeibl 13:12  “Felly dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Mae pob jar gwin i gael ei lenwi â gwin!’ A byddan nhw'n ateb, ‘Wrth gwrs! Dŷn ni'n gwybod hynny'n iawn.’
Jere WelBeibl 13:13  Yna dywed di wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i lenwi pobl y wlad yma nes byddan nhw'n feddw gaib – y brenhinoedd sy'n ddisgynyddion i Dafydd, yr offeiriaid, y proffwydi, a phobl Jerwsalem i gyd.
Jere WelBeibl 13:14  Bydda i'n eu malu nhw fel jariau yn erbyn ei gilydd, rhieni a'u plant. Fydda i'n dangos dim trueni na thosturi atyn nhw. Bydda i'n eu dinistrio nhw,’” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 13:15  Jeremeia: Gwrandwch! Peidiwch bod yn falch! —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Jere WelBeibl 13:16  Rhowch i'r ARGLWYDD eich Duw y parch mae'n ei haeddu cyn iddo ddod â thywyllwch arnoch chi. Cyn i chi faglu a syrthio wrth iddi dywyllu ar y mynyddoedd. Cyn i'r golau dych chi'n chwilio amdano droi'n dristwch ac yn dywyllwch dudew.
Jere WelBeibl 13:17  Os wnewch chi ddim gwrando, bydda i'n mynd o'r golwg i grio am eich bod mor falch. Bydda i'n beichio crio, a bydd y dagrau'n llifo, am fod praidd yr ARGLWYDD wedi'i gymryd yn gaeth.
Jere WelBeibl 13:18  Yr ARGLWYDD: “Dwed wrth y brenin a'r fam frenhines: ‘Dewch i lawr o'ch gorseddau ac eistedd yn y llwch. Bydd eich coronau hardd yn cael eu cymryd oddi arnoch.
Jere WelBeibl 13:19  Bydd giatiau trefi'r Negef wedi'u cau, a neb yn gallu eu hagor. Bydd pobl Jwda i gyd yn cael eu caethgludo!’”
Jere WelBeibl 13:20  Jeremeia: “Edrych, Jerwsalem. Mae'r gelyn yn dod o'r gogledd. Ble mae'r praidd gafodd ei roi yn dy ofal di? Ble mae'r ‛defaid‛ roeddet ti mor falch ohonyn nhw?
Jere WelBeibl 13:21  Sut fyddi di'n teimlo pan fydd yr ARGLWYDD yn gosod y rhai wnest ti ffrindiau gyda nhw i dy reoli di? Byddi'n gwingo mewn poen fel gwraig ar fin cael babi.
Jere WelBeibl 13:22  Byddi'n gofyn i ti dy hun, ‘Pam mae'r pethau yma wedi digwydd i mi? Pam mae fy nillad wedi'u rhwygo i ffwrdd? Pam dw i wedi fy nhreisio fel hyn?’ A'r ateb ydy, am dy fod ti wedi gwneud cymaint o ddrwg!
Jere WelBeibl 13:23  Ydy dyn du yn gallu newid lliw ei groen? Ydy'r llewpard yn gallu cael gwared â'i smotiau? Na. A does dim gobaith i chi wneud da, am eich bod wedi hen arfer gwneud drwg!”
Jere WelBeibl 13:24  Yr ARGLWYDD “Dw i'n mynd i'ch gyrru chi ar chwâl, fel us yn cael ei chwythu i bobman gan wynt yr anialwch.
Jere WelBeibl 13:25  Dyna beth sy'n dod i ti! Dyna wyt ti'n ei haeddu. Ti wedi fy anghofio i, a throi at dduwiau ffals yn fy lle.
Jere WelBeibl 13:26  Bydda i'n gwneud i ti gywilyddio – yn codi dy sgert dros dy wyneb a bydd pawb yn gweld dy rannau preifat.
Jere WelBeibl 13:27  Dw i wedi gweld y pethau ffiaidd ti'n eu gwneud: godinebu, a gweryru'n nwydus ar ôl duwiau eraill. Ti wedi puteinio gyda nhw ar ben y bryniau ac yn y caeau. Mae hi ar ben arnat ti, Jerwsalem! Fyddi di byth yn lân! Am faint mwy mae hyn i fynd ymlaen?”