Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 36
Jere WelBeibl 36:1  Yn y bedwaredd flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 36:2  “Cymer sgrôl, ac ysgrifennu arni bopeth dw i wedi'i ddweud wrthot ti am Israel a Jwda a'r gwledydd eraill i gyd. Ysgrifenna bopeth dw i wedi'i ddweud ers i mi ddechrau siarad gyda ti yn y cyfnod pan oedd Joseia yn frenin.
Jere WelBeibl 36:3  Pan fydd pobl Jwda yn clywed am yr holl bethau ofnadwy dw i'n bwriadu eu gwneud iddyn nhw, falle y byddan nhw'n stopio gwneud yr holl bethau drwg maen nhw'n eu gwneud, a bydda i'n maddau iddyn nhw am y drwg a'r pechod maen nhw wedi ei wneud.”
Jere WelBeibl 36:4  Felly, dyma Jeremeia yn galw am Barŵch fab Nereia i'w helpu. Wrth i Jeremeia adrodd pob un neges roedd yr ARGLWYDD wedi'i rhoi iddo, roedd Barŵch yn ysgrifennu'r cwbl i lawr ar y sgrôl.
Jere WelBeibl 36:5  Wedyn dyma Jeremeia yn dweud wrth Barŵch, “Dw i'n cael fy rhwystro rhag mynd i mewn i deml yr ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 36:6  Felly dos di yno y tro nesa mae pobl trefi Jwda yn mynd i ymprydio. Dw i eisiau i ti ddarllen yn gyhoeddus yr holl negeseuon rwyt ti wedi'u hysgrifennu yn y sgrôl, yn union fel gwnes i eu hadrodd nhw.
Jere WelBeibl 36:7  Falle y gwnân nhw bledio ar yr ARGLWYDD i faddau iddyn nhw, ac y gwnân nhw stopio gwneud y pethau drwg maen nhw wedi bod yn eu gwneud. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud yn glir ei fod e wedi gwylltio'n lân gyda nhw.”
Jere WelBeibl 36:8  Felly dyma Barŵch yn gwneud yn union fel roedd Jeremeia wedi dweud wrtho. Aeth i deml yr ARGLWYDD a darllen negeseuon yr ARGLWYDD o'r sgrôl.
Jere WelBeibl 36:9  Roedd pobl Jerwsalem a'r holl bobl oedd wedi dod i mewn o drefi Jwda yn cynnal ympryd. Roedd hyn yn y nawfed mis o'r bumed flwyddyn pan oedd Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda.
Jere WelBeibl 36:10  A dyma Barŵch yn mynd i deml yr ARGLWYDD, i ystafell Gemareia (mab Shaffan, yr ysgrifennydd brenhinol). Roedd ystafell Gemareia wrth iard uchaf y deml yn ymyl y Giât Newydd. A dyma Barŵch yn darllen yn uchel o'r sgrôl bopeth oedd Jeremeia wedi'i ddweud wrtho.
Jere WelBeibl 36:11  Dyma Michaia (mab Gemareia ac ŵyr i Shaffan) yn clywed Barŵch yn darllen y negeseuon gan yr ARGLWYDD oedd yn y sgrôl.
Jere WelBeibl 36:12  Felly aeth i lawr i balas y brenin, a mynd i ystafell yr ysgrifennydd brenhinol. Roedd swyddogion y llys brenhinol yno i gyd mewn cyfarfod: Elishama yr ysgrifennydd, Delaia fab Shemaia, Elnathan fab Achbor, Gemareia fab Shaffan, Sedeceia fab Chananeia a'r swyddogion eraill.
Jere WelBeibl 36:13  Dyma Michaia yn dweud wrthyn nhw am bopeth roedd Barŵch wedi'i ddarllen yn gyhoeddus o'r sgrôl.
Jere WelBeibl 36:14  Felly dyma swyddogion y llys yn anfon Iehwdi (oedd yn fab i Nethaneia, yn ŵyr i Shelemeia, ac yn or-ŵyr i Cwshi) at Barŵch i'w nôl ac i ddweud wrtho am ddod â'r sgrôl roedd e wedi'i darllen gydag e. Felly dyma Barŵch yn mynd atyn nhw a'r sgrôl gydag e.
Jere WelBeibl 36:15  “Eistedd i lawr a darllen y sgrôl i ni,” medden nhw. Felly dyma Barŵch yn ei darllen iddyn nhw.
Jere WelBeibl 36:16  Roedden nhw i gyd wedi dychryn yn lân pan glywon nhw'r negeseuon. “Rhaid i ni ddweud wrth y brenin am hyn i gyd,” medden nhw.
