JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 37
| Jere | WelBeibl | 37:1 | Sedeceia, mab i Joseia, wnaeth olynu Jehoiachin fab Jehoiacim yn frenin ar Jwda. Cafodd Sedeceia ei benodi'n frenin gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. | |
| Jere | WelBeibl | 37:2 | Ond wnaeth e a'i swyddogion, na'r bobl gyffredin chwaith, ddim gwrando ar beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy'r proffwyd Jeremeia. | |
| Jere | WelBeibl | 37:3 | Er hynny, dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon Iehwchal fab Shelemeia a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia at Jeremeia. Dwedodd wrthyn nhw am ofyn iddo, “Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein helpu ni.” | |
| Jere | WelBeibl | 37:4 | (Ar y pryd roedd Jeremeia'n dal yn rhydd i fynd a dod. Doedd e ddim eto wedi cael ei roi yn y carchar.) | |
| Jere | WelBeibl | 37:5 | Roedd byddin Babilon wedi stopio ymosod ar Jerwsalem am y tro. Roedden nhw wedi clywed fod byddin y Pharo yn dod i fyny o'r Aifft, ac felly dyma nhw'n gadael Jerwsalem. | |
| Jere | WelBeibl | 37:7 | “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: Dwedwch wrth frenin Jwda wnaeth eich anfon chi ata i am help: ‘Bydd byddin y Pharo, sydd ar ei ffordd i'ch helpu chi, yn mynd yn ôl adre i'r Aifft, | |
| Jere | WelBeibl | 37:8 | a bydd y Babiloniaid yn dod yn ôl i ymosod ar y ddinas yma. Byddan nhw'n ei choncro ac yn ei llosgi'n ulw.’ | |
| Jere | WelBeibl | 37:9 | Mae'r ARGLWYDD yn dweud: ‘Peidiwch twyllo'ch hunain i feddwl y bydd y Babiloniaid yn mynd i ffwrdd ac yn gadael llonydd i chi. Fyddan nhw ddim yn mynd i ffwrdd. | |
| Jere | WelBeibl | 37:10 | Hyd yn oed petaech chi'n llwyddo i ddinistrio'r fyddin sy'n dod i ymladd yn eich erbyn chi, a gadael dim ond llond dwrn o ddynion wedi'u hanafu yn gorwedd yn eu pebyll, bydden nhw'n codi eto ac yn llosgi'r ddinas yma'n ulw.’” | |
| Jere | WelBeibl | 37:12 | a dyma Jeremeia'n cychwyn allan o Jerwsalem i fynd adre i ardal Benjamin. Roedd yn mynd i dderbyn ei siâr e o'r tir oedd piau'r teulu. | |
| Jere | WelBeibl | 37:13 | Ond pan gyrhaeddodd Giât Benjamin dyma gapten y gwarchodlu, sef Ireia (mab Shelemeia ac ŵyr i Chananeia), yn ei stopio. “Ti'n mynd drosodd at y Babiloniaid!” meddai wrtho. | |
| Jere | WelBeibl | 37:14 | Ond dyma Jeremeia'n ateb, “Na, dydy hynny ddim yn wir. Dw i ddim yn mynd drosodd at y Babiloniaid.” Ond roedd Ireia'n gwrthod gwrando arno, a dyma fe'n arestio Jeremeia a mynd ag e at y swyddogion. | |
| Jere | WelBeibl | 37:15 | Roedd y swyddogion yn wyllt gynddeiriog hefo Jeremeia. Ar ôl ei guro dyma nhw'n ei garcharu yn nhŷ Jonathan, yr ysgrifennydd brenhinol – roedd y tŷ wedi cael ei droi'n garchar. | |
| Jere | WelBeibl | 37:16 | Felly roedd Jeremeia yn y carchar, wedi'i roi mewn dwnsiwn. A buodd yno am amser hir. | |
| Jere | WelBeibl | 37:17 | Dyma'r Brenin Sedeceia yn anfon am Jeremeia, a dod ag e i'r palas i'w holi'n gyfrinachol. “Oes gen ti neges gan yr ARGLWYDD?” meddai. “Oes,” meddai Jeremeia. “Ti'n mynd i gael dy roi yn nwylo brenin Babilon!” | |
| Jere | WelBeibl | 37:18 | Wedyn dyma Jeremeia'n gofyn i'r brenin, “Pa ddrwg dw i wedi'i wneud i ti, neu i dy swyddogion, neu i'r bobl yma? Pam dych chi wedi fy nhaflu i i'r carchar? | |
| Jere | WelBeibl | 37:19 | A ble mae'r proffwydi hynny wnaeth broffwydo y byddai brenin Babilon ddim yn ymosod ar y wlad yma? | |
| Jere | WelBeibl | 37:20 | Plîs gwranda arna i, f'arglwydd frenin. Dw i'n pledio am drugaredd. Bydda i'n marw os gwnei di f'anfon i'n ôl i'r carchar yna yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd.” | |