Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 39
Jere WelBeibl 39:1  Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. Digwyddodd hyn yn y degfed mis o nawfed flwyddyn Sedeceia yn frenin ar Jwda.
Jere WelBeibl 39:2  Buon nhw'n gwarchae arni am flwyddyn a hanner. Yna ar y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis ym mlwyddyn un deg un o deyrnasiad Sedeceia dyma nhw'n torri drwy waliau'r ddinas.
Jere WelBeibl 39:3  Dyma swyddogion brenin Babilon yn dod ac yn eistedd wrth y Giât Ganol – Nergal-sharetser o Samgar, Nebo-sarsechîm (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a'r swyddogion eraill i gyd.
Jere WelBeibl 39:4  Roedd y Brenin Sedeceia a'i filwyr wedi dianc. Roedden nhw wedi gadael y ddinas yn ystod y nos, drwy ardd y brenin ac yna allan drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal. Wedyn mynd i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen.
Jere WelBeibl 39:5  Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath.
Jere WelBeibl 39:6  Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A chafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd.
Jere WelBeibl 39:7  Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon.
Jere WelBeibl 39:8  Dyma'r Babiloniaid yn llosgi'r palas brenhinol a thai'r bobl a bwrw waliau Jerwsalem i lawr.
Jere WelBeibl 39:9  Wedyn, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon – gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach.
Jere WelBeibl 39:10  Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw.
Jere WelBeibl 39:11  Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia.
Jere WelBeibl 39:12  “Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.”
Jere WelBeibl 39:13  Felly dyma Nebwsaradan (capten y gwarchodlu brenhinol), Nebwshasban (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a swyddogion eraill brenin Babilon
Jere WelBeibl 39:14  yn anfon am Jeremeia a mynd ag e o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a mynd ag e i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin.
Jere WelBeibl 39:15  Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu:
Jere WelBeibl 39:16  “Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr: Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddwedais i i'r ddinas yma – gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd.
Jere WelBeibl 39:17  Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni.
Jere WelBeibl 39:18  Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.