Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 48
Jere WelBeibl 48:1  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, yn ei ddweud am Moab: “Mae hi ar ben ar dref Nebo! Bydd hi'n cael ei dinistrio. Bydd Ciriathaim yn cael ei chywilyddio a'i choncro – bydd y gaer yn cael ei chywilyddio a'i bwrw i lawr.
Jere WelBeibl 48:2  Fydd Moab ddim yn cael ei hedmygu eto! Bu cynllwynio yn Cheshbon i'w dinistrio: ‘Dewch! Gadewch i ni roi diwedd ar y wlad!’ Tref Madmen, cei dithau dy dawelu – does dim dianc rhag y rhyfel i fod.
Jere WelBeibl 48:3  Gwrandwch ar y gweiddi yn Choronaïm! ‘Dinistr llwyr! Mae'n adfeilion!’
Jere WelBeibl 48:4  Mae Moab wedi'i dryllio! Bydd ei phlant yn gweiddi allan.
Jere WelBeibl 48:5  Byddan nhw'n dringo llethrau Lwchith ac yn wylo'n chwerw wrth fynd. Ar y ffordd i lawr i Choronaïm bydd sŵn pobl yn gweiddi mewn dychryn.
Jere WelBeibl 48:6  ‘Ffowch am eich bywydau! Byddwch fel prysglwyn unig yn yr anialwch.’
Jere WelBeibl 48:7  Am dy fod wedi trystio dy ymdrechion a dy gyfoeth dy hun, byddi di hefyd yn cael dy goncro. Bydd dy dduw Chemosh yn cael ei gymryd i ffwrdd, a'i offeiriaid a'i swyddogion gydag e.
Jere WelBeibl 48:8  Mae'r gelyn sy'n dinistrio yn dod i daro'r trefi i gyd; fydd dim un yn dianc. Bydd trefi'r dyffryn yn cael eu dinistrio, a'r trefi ar y byrdd-dir uchel hefyd. Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud.
Jere WelBeibl 48:9  Cod garreg fedd i Moab, achos bydd yn cael ei throi'n adfeilion. Bydd ei threfi'n cael eu dinistrio a fydd neb yn byw ynddyn nhw.”
Jere WelBeibl 48:10  (Melltith ar unrhyw un sy'n ddiog wrth wneud gwaith yr ARGLWYDD! Melltith ar unrhyw un sydd ddim yn defnyddio'i gleddyf i dywallt gwaed!)
Jere WelBeibl 48:11  “Mae Moab wedi teimlo'n saff o'r dechrau cyntaf. Mae hi wedi cael llonydd, fel gwin wedi hen setlo a heb gael ei dywallt o un jar i'r llall. Dydy hi erioed wedi cael ei chymryd yn gaeth; mae fel gwin sydd wedi cadw ei flas a'i arogl.
Jere WelBeibl 48:12  “Ond mae'r amser yn dod pan fydda i'n anfon dynion i'w selar i'w thywallt allan a malu'r jariau'n ddarnau,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:13  “Bydd gan Moab gywilydd o'i heilun-dduw Chemosh, fel roedd gan Israel gywilydd o'r llo roedd yn ei drystio yn Bethel.
Jere WelBeibl 48:14  Mae dynion Moab yn brolio, ‘Dŷn ni'n arwyr! Dŷn ni'n filwyr cryf!’
Jere WelBeibl 48:15  Ond mae'r un sy'n dinistrio Moab yn dod. Bydd ei threfi'n cael eu concro, a'i milwyr ifanc gorau'n cael eu lladd,” —y Brenin, sef yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 48:16  “Mae dinistr Moab ar fin digwydd; mae'r drwg ddaw arni'n dod yn fuan.
Jere WelBeibl 48:17  Galarwch drosti, chi wledydd sydd o'i chwmpas a phawb sy'n gwybod amdani. Dwedwch, ‘O! Mae ei grym wedi'i golli; mae'r deyrnwialen hardd wedi'i thorri!’
Jere WelBeibl 48:18  Dewch i lawr o'ch safle balch ac eistedd yn y baw, chi sy'n byw yn Dibon. Bydd yr un fydd yn dinistrio Moab yn ymosod ac yn dymchwel y caerau sy'n eich amddiffyn.
Jere WelBeibl 48:19  Chi sy'n byw yn Aroer, safwch ar ochr y ffordd yn gwylio. Gofynnwch i'r dynion a'r merched sy'n dianc, ‘Beth sydd wedi digwydd?’
Jere WelBeibl 48:20  Byddan nhw'n ateb: ‘Mae Moab wedi'i chywilyddio – mae wedi'i choncro.’ Udwch a chrio! Cyhoeddwch ar lan afon Arnon ‘Mae Moab wedi'i dinistrio.’”
Jere WelBeibl 48:21  Mae trefi'r byrdd-dir i gael eu barnu – Cholon, Iahats, Meffaäth,
Jere WelBeibl 48:24  Cerioth a Bosra. Bydd trefi Moab i gyd yn cael eu cosbi – pell ac agos.