Jere WelBeibl 36:17  Yna dyma nhw'n gofyn i Barŵch, “Dwed wrthon ni, sut gest ti'r negeseuon yma i gyd? Ai pethau ddwedodd Jeremeia ydyn nhw?”
Jere WelBeibl 36:18  “Ie,” meddai Barŵch, “roedd Jeremeia'n adrodd y cwbl, a finnau wedyn yn ysgrifennu'r cwbl mewn inc ar y sgrôl.”
Jere WelBeibl 36:19  A dyma'r swyddogion yn dweud wrth Barŵch, “Rhaid i ti a Jeremeia fynd i guddio, a pheidio gadael i neb wybod ble rydych chi.”
Jere WelBeibl 36:20  Dyma nhw'n cadw'r sgrôl yn saff yn ystafell Elishama, yr ysgrifennydd brenhinol. Wedyn aethon nhw i ddweud wrth y brenin am y cwbl.
Jere WelBeibl 36:21  Dyma'r brenin yn anfon Iehwdi i nôl y sgrôl. Aeth Iehwdi i'w nôl o ystafell Elishama, ac yna ei darllen i'r brenin a'r swyddogion oedd yn sefyll o'i gwmpas.
Jere WelBeibl 36:22  Y nawfed mis oedd hi, ac roedd y brenin yn eistedd yn y gaeafdy lle roedd tân yn llosgi mewn padell dân o'i flaen.
Jere WelBeibl 36:23  Bob tro roedd Iehwdi wedi darllen tair neu bedair colofn byddai'r brenin yn eu torri i ffwrdd gyda chyllell fach a'u taflu i'r tân yn y badell. Gwnaeth hyn nes roedd y sgrôl gyfan wedi'i llosgi.
Jere WelBeibl 36:24  Wnaeth y brenin a'i swyddogion ddim cynhyrfu o gwbl pan glywon nhw'r negeseuon, a wnaethon nhw ddim rhwygo'u dillad i ddangos eu bod nhw'n edifar.
Jere WelBeibl 36:25  Roedd Elnathan, Delaia a Gemareia wedi pledio ar y brenin i beidio llosgi'r sgrôl, ond wnaeth e ddim gwrando arnyn nhw.
Jere WelBeibl 36:26  A dyma'r brenin yn gorchymyn i Ierachmeël (un o'r tywysogion brenhinol), Seraia fab Asriel a Shelemeia fab Abdeël, arestio Barŵch y copïwr a Jeremeia'r proffwyd. Ond roedd yr ARGLWYDD wedi'u cuddio nhw.
Jere WelBeibl 36:27  Ar ôl i'r brenin losgi'r sgrôl (sef yr un roedd Barŵch wedi ysgrifennu arni bopeth roedd Jeremeia wedi'i ddweud), dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Jeremeia:
Jere WelBeibl 36:28  “Cymer sgrôl arall, ac ysgrifennu arni bopeth oedd ar y sgrôl wreiddiol gafodd ei llosgi gan Jehoiacim.
Jere WelBeibl 36:29  Yna dywed wrth Jehoiacim, brenin Jwda, fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud: ‘Rwyt wedi llosgi'r sgrôl, a gofyn i Jeremeia pam wnaeth e ysgrifennu arni fod brenin Babilon yn mynd i ddod i ddinistrio'r wlad yma, a chipio pobl ac anifeiliaid ohoni.’
Jere WelBeibl 36:30  Felly dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am Jehoiacim, brenin Jwda: ‘Fydd neb o'i ddisgynyddion yn eistedd ar orsedd Dafydd. Pan fydd e farw, fydd ei gorff ddim yn cael ei gladdu – bydd yn cael ei daflu i orwedd allan yn haul poeth y dydd a barrug y nos.
Jere WelBeibl 36:31  Dw i'n mynd i'w gosbi e a'i ddisgynyddion a'i swyddogion am yr holl bethau drwg maen nhw wedi'u gwneud. Bydda i'n eu taro nhw (a pobl Jerwsalem a Jwda) hefo pob dinistr dw i wedi'i fygwth, am iddyn nhw ddal i wrthod gwrando.’”
Jere WelBeibl 36:32  Felly dyma Jeremeia'n rhoi sgrôl arall i Barŵch fab Nereia, y copïwr. A dyma Barŵch yn ysgrifennu arni bopeth roedd Jeremeia'n ei ddweud – y negeseuon oedd ar y sgrôl gafodd ei llosgi gan Jehoiacim, brenin Jwda. A chafodd llawer o negeseuon eraill tebyg eu hychwanegu.