Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 7
Jere WelBeibl 7:1  Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia:
Jere WelBeibl 7:2  “Dos i sefyll wrth y giât i deml yr ARGLWYDD, a chyhoeddi'r neges yma: ‘Bobl Jwda, sy'n mynd i mewn drwy'r giatiau yma i addoli'r ARGLWYDD, gwrandwch!
Jere WelBeibl 7:3  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn dweud fod rhaid i chi ddechrau newid eich ffyrdd. Os gwnewch chi, cewch chi aros yn eich gwlad.
Jere WelBeibl 7:4  Peidiwch credu'r twyll sy'n addo y byddwch chi'n saff wrth ddweud, “Teml yr ARGLWYDD ydy hon! Teml yr ARGLWYDD ydy hi! Teml yr ARGLWYDD!”
Jere WelBeibl 7:5  “‘Rhaid i chi newid eich ffyrdd, dechrau trin pobl eraill yn deg,
Jere WelBeibl 7:6  peidio cam-drin mewnfudwyr, plant amddifad a gwragedd gweddwon. Peidio lladd pobl ddiniwed ac addoli eilun-dduwiau paganaidd. Dych chi ond yn gwneud drwg i chi'ch hunain!
Jere WelBeibl 7:7  Os newidiwch chi eich ffyrdd, bydda i'n gadael i chi aros yn y wlad yma, sef y wlad rois i i'ch hynafiaid chi i'w chadw am byth bythoedd.
Jere WelBeibl 7:8  “‘Ond dyma chi, yn credu'r celwydd fydd ddim help i chi yn y diwedd!
Jere WelBeibl 7:9  Ydy'n iawn eich bod chi'n dwyn, llofruddio, godinebu, dweud celwydd ar lw, llosgi arogldarth i Baal, ac addoli eilun-dduwiau dych chi'n gwybod dim amdanyn nhw,
Jere WelBeibl 7:10  ac wedyn yn dod i sefyll yn y deml yma – fy nheml i – a dweud, “Dŷn ni'n saff!”? Yna cario ymlaen i wneud yr holl bethau ffiaidd yna!
Jere WelBeibl 7:11  Ydy'r deml yma – fy nheml i – wedi troi'n guddfan i ladron? Gwyliwch eich hunain! Dw i wedi gweld beth rydych chi'n wneud,’” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 7:12  “‘Ewch i Seilo, lle roeddwn i'n cael fy addoli o'r blaen. Ewch i weld beth wnes i yno, o achos yr holl bethau drwg wnaeth fy mhobl – pobl Israel.
Jere WelBeibl 7:13  A nawr, dych chi'n gwneud yr un pethau!’” meddai'r ARGLWYDD. “‘Dw i wedi ceisio dweud wrthoch chi dro ar ôl tro, ond doeddech chi ddim am wrando. Rôn i'n galw arnoch chi, ond doeddech chi ddim am ateb.
Jere WelBeibl 7:14  Felly, dw i'n mynd i ddinistrio'r deml yma dych chi'n meddwl fydd yn eich cadw chi'n saff – ie, fy nheml i fy hun. Dw i'n mynd i ddinistrio'r lle yma rois i i chi a'ch hynafiaid, yn union fel y gwnes i ddinistrio Seilo!
Jere WelBeibl 7:15  Dw i'n mynd i'ch gyrru chi o'm golwg i, yn union fel gwnes i yrru pobl Israel i ffwrdd.’”
Jere WelBeibl 7:16  “A ti Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw, achos fydda i ddim yn gwrando arnat ti.
Jere WelBeibl 7:17  Wyt ti ddim yn gweld beth maen nhw'n ei wneud drwy drefi Jwda a strydoedd Jerwsalem?
Jere WelBeibl 7:18  Mae'r plant yn casglu coed tân, y tadau'n cynnau'r tân a'r gwragedd yn paratoi toes i wneud cacennau i'r dduwies maen nhw'n ei galw'n ‛Frenhines y Nefoedd‛! Maen nhw'n tywallt offrwm o ddiod i dduwiau paganaidd dim ond i'm gwylltio i.