Jere WelBeibl 48:25  “Mae corn Moab wedi'i dorri, a'i nerth wedi dod i ben,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:26  Roedd Moab yn brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD. Ond bydd fel meddwyn yn rholio yn ei chwŷd. Bydd pawb yn chwerthin ar ei phen!
Jere WelBeibl 48:27  Onid chi, bobl Moab, oedd yn chwerthin ar ben Israel? Roeddech yn ei thrin fel petai'n lleidr, ac yn ysgwyd eich pennau bob tro roedd rhywun yn sôn amdani.
Jere WelBeibl 48:28  Bobl Moab, gadewch eich trefi a mynd i fyw yn y creigiau, fel colomennod yn nythu ar y clogwyni uwchben y ceunant.
Jere WelBeibl 48:29  Dŷn ni wedi clywed am falchder Moab – mae ei phobl mor falch: yn hunandybus, yn brolio, yn snobyddlyd, ac mor llawn ohoni ei hun!
Jere WelBeibl 48:30  “Dw innau'n gwybod mor filain ydy hi,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Mae ei brolio hi'n wag ac yn cyflawni dim byd!
Jere WelBeibl 48:31  Felly, bydda i'n udo dros bobl Moab. Bydda i'n crio dros Moab gyfan, ac yn griddfan dros bobl Cir-cheres.
Jere WelBeibl 48:32  Bydda i'n wylo dros winwydden Sibma mwy na mae tref Iaser yn wylo drosti. Roedd ei changhennau'n ymestyn i'r Môr Marw ar un adeg; roedden nhw'n cyrraedd mor bell â Iaser. Ond mae'r gelyn sy'n dinistrio'n mynd i ddifetha ei chnydau o ffigys a grawnwin.
Jere WelBeibl 48:33  Bydd pleser a llawenydd yn diflannu'n llwyr o dir ffrwythlon Moab. Bydda i'n stopio'r gwin rhag llifo i'r cafnau; fydd neb yn gweiddi'n llawen wrth sathru'r grawnwin – bydd gweiddi, ond bydd y gweiddi'n wahanol.
Jere WelBeibl 48:34  “Bydd y gweiddi a'r galar yn Cheshbon i'w clywed yn Elealê a hyd yn oed Iahats. Bydd y sŵn i'w glywed o Soar i Choronaïm ac Eglath-shalisheia. Bydd hyd yn oed dŵr Nimrim yn cael ei sychu.
Jere WelBeibl 48:35  Fydd neb yn mynd i fyny i aberthu ar yr allorau paganaidd ac yn llosgi arogldarth i dduwiau Moab,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:36  “Felly bydd fy nghalon yn griddfan fel pibau dros Moab. Pibau chwyth yn canu cân i alaru dros bobl Cir-cheres. Bydd y cyfoeth wnaethon nhw ei gasglu'n diflannu.
Jere WelBeibl 48:37  “Bydd pawb wedi siafio'r pen a'r farf. Bydd pawb wedi torri eu dwylo â chyllyll, ac yn gwisgo sachliain.
Jere WelBeibl 48:38  Fydd dim byd ond galaru i'w glywed ar bennau'r tai ac yn y sgwariau. Dw i'n mynd i dorri Moab fel potyn pridd does neb ei eisiau,” meddai'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:39  “Bydd wedi'i dorri'n deilchion! Bydd y bobl yn udo! Bydd Moab yn troi ei chefn mewn cywilydd! Bydd yn destun sbort ac yn olygfa ddychrynllyd i'r gwledydd o'i chwmpas.”
Jere WelBeibl 48:40  Ie, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Edrychwch! Bydd y gelyn fel eryr yn lledu ei adenydd ac yn plymio i lawr ar Moab.
Jere WelBeibl 48:41  Bydd ei threfi'n cael eu meddiannu, a'r caerau sy'n ei hamddiffyn yn cael eu dal. Y diwrnod hwnnw bydd milwyr Moab wedi dychryn fel gwraig ar fin cael babi!
Jere WelBeibl 48:42  Bydd Moab yn cael ei dinistrio ac yn peidio â bod yn genedl, am ei bod hi wedi brolio ei bod yn well na'r ARGLWYDD.
Jere WelBeibl 48:43  Panig, pydew a thrap sydd o'ch blaenau chi, bobl Moab! —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 48:44  Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychryn yn disgyn i dwll. A bydd pawb sy'n dringo o'r twll yn cael eu dal mewn trap! Mae'r amser wedi dod i mi gosbi Moab, —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 48:45  Bydd ffoaduriaid yn sefyll wedi ymlâdd dan gysgod waliau Cheshbon. Mae tân wedi lledu o Cheshbon, fflamau o diriogaeth y Brenin Sihon. Mae'n llosgi ar hyd ffiniau Moab i ben y mynyddoedd yng ngwlad y bobl ryfelgar.
Jere WelBeibl 48:46  Mae hi ar ben arnat ti, Moab! Dych chi, bobl sy'n addoli Chemosh, wedi'ch difa. Mae eich meibion yn garcharorion, a'ch merched wedi'u cymryd yn gaethion.
Jere WelBeibl 48:47  Ond yn y dyfodol, bydda i'n rhoi'r cwbl gollodd Moab yn ôl iddi.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. Dyma ddiwedd y neges o farn ar Moab.