Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 9
Josh WelBeibl 9:1  Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus (yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).
Josh WelBeibl 9:2  Pan glywodd y brenhinoedd oedd yn byw i'r gorllewin o afon Iorddonen am hyn i gyd, dyma nhw'n dod at ei gilydd i ffurfio cynghrair milwrol i ymladd yn erbyn Josua a phobl Israel. Roedd yn cynnwys brenhinoedd y mynydd-dir, yr iseldir, a'r rhai ar hyd arfordir Môr y Canoldir cyn belled â Libanus (yr Hethiaid, Amoriaid, Canaaneaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid).
Josh WelBeibl 9:3  Ond pan glywodd pobl Gibeon beth roedd Josua wedi'i wneud i drefi Jericho ac Ai,
Josh WelBeibl 9:4  dyma nhw'n bod yn gyfrwys. Dyma rai ohonyn nhw'n cymryd arnyn nhw eu bod yn negeswyr o wlad bell. Dyma nhw'n rhoi hen sachau ar gefnau eu hasynnod, a chario hen boteli crwyn oedd wedi rhwygo a chael eu trwsio;
Josh WelBeibl 9:5  gwisgo hen sandalau oedd wedi treulio, hen ddillad carpiog, a chario bara oedd wedi sychu a llwydo.
Josh WelBeibl 9:6  Wedyn mynd at Josua i'r gwersyll yn Gilgal, a dweud wrth bobl Israel, “Dŷn ni wedi teithio o wlad bell, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch â ni.”
Josh WelBeibl 9:7  Ond dyma bobl Israel yn dweud wrth yr Hefiaid, “Sut ydyn ni'n gwybod nad ydych chi'n dod o'r ardaloedd yma? Allwn ni ddim gwneud cytundeb heddwch gyda chi os ydych chi.”
Josh WelBeibl 9:8  A dyma nhw'n dweud wrth Josua, “Dŷn ni'n fodlon bod yn weision i chi.” Gofynnodd Josua iddyn nhw, “Pwy ydych chi ac o ble dych chi'n dod?”
Josh WelBeibl 9:9  A dyma nhw'n ateb, “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn. Mae'r ARGLWYDD eich Duw chi yn enwog – dŷn ni wedi clywed adroddiadau am beth wnaeth e yn yr Aifft,
Josh WelBeibl 9:10  a beth wnaeth e i ddau frenin yr Amoriaid yr ochr arall i afon Iorddonen – Sihon, brenin Cheshbon, ac Og, brenin Bashan, oedd yn byw yn Ashtaroth.
Josh WelBeibl 9:11  Dyma'n harweinwyr ni, a'n pobl i gyd, yn ein hanfon ni i'ch cyfarfod chi, i ofyn i chi wneud cytundeb heddwch â ni, a dweud ein bod ni'n fodlon bod yn weision i chi.
Josh WelBeibl 9:12  Roedd y bara yma'n gynnes o'r popty pan wnaethon ni adael ein cartrefi i ddod i'ch cyfarfod chi. Ond bellach mae e wedi sychu a llwydo.
Josh WelBeibl 9:13  A'r hen boteli crwyn yma – roedden nhw'n newydd sbon pan wnaethon ni eu llenwi nhw. Ac edrychwch ar gyflwr ein dillad a'n sandalau ni! Mae wedi bod yn daith mor hir!”
Josh WelBeibl 9:14  Dyma arweinwyr Israel yn edrych ar y bara, ond wnaethon nhw ddim gofyn i'r ARGLWYDD am arweiniad.
Josh WelBeibl 9:15  Felly dyma Josua'n gwneud cytundeb heddwch â nhw, ac addo gadael iddyn nhw fyw. A dyma arweinwyr Israel yn cadarnhau'r cytundeb drwy dyngu llw.
Josh WelBeibl 9:16  Dri diwrnod wedyn dyma bobl Israel yn darganfod y gwir – pobl leol oedden nhw!
Josh WelBeibl 9:17  Symudodd Israel yn eu blaenau, a chyrraedd eu trefi ddeuddydd wedyn, sef Gibeon, Ceffira, Beëroth, a Ciriath-iearîm.
Josh WelBeibl 9:18  Ond wnaeth pobl Israel ddim ymosod arnyn nhw am fod eu harweinwyr wedi cymryd llw yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Roedd y bobl i gyd yn cwyno am yr arweinwyr.
Josh WelBeibl 9:19  Ond meddai'r arweinwyr wrthyn nhw, “Dŷn ni wedi cymryd llw, a gwneud addewid i'r bobl yma yn enw'r ARGLWYDD, Duw Israel. Allwn ni ddim eu cyffwrdd nhw!
Josh WelBeibl 9:20  Os ydyn ni am osgoi melltith Duw arnon ni am dorri'n haddewid, rhaid i ni adael iddyn nhw fyw.
Josh WelBeibl 9:21  Felly gadewch iddyn nhw fyw.” A chawson nhw dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, fel roedd yr arweinwyr wedi addo iddyn nhw.
Josh WelBeibl 9:22  Galwodd Josua y bobl o Gibeon ato, a gofyn iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi'n twyllo ni? Pam wnaethoch chi ddweud eich bod chi'n dod o wlad bell, a chithau'n byw yma wrth ein hymyl ni?
Josh WelBeibl 9:23  Nawr dych chi wedi'ch condemnio i fod yn gaethweision am byth. Byddwch chi'n torri coed ac yn cario dŵr i deml fy Nuw i.”
Josh WelBeibl 9:24  Dyma nhw'n ateb, “Roedden ni'n clywed o hyd ac o hyd fod yr ARGLWYDD eich Duw wedi dweud wrth ei was Moses fod y wlad gyfan i'w rhoi i chi, a'ch bod i ddinistrio pawb oedd yn byw yma o'ch blaen. Roedd gynnon ni ofn am ein bywydau, a dyna pam wnaethon ni beth wnaethon ni.
Josh WelBeibl 9:25  Dŷn ni yn eich dwylo chi. Gwnewch beth bynnag dych chi'n feddwl sy'n iawn.”
Josh WelBeibl 9:26  Wnaeth Josua ddim gadael i bobl Israel eu lladd nhw.
Josh WelBeibl 9:27  Gwnaeth nhw'n gaethweision i dorri coed a chario dŵr i bobl Israel, ac i allor yr ARGLWYDD – ble bynnag fyddai'r ARGLWYDD yn dewis ei gosod. A dyna maen nhw'n ei wneud hyd heddiw.