Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 108
Psal WelBeibl 108:1  Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw. Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti.
Psal WelBeibl 108:2  Deffro, nabl a thelyn! Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân.
Psal WelBeibl 108:3  Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb. Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl.
Psal WelBeibl 108:4  Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd, a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau!
Psal WelBeibl 108:5  Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw, i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
Psal WelBeibl 108:6  Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
Psal WelBeibl 108:7  Mae Duw wedi addo yn ei gysegr: “Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem, a mesur dyffryn Swccoth.
Psal WelBeibl 108:8  Fi sydd biau Gilead, a Manasse hefyd; Effraim ydy fy helmed i a Jwda ydy'r deyrnwialen.
Psal WelBeibl 108:9  Ond bydd Moab fel powlen ymolchi. Byddaf yn taflu fy esgid at Edom, ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”
Psal WelBeibl 108:10  Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel? Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
Psal WelBeibl 108:11  Onid ti, O Dduw? Ond rwyt wedi'n gwrthod ni! Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
Psal WelBeibl 108:12  Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn, achos dydy help dynol yn dda i ddim.
Psal WelBeibl 108:13  Gyda Duw gallwn wneud pethau mawr – bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!