Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 11
Jere WelBeibl 11:2  “Atgoffa bobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem o amodau'r ymrwymiad wnes i gydag Israel.
Jere WelBeibl 11:3  Dwed wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: ‘Melltith ar bwy bynnag sy'n diystyru amodau'r ymrwymiad.
Jere WelBeibl 11:4  Pan ddes i â'ch hynafiaid chi allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, dwedais wrthyn nhw, “Rhaid i chi wrando arna i a chadw'r amodau dw i'n eu gosod. Os gwnewch chi hynny, byddwch chi'n bobl i mi, a bydda i'n Dduw i chi.”
Jere WelBeibl 11:5  Wedyn roeddwn i'n gallu rhoi beth wnes i ei addo iddyn nhw – tir ffrwythlon lle mae llaeth a mêl yn llifo. A dyna'r wlad lle dych chi'n byw heddiw.’” A dyma fi'n ateb, “Amen! Mae'n wir, ARGLWYDD!”
Jere WelBeibl 11:6  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Cyhoedda'r neges yma yn nhrefi Jwda ac ar strydoedd Jerwsalem: ‘Gwrandwch ar amodau'r ymrwymiad rhyngon ni, a'u cadw nhw.
Jere WelBeibl 11:7  Rôn i wedi rhybuddio'ch hynafiaid chi pan ddes i â nhw allan o'r Aifft. A dw i wedi dal ati i wneud hynny hyd heddiw, i'ch cael chi i wrando arna i.
Jere WelBeibl 11:8  Ond doedd neb am wneud beth roeddwn i'n ddweud na chymryd unrhyw sylw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn dal ati i ddilyn y duedd ynddyn nhw i wneud drwg. Felly, dw i wedi'u cosbi nhw, yn union fel roedd amodau'r ymrwymiad yn dweud – am wrthod gwneud beth roeddwn i'n ddweud.’”
Jere WelBeibl 11:9  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Mae pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem wedi cynllwynio yn fy erbyn i.
Jere WelBeibl 11:10  Maen nhw wedi mynd yn ôl a gwneud yr union bethau drwg roedd eu hynafiaid yn eu gwneud. Maen nhw wedi gwrthod gwrando arna i, ac wedi addoli duwiau eraill. Mae gwlad Israel a gwlad Jwda wedi torri amodau'r ymrwymiad wnes i gyda'u hynafiaid nhw.
Jere WelBeibl 11:11  Felly, dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i ddod â dinistr arnyn nhw, a fyddan nhw ddim yn gallu dianc. A phan fyddan nhw'n gweiddi arna i am help, wna i ddim gwrando arnyn nhw.
Jere WelBeibl 11:12  Wedyn bydd pobl trefi Jwda a phobl Jerwsalem yn gweiddi am help gan y duwiau maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth iddyn nhw. Ond fydd y duwiau hynny yn sicr ddim yn gallu eu hachub nhw o'u trafferthion!
Jere WelBeibl 11:13  A hynny er bod gen ti, Jwda, gymaint o dduwiau ag sydd gen ti o drefi! Ac er bod gan bobl Jerwsalem gymaint o allorau ag sydd o strydoedd yn y ddinas, i losgi arogldarth i'r duw ffiaidd yna, Baal!’
Jere WelBeibl 11:14  “A ti, Jeremeia, paid gweddïo dros y bobl yma. Paid galw arna i na gweddïo drostyn nhw. Paid pledio arna i i'w helpu nhw. Wna i ddim gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw'n gweiddi am help o ganol eu trafferthion.
Jere WelBeibl 11:15  Pa hawl sydd gan fy mhobl annwyl i ddod i'm teml ar ôl gwneud cymaint o bethau erchyll? Ydy aberthu cig anifeiliaid yn mynd i gael gwared â'r drygioni? Fyddwch chi'n gallu bod yn hapus wedyn?
Jere WelBeibl 11:16  Roeddwn i, yr ARGLWYDD, wedi dy alw di yn goeden olewydd ddeiliog gyda ffrwyth hyfryd arni. Ond mae storm fawr ar y ffordd: dw i'n mynd i dy roi di ar dân, a byddi'n llosgi yn y fflamau gwyllt. Fydd dy ganghennau di yn dda i ddim wedyn.
Jere WelBeibl 11:17  Mae'r ARGLWYDD hollbwerus, wnaeth dy blannu di yn y wlad, wedi cyhoeddi fod dinistr yn dod arnat ti. Mae'n dod am fod gwledydd Israel a Jwda wedi gwneud drwg, a'm gwylltio i drwy losgi arogldarth i Baal.”
Jere WelBeibl 11:18  Dangosodd yr ARGLWYDD – rôn i'n gwybod wedyn; dangosodd beth roedden nhw'n bwriadu ei wneud.
Jere WelBeibl 11:19  Rôn i fel oen bach diniwed yn cael ei arwain i'r lladd-dy, ddim yn sylweddoli mai yn fy erbyn roedd eu cynllwyn: “Rhaid i ni ddinistrio'r goeden a'i ffrwyth! Gadewch i ni ei ladd, a'i dorri o dir y byw, a bydd pawb yn anghofio amdano.”
Jere WelBeibl 11:20  “O ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti'n barnu'n deg! Ti'n gweld beth mae pobl yn ei feddwl a'i fwriadu. Tala nôl iddyn nhw am beth maen nhw'n ei wneud. Dw i'n dy drystio di i ddelio gyda'r sefyllfa.”
Jere WelBeibl 11:21  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y dynion o Anathoth sydd eisiau fy lladd i. (Roedden nhw wedi dweud y bydden nhw'n fy lladd i os nad oeddwn i'n stopio proffwydo fel roedd yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i.)
Jere WelBeibl 11:22  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud amdanyn nhw: “Dw i'n mynd i'w cosbi nhw! Bydd eu bechgyn ifanc yn cael eu lladd yn y rhyfel, a bydd eu plant yn marw o newyn.
Jere WelBeibl 11:23  Fydd yna neb ar ôl yn fyw! Mae'r amser iddyn nhw gael eu cosbi wedi dod.”