Jere WelBeibl 7:19  Ond dim fi ydy'r un sy'n cael ei frifo!” meddai'r ARGLWYDD. “Brifo nhw'u hunain, a chywilyddio nhw'n hunain maen nhw yn y pen draw.”
Jere WelBeibl 7:20  Felly dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Dw i'n wyllt gandryll, a bydda i'n tywallt fy llid ar y lle yma. Bydd pobl ac anifeiliaid, coed a chnydau yn cael eu dinistrio. Bydd fel tân sydd ddim yn diffodd.”
Jere WelBeibl 7:21  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: “Cymerwch gig yr offrwm sydd i'w losgi'n llwyr a'i ychwanegu at yr aberthau eraill. Waeth i chi fwyta hwnnw hefyd!
Jere WelBeibl 7:22  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o wlad yr Aifft, nid rhoi rheolau iddyn nhw am offrymau i'w llosgi ac aberthau wnes i.
Jere WelBeibl 7:23  Beth ddwedais i oedd, ‘Gwrandwch ar beth dw i'n ddweud. Bydda i'n Dduw i chi a byddwch chi'n bobl i mi. Dw i eisiau i chi fyw yn union fel dw i'n dweud wrthoch chi, a bydd pethau'n mynd yn dda i chi.’
Jere WelBeibl 7:24  “Ond doedden nhw ddim am wrando na chymryd unrhyw sylw ohono i. Dim ond dilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg, a mynd yn bellach oddi wrtho i yn lle dod yn nes.
Jere WelBeibl 7:25  Ond o'r diwrnod y daeth eich hynafiaid allan o'r Aifft hyd heddiw dw i wedi dal ati i anfon fy ngweision, y proffwydi, atoch chi, dro ar ôl tro.
Jere WelBeibl 7:26  Ond doedd neb yn gwrando arna i nac yn cymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff – hyd yn oed yn waeth na'u hynafiaid.
Jere WelBeibl 7:27  “Dwed hyn i gyd wrthyn nhw, Jeremeia. Ond fyddan nhw ddim yn gwrando arnat ti. Byddi di'n galw arnyn nhw, ond paid disgwyl iddyn nhw ymateb.
Jere WelBeibl 7:28  Dwed wrthyn nhw, ‘Mae'r wlad yma wedi gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, a gwrthod cael ei dysgu. Mae gonestrwydd wedi diflannu! Dydy pobl ddim hyd yn oed yn honni ei ddilyn bellach!’
Jere WelBeibl 7:29  ‘Siafiwch eich gwallt, bobl Jerwsalem, a'i daflu i ffwrdd. Canwch gân angladdol ar ben y bryniau. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwrthod, a throi ei gefn ar y genhedlaeth yma sydd wedi'i ddigio.’”
Jere WelBeibl 7:30  “Dw i wedi gwrthod pobl Jwda am eu bod nhw wedi gwneud drwg,” meddai'r ARGLWYDD. “Maen nhw'n llygru fy nheml i drwy osod eilun-dduwiau ffiaidd ynddi.
Jere WelBeibl 7:31  Maen nhw hefyd wedi codi allorau paganaidd yn Toffet yn Nyffryn Ben-hinnom. Maen nhw'n aberthu eu plant bach yn y tân! Wnes i erioed ddweud wrthyn nhw am wneud y fath beth. Fyddai peth felly byth wedi croesi fy meddwl i!
Jere WelBeibl 7:32  “Felly mae'r amser yn dod,” meddai'r ARGLWYDD, “pan fydd neb yn galw'r lle yn Toffet neu ddyffryn Ben-hinnom. ‛Dyffryn Llofruddiaeth‛ fydd enw'r lle. Fydd dim digon o le i gladdu pawb fydd yn cael eu lladd yno.
Jere WelBeibl 7:33  Bydd cyrff dynol yn fwyd i adar ac anifeiliaid gwyllt. Fydd yna neb ar ôl i'w dychryn nhw i ffwrdd.
Jere WelBeibl 7:34  Dw i'n mynd i roi taw ar sŵn pobl yn chwerthin a joio ar strydoedd Jerwsalem, ac yn mwynhau eu hunain mewn parti priodas. Bydd y wlad yn anialwch diffaith.”