Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 26
Jere WelBeibl 26:1  Pan ddaeth Jehoiacim fab Joseia yn frenin ar Jwda ces i'r neges yma gan yr ARGLWYDD:
Jere WelBeibl 26:2  dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Dos i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD. Siarada gyda'r bobl o holl drefi Jwda sydd wedi dod yno i addoli. Dwed wrthyn nhw bopeth fydda i'n ei ddweud – pob gair!
Jere WelBeibl 26:3  Falle y gwnân nhw wrando a stopio gwneud drwg. Wedyn fydda i ddim yn eu dinistrio nhw fel roeddwn i wedi bwriadu gwneud am yr holl bethau drwg roedden nhw'n eu gwneud.
Jere WelBeibl 26:4  Dwed wrthyn nhw mai dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Rhaid i chi wrando arna i, a byw fel dw i wedi'ch dysgu chi i fyw.
Jere WelBeibl 26:5  Rhaid i chi wrando ar neges fy ngweision y proffwydi. Dw i wedi'u hanfon nhw atoch chi dro ar ôl tro, ond dych chi wedi cymryd dim sylw.
Jere WelBeibl 26:6  Felly os daliwch chi i wrthod gwrando, bydda i'n dinistrio'r deml yma fel gwnes i ddinistrio Seilo, a bydda i'n gwneud y ddinas yma'n esiampl i'r gwledydd o ddinas sydd wedi'i melltithio.’”
Jere WelBeibl 26:7  Roedd yr offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd wedi clywed Jeremeia yn dweud y pethau yma yn y deml.
Jere WelBeibl 26:8  Ac yn syth ar ôl iddo orffen dweud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo, dyma'r offeiriaid a'r proffwydi a'r bobl i gyd yn gafael ynddo gan weiddi, “Ti'n mynd i farw am hyn!
Jere WelBeibl 26:9  Rhag dy gywilydd di, yn honni fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti am broffwydo'r fath bethau! Sut alli di broffwydo fod y deml yma'n mynd i gael ei dinistrio yr un fath â Seilo, a bod dinas Jerwsalem yn mynd i gael ei chwalu, ac y bydd neb yn byw ynddi?” A dyma'r bobl yn dechrau hel o gwmpas Jeremeia yn y deml.
Jere WelBeibl 26:10  Pan glywodd swyddogion Jwda beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n rhuthro draw o'r palas brenhinol i deml yr ARGLWYDD ac yn cynnal achos llys wrth y Giât Newydd.
Jere WelBeibl 26:11  Dyma'r offeiriaid a'r proffwydi'n dweud wrth y llys a'r bobl beth oedd y cyhuddiad yn erbyn Jeremeia, “Rhaid dedfrydu'r dyn yma i farwolaeth! Mae wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma. Dych chi wedi'i glywed eich hunain.”
Jere WelBeibl 26:12  Yna dyma Jeremeia yn amddiffyn ei hun: “Yr ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i, a dweud wrtho i am broffwydo popeth rydych chi wedi fy nghlywed i'n ei ddweud yn erbyn y deml a'r ddinas yma.
Jere WelBeibl 26:13  Rhaid i chi newid eich ffyrdd, a gwneud beth mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei ddweud. Os gwnewch chi hynny, fydd e ddim yn eich dinistrio chi fel roedd e wedi bygwth gwneud.
Jere WelBeibl 26:14  Ond dw i yn eich dwylo chi. Gwnewch chi beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.
Jere WelBeibl 26:15  Ond deallwch hyn: os gwnewch chi fy lladd i, byddwch yn tywallt gwaed dyn dieuog. Byddwch chi a'r ddinas yma a'i phobl yn gyfrifol am wneud hynny. Achos y ffaith ydy mai'r ARGLWYDD sydd wedi fy anfon i i'ch rhybuddio chi.”
Jere WelBeibl 26:16  Dyma'r swyddogion a'r bobl yn dweud wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, “Dydy'r dyn yma ddim yn haeddu marw. Mae e wedi siarad ar ran yr ARGLWYDD ein Duw.”
Jere WelBeibl 26:17  A dyma rai o arweinwyr hŷn Jwda yn codi a dweud wrth y dyrfa o bobl oedd yno,
Jere WelBeibl 26:18  “Pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda, roedd Micha o Moresheth wedi proffwydo ac wedi dweud wrth y bobl, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Bydd Seion yn cael ei haredig fel cae, a bydd Jerwsalem yn bentwr o gerrig. Bydd y bryn lle mae'r deml yn sefyll, yn goedwig wedi tyfu'n wyllt.’
Jere WelBeibl 26:19  Wnaeth Heseceia a phobl Jwda roi Micha i farwolaeth? Naddo! Dangosodd Heseceia barch at yr ARGLWYDD a chrefu arno i fod yn garedig atyn nhw. Wedyn wnaeth yr ARGLWYDD ddim eu dinistrio nhw fel roedd e wedi bygwth gwneud. Ond dŷn ni mewn peryg o wneud drwg mawr i ni'n hunain!”
Jere WelBeibl 26:20  Roedd yna ddyn arall o'r enw Wreia fab Shemaia o Ciriath-iearîm yn proffwydo ar ran yr ARGLWYDD. Roedd e hefyd wedi proffwydo yn erbyn y ddinas yma a'r wlad, yn union yr un fath â Jeremeia.
Jere WelBeibl 26:21  Pan glywodd y Brenin Jehoiacim a'i warchodwyr a'i swyddogion beth oedd y proffwyd yn ei ddweud, roedd yn mynd i'w ladd. Ond dyma Wreia'n clywed am y bwriad ac yn dianc am ei fywyd i'r Aifft.
Jere WelBeibl 26:22  Anfonodd y Brenin Jehoiacim ddynion i'r Aifft i'w ddal (roedd Elnathan fab Achbor yn un ohonyn nhw),
Jere WelBeibl 26:23  a dyma nhw'n dod ag Wreia yn ôl yn garcharor at y Brenin Jehoiacim. Dyma Jehoiacim yn gorchymyn ei ladd gyda'r cleddyf, a chafodd ei gorff ei gladdu ym mynwent y bobl gyffredin.
Jere WelBeibl 26:24  Ond roedd Achicam fab Shaffan o blaid Jeremeia, a gwrthododd drosglwyddo Jeremeia i'r bobl i gael ei ladd.