LUKE
Chapter 13
Luke | WelBeibl | 13:1 | Dyma bobl yn dod a dweud wrth Iesu fod Peilat wedi lladd rhyw bobl o Galilea pan oedden nhw wrthi'n aberthu i Dduw. | |
Luke | WelBeibl | 13:2 | “Ydych chi'n meddwl fod y Galileaid yna yn bechaduriaid gwaeth na phobl eraill Galilea? Ai dyna pam wnaethon nhw ddioddef?” | |
Luke | WelBeibl | 13:3 | “Nage! dim o gwbl! Cewch chithau hefyd eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn newid eich ffyrdd a throi at Dduw!” | |
Luke | WelBeibl | 13:4 | “Neu beth am y bobl yna gafodd eu lladd pan syrthiodd tŵr Siloam ar eu pennau? – un deg wyth ohonyn nhw! Ydych chi'n meddwl eu bod nhw'n waeth na phawb arall oedd yn byw yn Jerwsalem?” | |
Luke | WelBeibl | 13:5 | “Nac oedden! Dim o gwbl! Ond byddwch chithau hefyd yn cael eich dinistrio os fyddwch chi ddim yn troi at Dduw!” | |
Luke | WelBeibl | 13:6 | Yna dwedodd y stori yma: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu coeden ffigys yn ei winllan. Bu'n disgwyl a disgwyl i rywbeth dyfu arni, ond chafodd e ddim byd. | |
Luke | WelBeibl | 13:7 | Felly dyma'r dyn yn dweud wrth y gwas oedd yn gweithio fel garddwr iddo, ‘Dw i wedi bod yn disgwyl i ffrwyth dyfu ar y goeden ffigys yma ers tair blynedd, ac wedi cael dim. Torra hi i lawr, mae hi'n wastraff o dir da.’ | |
Luke | WelBeibl | 13:8 | “‘Ond syr,’ meddai'r garddwr, ‘gad hi am flwyddyn arall, i mi balu o'i chwmpas hi a rhoi digon o wrtaith iddi. | |
Luke | WelBeibl | 13:9 | Wedyn os bydd ffrwyth yn tyfu arni, gwych! Ond os bydd dim ffrwyth eto, yna torrwn hi i lawr.’” | |
Luke | WelBeibl | 13:11 | ac roedd gwraig yno oedd ag ysbryd drwg wedi'i gwneud hi'n anabl ers un deg wyth mlynedd. Roedd ei chefn wedi crymu nes ei bod yn methu sefyll yn syth o gwbl. | |
Luke | WelBeibl | 13:12 | Dyma Iesu'n ei gweld hi ac yn ei galw draw ato. “Wraig annwyl,” meddai wrthi, “rwyt ti'n mynd i gael dy iacháu o dy wendid.” | |
Luke | WelBeibl | 13:13 | Yna rhoddodd ei ddwylo arni, a dyma'i chefn yn sythu yn y fan a'r lle. A dechreuodd hi foli Duw. | |
Luke | WelBeibl | 13:14 | Ond roedd arweinydd y synagog wedi gwylltio am fod Iesu wedi iacháu ar y Saboth. Cododd a dweud wrth y bobl oedd yno, “Mae yna chwe diwrnod i weithio. Dewch i gael eich iacháu y dyddiau hynny, dim ar y Saboth!” | |
Luke | WelBeibl | 13:15 | Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Ti mor ddauwynebog! Dych chi i gyd yn gollwng ych ac asyn yn rhydd ar y Saboth, ac yn eu harwain at ddŵr. | |
Luke | WelBeibl | 13:16 | Dyma i chi un o blant Abraham – gwraig wedi'i rhwymo gan Satan ers un deg wyth mlynedd. Onid ydy'n iawn iddi hi hefyd gael ei gollwng yn rhydd ar y Saboth?” | |
Luke | WelBeibl | 13:17 | Roedd ei eiriau'n codi cywilydd ar ei wrthwynebwyr i gyd. Ond roedd y bobl gyffredin wrth eu bodd gyda'r holl bethau gwych roedd yn eu gwneud. | |
Luke | WelBeibl | 13:19 | Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei ardd. Tyfodd yn goeden, a daeth yr adar i nythu yn ei changhennau!” | |
Luke | WelBeibl | 13:21 | Mae fel burum. Mae gwraig yn ei gymryd ac yn ei gymysgu gyda digonedd o flawd nes iddo ledu drwy'r toes i gyd.” | |
Luke | WelBeibl | 13:22 | Ar ei ffordd i Jerwsalem roedd Iesu'n galw yn y trefi a'r pentrefi i gyd ac yn dysgu'r bobl. | |
Luke | WelBeibl | 13:23 | Dyma rywun yn gofyn iddo, “Arglwydd, ai dim ond ychydig bach o bobl sy'n mynd i gael eu hachub?” Dyma'i ateb: | |
Luke | WelBeibl | 13:24 | “Gwnewch eich gorau glas i gael mynd drwy'r drws cul. Wir i chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond yn methu. | |
Luke | WelBeibl | 13:25 | Pan fydd perchennog y tŷ wedi codi i gau'r drws, bydd hi'n rhy hwyr. Byddwch chi'n sefyll y tu allan yn curo ac yn pledio, ‘Syr, agor y drws i ni.’ Ond bydd yn ateb, ‘Dw i ddim yn gwybod pwy ydych chi.’ | |
Luke | WelBeibl | 13:26 | Byddwch chithau'n dweud, ‘Buon ni'n bwyta ac yn yfed gyda ti. Roeddet ti'n dysgu ar ein strydoedd ni.’ | |
Luke | WelBeibl | 13:27 | A bydd e'n ateb eto, ‘Dw i ddim yn eich nabod chi. Ewch o ma! Pobl ddrwg ydych chi i gyd!’ | |
Luke | WelBeibl | 13:28 | “Byddwch chi'n wylo'n chwerw ac mewn artaith, wrth weld Abraham, Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chi'ch hunain wedi'ch taflu allan. | |
Luke | WelBeibl | 13:30 | Yn wir bydd y rhai sydd yn y cefn yn cael bod ar y blaen, a'r rhai sydd ar y blaen yn cael eu hunain yn y cefn.” | |
Luke | WelBeibl | 13:31 | Yna daeth rhyw Phariseaid at Iesu a dweud wrtho, “Rhaid i ti ddianc o ma. Mae Herod Antipas eisiau dy ladd di.” | |
Luke | WelBeibl | 13:32 | Atebodd Iesu, “Ewch i ddweud wrth y llwynog, ‘Bydda i'n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw a fory, a'r diwrnod wedyn bydda i wedi cyrraedd lle dw i'n mynd.’ | |
Luke | WelBeibl | 13:33 | Mae'n rhaid i mi ddal i fynd am dri diwrnod arall – does dim un proffwyd yn marw y tu allan i Jerwsalem! | |
Luke | WelBeibl | 13:34 | “O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd – ond doedd gen ti ddim diddordeb! | |