JEREMIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
Chapter 5
Jere | WelBeibl | 5:1 | Yr ARGLWYDD: “Ewch yn ôl ac ymlaen drwy strydoedd Jerwsalem. Edrychwch yn fanwl ym mhobman; chwiliwch yn ei sgwariau cyhoeddus. Os allwch chi ddod o hyd i un person sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn onest, gwna i faddau i'r ddinas gyfan!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 5:2 | Jeremeia: Mae'r bobl yma'n tyngu llw, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw …” Ond y gwir ydy fod eu geiriau'n gelwydd! | |
Jere | WelBeibl | 5:3 | O ARGLWYDD, onid gonestrwydd wyt ti eisiau? Ti'n ei cosbi nhw, a dŷn nhw'n cymryd dim sylw. Bron i ti eu dinistrio, ond maen nhw'n gwrthod cael eu cywiro. Maen nhw mor ystyfnig, ac yn gwrthod newid eu ffyrdd. | |
Jere | WelBeibl | 5:4 | Wedyn dyma fi'n meddwl, “Pobl dlawd gyffredin ydy'r rhain. Maen nhw wedi ymddwyn yn ddwl; dŷn nhw ddim yn gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw. | |
Jere | WelBeibl | 5:5 | Gwna i fynd i siarad gyda'r arweinwyr. Byddan nhw'n gwybod beth mae'r ARGLWYDD eisiau, a beth mae Duw yn ei ddisgwyl ganddyn nhw.” Ond roedden nhw hefyd fel ychen wedi torri'r iau yn gwrthod gadael i Dduw eu harwain nhw. | |
Jere | WelBeibl | 5:6 | Felly, bydd y gelyn yn dod i ymosod fel llew o'r goedwig. Bydd yn neidio arnyn nhw fel blaidd o'r anialwch. Bydd fel llewpard yn stelcian tu allan i'w trefi, a bydd unrhyw un sy'n mentro allan yn cael ei rwygo'n ddarnau! Maen nhw wedi gwrthryfela ac wedi troi cefn ar Dduw mor aml. | |
Jere | WelBeibl | 5:7 | Yr ARGLWYDD: “Jerwsalem – sut alla i faddau i ti am hyn? Mae dy bobl wedi troi cefn arna i. Maen nhw wedi cymryd llw i ‛dduwiau‛ sydd ddim yn bod! Er fy mod i wedi rhoi popeth oedd ei angen iddyn nhw dyma nhw'n ymddwyn fel gwraig sy'n anffyddlon i'w gŵr. Maen nhw'n heidio i dai puteiniaid, | |
Jere | WelBeibl | 5:9 | Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?” meddai'r ARGLWYDD. “Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?” | |
Jere | WelBeibl | 5:10 | Yr ARGLWYDD (wrth fyddin y gelyn): “Ewch i lawr y rhesi o goed gwinwydd, a difetha, ond peidiwch â'u dinistrio nhw'n llwyr. Torrwch y canghennau sy'n blaguro i ffwrdd, achos dŷn nhw ddim yn perthyn i'r ARGLWYDD. | |
Jere | WelBeibl | 5:11 | Mae pobl Israel a Jwda wedi bod yn anffyddlon i mi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. | |
Jere | WelBeibl | 5:12 | “Ydyn, maen nhw wedi gwrthod credu'r ARGLWYDD a dweud pethau fel, ‘Dydy e'n neb! Does dim dinistr i ddod go iawn. Welwn ni ddim rhyfel na newyn. | |
Jere | WelBeibl | 5:13 | Mae'r proffwydi'n malu awyr! Dydy Duw ddim wedi rhoi neges iddyn nhw! Gadewch i'r hyn maen nhw'n ddweud ddigwydd iddyn nhw'u hunain!’” | |
Jere | WelBeibl | 5:14 | Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus, yn ei ddweud: “Am eu bod nhw'n dweud hyn, dw i'n mynd i roi neges i ti fydd fel fflam dân yn eu llosgi nhw fel petaen nhw'n goed tân.” | |
Jere | WelBeibl | 5:15 | “Gwranda Israel,” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i'n mynd i ddod â gwlad o bell i ymosod arnat ti – gwlad sydd wedi bod o gwmpas ers talwm. Ti ddim yn siarad ei hiaith hi nac yn deall beth mae'r bobl yn ei ddweud. | |
Jere | WelBeibl | 5:17 | Byddan nhw'n bwyta dy gnydau a dy fwyd. Byddan nhw'n lladd dy feibion a dy ferched. Byddan nhw'n bwyta dy ddefaid a dy wartheg. Byddan nhw'n difetha dy goed gwinwydd a dy goed ffigys. Byddan nhw'n ymosod, ac yn dinistrio dy gaerau amddiffynnol – a thithau'n meddwl eu bod nhw mor saff! | |
Jere | WelBeibl | 5:18 | “Ond hyd yn oed bryd hynny fydda i ddim yn eich dinistrio chi'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD. | |
Jere | WelBeibl | 5:19 | “A Jeremeia, pan fydd y bobl yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD ein Duw wedi gwneud y pethau yma i ni?’, byddi di'n ateb, ‘Am eich bod wedi'i wrthod e, a gwasanaethu duwiau estron yn eich gwlad eich hunain, byddwch chi'n gwasanaethu pobl estron mewn gwlad ddieithr.’” | |
Jere | WelBeibl | 5:21 | ‘Gwrandwch, chi bobl ddwl sy'n deall dim – chi sydd â llygaid, ond yn gweld dim, chi sydd â chlustiau, ond yn clywed dim. | |
Jere | WelBeibl | 5:22 | Oes gynnoch chi ddim parch ata i?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylech chi ddim gwingo mewn ofn o mlaen i? Fi roddodd dywod ar y traeth fel ffin nad ydy'r môr i'w chroesi. Er bod y tonnau'n hyrddio, fyddan nhw ddim yn llwyddo; er eu bod nhw'n rhuo, ân nhw ddim heibio. | |
Jere | WelBeibl | 5:23 | Ond mae'r bobl yma mor benstiff, ac yn tynnu'n groes; maen nhw wedi troi cefn a mynd eu ffordd eu hunain. | |
Jere | WelBeibl | 5:24 | Dŷn nhw ddim wir o ddifrif yn dweud, “Gadewch i ni barchu'r ARGLWYDD ein Duw. Mae'n rhoi'r glaw i ni yn y gwanwyn a'r hydref; mae'n rhoi'r cynhaeaf i ni ar yr adeg iawn.” | |
Jere | WelBeibl | 5:25 | Mae'ch drygioni wedi rhoi stop ar y pethau yma! Mae'ch pechodau chi wedi cadw'r glaw i ffwrdd.’ | |
Jere | WelBeibl | 5:26 | ‘Mae yna bobl ddrwg iawn ymhlith fy mhobl i. Maen nhw fel helwyr adar yn cuddio ac yn gwylio, ar ôl gosod trapiau i ddal pobl. | |
Jere | WelBeibl | 5:27 | Fel caets sy'n llawn o adar wedi'u dal, mae eu tai'n llawn o enillion eu twyll. Dyna pam maen nhw mor gyfoethog a phwerus, | |
Jere | WelBeibl | 5:28 | wedi pesgi ac yn edrych mor dda. Does dim pen draw i'w drygioni nhw! Dŷn nhw ddim yn rhoi cyfiawnder i'r amddifad, nac yn amddiffyn hawliau pobl dlawd. | |
Jere | WelBeibl | 5:29 | Ddylwn i ddim eu cosbi nhw am hyn?’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Ddylwn i ddim dial ar wlad fel yma?’ | |