Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JEREMIAH
Prev Up Next
Chapter 15
Jere WelBeibl 15:1  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud hyn wrtho i: “Hyd yn oed petai Moses a Samuel yn dod i bledio dros y bobl yma, fyddwn i ddim yn eu helpu nhw. Dos â nhw o ngolwg i! Anfon nhw i ffwrdd!
Jere WelBeibl 15:2  Ac os byddan nhw'n gofyn, ‘Ble awn ni?’, dywed wrthyn nhw: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint. Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel. Bydd y rhai sydd i farw o newyn yn marw o newyn. Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.”’
Jere WelBeibl 15:3  Bydd pedwar peth ofnadwy yn digwydd iddyn nhw,” meddai'r ARGLWYDD: “Bydd y cleddyf yn eu lladd. Bydd cŵn yn llusgo'r cyrff i ffwrdd. Bydd adar yn eu bwyta a'r anifeiliaid gwyllt yn gorffen beth sydd ar ôl.
Jere WelBeibl 15:4  Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd i gyd. Dyna'r gosb am beth wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
Jere WelBeibl 15:5  Yr ARGLWYDD “Pwy sy'n mynd i deimlo trueni drosot ti, Jerwsalem? Fydd unrhyw un yn cydymdeimlo hefo ti? Fydd unrhyw un yn stopio i holi sut wyt ti?
Jere WelBeibl 15:6  Ti wedi troi cefn arna i,” meddai'r ARGLWYDD. “Rwyt ti wedi mynd o ddrwg i waeth! Felly dw i'n mynd i dy daro di a dy ddinistrio di. Dw i wedi blino rhoi cyfle arall i ti o hyd.
Jere WelBeibl 15:7  Dw i'n mynd i wahanu'r us a'r grawn ym mhob un o drefi'r wlad. Dw i'n mynd i ddinistrio fy mhobl, a mynd â'u plant i ffwrdd, am eu bod nhw wedi gwrthod newid eu ffyrdd.
Jere WelBeibl 15:8  Bydd mwy o weddwon nag o dywod ar lan y môr. Bydda i'n lladd dy filwyr ifanc ganol dydd, a chwalu bywydau eu mamau. Bydd dioddef a dychryn yn dod drostyn nhw'n sydyn.
Jere WelBeibl 15:9  Bydd y fam oedd â saith o feibion yn anadlu'n drwm mewn panig, ac yn llewygu. Mae'r haul oedd yn disgleirio yn ei bywyd wedi machlud ganol dydd. Mae hi'n eistedd mewn cywilydd a gwarth. A bydd y rhai sydd ar ôl yn cael eu lladd gan gleddyf y gelyn,” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 15:10  “O, mam! Dw i'n sori fy mod i wedi cael fy ngeni! Ble bynnag dw i'n mynd dw i'n dadlau a thynnu'n groes i bobl! Dw i ddim wedi benthyg arian i neb na benthyg arian gan neb. Ond mae pawb yn fy rhegi i!”
Jere WelBeibl 15:11  A dyma'r ARGLWYDD yn ateb: “Onid ydw i wedi dy wneud di'n gryf am reswm da? Bydda i'n gwneud i dy elynion bledio am dy help di pan fyddan nhw mewn trafferthion.
Jere WelBeibl 15:12  “Oes rhywun yn gallu torri haearn, haearn o'r gogledd gyda phres ynddo?”
Jere WelBeibl 15:13  Yr ARGLWYDD “Am eich bod wedi pechu drwy'r wlad, bydda i'n rhoi eich cyfoeth a'ch trysorau yn ysbail i'ch gelynion.
Jere WelBeibl 15:14  Byddwch yn gwasanaethu eich gelynion mewn gwlad ddieithr. Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”
Jere WelBeibl 15:15  Jeremeia “ARGLWYDD, ti'n gwybod beth sy'n digwydd. Cofia amdana i, a thyrd i'm helpu i. Tyrd i dalu'n ôl i'r bobl hynny sy'n fy erlid i. Paid bod mor amyneddgar nes gadael iddyn nhw fy lladd i. Dw i'n diodde'r gwawdio er dy fwyn di.
Jere WelBeibl 15:16  Wrth i ti siarad rôn i'n llyncu pob gair; roedd dy eiriau'n fy ngwneud i mor hapus – rôn i wrth fy modd! I ti dw i'n perthyn, O ARGLWYDD, y Duw hollbwerus.
Jere WelBeibl 15:17  Wnes i ddim ymuno hefo pawb arall yn chwerthin a joio. Na, roeddwn i'n cadw ar wahân am fod dy law di arna i. Rôn i wedi gwylltio hefo nhw.
Jere WelBeibl 15:18  Felly, pam dw i'n dal i ddioddef? Pam dw i'n gorfod goddef hyn i gyd – fel petawn i wedi fy anafu, a'r briw yn gwrthod gwella? Wyt ti'n mynd i'm siomi fel nant sydd wedi sychu, – ffos â'i dŵr wedi diflannu?”
Jere WelBeibl 15:19  A dyma ateb yr ARGLWYDD: Yr ARGLWYDD “Rhaid i ti stopio siarad fel yna! Gwna i dy gymryd di'n ôl wedyn, a cei ddal ati i'm gwasanaethu i. Dywed bethau gwerth eu dweud yn lle siarad rwtsh, wedyn cei ddal ati i siarad ar fy rhan i. Ti sydd i ddylanwadu arnyn nhw, nid nhw'n dylanwadu arnat ti!
Jere WelBeibl 15:20  Dw i'n mynd i dy wneud di yn gryf fel wal bres. Byddan nhw'n ymosod arnat ti ond yn methu dy drechu di. Bydda i'n edrych ar dy ôl di ac yn dy achub di.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Jere WelBeibl 15:21  “Bydda i'n dy achub di o afael y bobl ddrwg yma, ac yn dy ryddhau o grafangau pobl greulon,”