JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 28
Jere | WelBeibl | 28:1 | Yr un flwyddyn, ar ddechrau cyfnod Sedeceia fel brenin Jwda (sef pumed mis y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad), dyma Hananeia fab Asswr, y proffwyd o Gibeon, yn dweud wrth Jeremeia yn y deml o flaen yr offeiriaid a'r bobl i gyd: | |
Jere | WelBeibl | 28:2 | “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon! | |
Jere | WelBeibl | 28:3 | Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd o ma yn ôl. | |
Jere | WelBeibl | 28:4 | Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’” | |
Jere | WelBeibl | 28:5 | A dyma'r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml. | |
Jere | WelBeibl | 28:6 | “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di'n wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd! | |
Jere | WelBeibl | 28:7 | Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd. | |
Jere | WelBeibl | 28:8 | Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr. | |
Jere | WelBeibl | 28:9 | Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir.” | |
Jere | WelBeibl | 28:11 | A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a'i thorri.’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd. | |
Jere | WelBeibl | 28:12 | Yn fuan ar ôl i Hananeia dorri'r iau oedd ar war Jeremeia, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia: | |
Jere | WelBeibl | 28:13 | “Dos i ddweud wrth Hananeia fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Ti wedi torri'r iau bren dim ond i roi un haearn yn ei lle! | |
Jere | WelBeibl | 28:14 | Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt yn ei wasanaethu e!”’” | |
Jere | WelBeibl | 28:15 | Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti'n gwneud i'r bobl yma gredu celwydd! | |
Jere | WelBeibl | 28:16 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti'n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’” | |