Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 28
Jere WelBeibl 28:1  Yr un flwyddyn, ar ddechrau cyfnod Sedeceia fel brenin Jwda (sef pumed mis y bedwaredd flwyddyn o'i deyrnasiad), dyma Hananeia fab Asswr, y proffwyd o Gibeon, yn dweud wrth Jeremeia yn y deml o flaen yr offeiriaid a'r bobl i gyd:
Jere WelBeibl 28:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon!
Jere WelBeibl 28:3  Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i ddod â phopeth wnaeth Nebwchadnesar brenin Babilon ei gymryd o ma yn ôl.
Jere WelBeibl 28:4  Dw i hefyd yn mynd i ddod â Jehoiachin fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn ôl, a phawb arall gafodd eu cymryd yn gaeth i Babilon.’ Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n mynd i dorri iau brenin Babilon.’”
Jere WelBeibl 28:5  A dyma'r proffwyd Jeremeia yn ateb y proffwyd Hananeia, o flaen yr offeiriaid a phawb arall oedd yn y deml.
Jere WelBeibl 28:6  “Amen! Boed i'r ARGLWYDD wneud hynny! Boed i'r ARGLWYDD ddod â dy broffwydoliaeth di'n wir! O na fyddai'n gwneud hynny, a dod â holl offer y deml yn ôl o Babilon, a'r bobl gafodd eu cymryd yno'n gaeth hefyd!
Jere WelBeibl 28:7  Ond na, gwrando di nawr ar beth sydd gen i i'w ddweud wrthot ti a'r bobl yma i gyd.
Jere WelBeibl 28:8  Ers amser maith mae'r proffwydi ddaeth o dy flaen di a fi wedi proffwydo fod rhyfel, trychinebau a heintiau yn mynd i daro llawer o wledydd a theyrnasoedd mawr.
Jere WelBeibl 28:9  Os oedd proffwyd yn proffwydo y byddai popeth yn iawn, yr unig ffordd i wybod os oedd yr ARGLWYDD wedi'i anfon oedd pan fyddai ei neges yn dod yn wir.”
Jere WelBeibl 28:10  Yna dyma'r proffwyd Hananeia yn cymryd yr iau oddi ar war Jeremeia a'i thorri.
Jere WelBeibl 28:11  A dyma Hananeia yn datgan o flaen pawb: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mewn llai na dwy flynedd dw i'n mynd i dynnu iau Nebwchadnesar, brenin Babilon, oddi ar war y gwledydd i gyd, a'i thorri.’” Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn mynd i ffwrdd.
Jere WelBeibl 28:12  Yn fuan ar ôl i Hananeia dorri'r iau oedd ar war Jeremeia, dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i Jeremeia:
Jere WelBeibl 28:13  “Dos i ddweud wrth Hananeia fod yr ARGLWYDD yn dweud: ‘Ti wedi torri'r iau bren dim ond i roi un haearn yn ei lle!
Jere WelBeibl 28:14  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Dw i wedi rhoi iau haearn ar war y gwledydd yma i gyd. Bydd rhaid iddyn nhw wasanaethu Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt yn ei wasanaethu e!”’”
Jere WelBeibl 28:15  Yna dyma'r proffwyd Jeremeia yn dweud wrth Hananeia, “Gwranda, Hananeia. Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dy anfon di. Ti'n gwneud i'r bobl yma gredu celwydd!
Jere WelBeibl 28:16  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Mae hi ar ben arnat ti! Ti'n mynd i farw cyn diwedd y flwyddyn yma, am dy fod ti wedi annog pobl i wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD.’”
Jere WelBeibl 28:17  A'r flwyddyn honno cyn pen deufis, roedd y proffwyd Hananeia wedi marw.