JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 15
| Jere | WelBeibl | 15:1 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd! | |
| Jere | WelBeibl | 15:2 | Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’ | |
| Jere | WelBeibl | 15:3 | Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwyllt yn gorffen beth sydd ar ôl. | |
| Jere | WelBeibl | 15:4 | Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.” | |
| Jere | WelBeibl | 15:5 | Yr ARGLWYDD “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem? Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti? Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti? | |
| Jere | WelBeibl | 15:6 | Ti wedi troi cefn arna i,” meddai'r ARGLWYDD. “Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth! Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di. Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd. | |
| Jere | WelBeibl | 15:7 | Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawn ym mhob un o drefi'r wlad. Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a mynd â'u plant i ffwrdd, am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd. | |
| Jere | WelBeibl | 15:8 | Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr. Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd, a chwalu bywydau eu mamau. Bydd dioddef a dychryn yn dod drostyn nhw'n sydyn. | |
| Jere | WelBeibl | 15:9 | Bydd y fam oedd â saith o feibion yn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu. Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd wedi machlud ganol dydd. Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth. A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
| Jere | WelBeibl | 15:10 | “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a thynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!” | |
| Jere | WelBeibl | 15:11 | A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion. | |
| Jere | WelBeibl | 15:13 | Yr ARGLWYDD “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad, bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion. | |
| Jere | WelBeibl | 15:14 | Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.” | |
| Jere | WelBeibl | 15:15 | Jeremeia “ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd. Cofia amdana i, a thyrd i'm helpu i. Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i. Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i. Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di. | |
| Jere | WelBeibl | 15:16 | Wrth i ti siarad rôn i'n llyncu pob gair; roedd dy eiriau'n fy ngwneud i mor hapus – rôn i wrth fy modd! I ti dw i'n perthyn, O ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. | |
| Jere | WelBeibl | 15:17 | Wnes i ddim ymuno hefo pawb arall yn chwerthin a joio. Na, roeddwn i'n cadw ar wahân am fod dy law di arna i. Rôn i wedi gwylltio hefo nhw. | |
| Jere | WelBeibl | 15:18 | Felly, pam dw i'n dal i ddioddef? Pam dw i'n gorfod goddef hyn i gyd – fel petawn i wedi fy anafu, a'r briw yn gwrthod gwella? Wyt ti'n mynd i'm siomi fel nant sydd wedi sychu, – ffos â'i dŵr wedi diflannu?” | |
| Jere | WelBeibl | 15:19 | A dyma ateb yr ARGLWYDD: Yr ARGLWYDD “Rhaid i ti stopio siarad fel yna! Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn, a cei ddal ati i'm gwasanaethu i. Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh, wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i. Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw, nid nhw'n dylanwadu arnat ti! | |
| Jere | WelBeibl | 15:20 | Dw i'n mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres. Byddan nhw'n ymosod arnat ti ond yn methu dy drechu di. Bydda i'n edrych ar dy ôl di ac yn dy achub di.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |