Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EXODUS
Prev Up Next
Chapter 14
Exod WelBeibl 14:2  “Dwed wrth bobl Israel am droi yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd rhwng Migdol a'r môr, a gwersylla ar lan y môr, yn union gyferbyn â Baal-tseffon.
Exod WelBeibl 14:3  Bydd y Pharo yn meddwl, ‘Dydy pobl Israel ddim yn gwybod ble i droi. Maen nhw wedi'u dal rhwng yr anialwch a'r môr!’
Exod WelBeibl 14:4  Bydda i'n gwneud y Pharo yn ystyfnig unwaith eto, a bydd yn dod ar eich ôl. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, a bydd pobl yr Aifft yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD.” Felly dyma bobl Israel yn gwneud beth ddwedodd Moses.
Exod WelBeibl 14:5  Pan ddywedwyd wrth frenin yr Aifft fod y bobl wedi dianc, dyma fe a'i swyddogion yn newid eu meddyliau, “Beth oedd ar ein pennau ni?” medden nhw. “Dŷn ni wedi gadael i'n caethweision fynd yn rhydd!”
Exod WelBeibl 14:6  Felly dyma'r Pharo'n paratoi ei gerbydau rhyfel ac yn mynd â'i filwyr gydag e.
Exod WelBeibl 14:7  Aeth â chwech chant o'i gerbydau gorau, a'r cerbydau eraill i gyd, gyda cadfridog yn bob un.
Exod WelBeibl 14:8  Roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud y Pharo, brenin yr Aifft, yn ystyfnig, a dyma fe'n mynd ar ôl pobl Israel. Ond roedd pobl Israel yn mynd yn eu blaenau yn hyderus.
Exod WelBeibl 14:9  Dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau gyda'u ceffylau a'u cerbydau rhyfel a'u milwyr i gyd, a dod o hyd iddyn nhw yn gwersylla yn Pi-hachiroth, ar lan y môr, gyferbyn a Baal-tseffon.
Exod WelBeibl 14:10  Wrth i'r Pharo a'i fyddin agosáu, dyma bobl Israel yn eu gweld nhw'n dod tuag atyn nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD,
Exod WelBeibl 14:11  a dweud wrth Moses, “Wyt ti wedi dod â ni allan i'r anialwch i farw am fod dim lle i'n claddu ni yn yr Aifft? Beth oedd ar dy ben di yn dod â ni allan o'r Aifft?
Exod WelBeibl 14:12  Dyma'n union ddwedon ni pan oedden ni yn yr Aifft, ‘Gad lonydd i ni ddal ati i weithio i'r Eifftiaid. Mae'n well gwneud hynny na mynd i farw yn yr anialwch!’”
Exod WelBeibl 14:13  Ond dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Peidiwch bod ag ofn! Arhoswch chi, a chewch weld sut bydd yr ARGLWYDD yn eich achub chi. Fyddwch chi ddim yn gweld yr Eifftiaid acw byth eto.
Exod WelBeibl 14:14  Mae'r ARGLWYDD yn mynd i ymladd drosoch chi. Does rhaid i chi wneud dim!”
Exod WelBeibl 14:15  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Pam wyt ti'n galw arna i? Dwed wrth bobl Israel am fynd yn eu blaenau.
Exod WelBeibl 14:16  Cymer di dy ffon, a'i hestyn tuag at y môr. Bydd y môr yn hollti, a bydd pobl Israel yn gallu mynd drwy ei ganol ar dir sych!
Exod WelBeibl 14:17  Bydda i'n gwneud yr Eifftiaid mor ystyfnig, byddan nhw'n ceisio mynd ar eich ôl drwy'r môr. Ond bydda i'n cael fy anrhydeddu o achos beth fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin, gyda'i holl gerbydau a'i farchogion.
Exod WelBeibl 14:18  A bydd yr Eifftiaid yn dod i ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD, o achos beth fydd yn digwydd iddyn nhw.”
Exod WelBeibl 14:19  Dyma angel Duw, oedd wedi bod yn arwain pobl Israel, yn symud tu ôl iddyn nhw. A dyma'r golofn o niwl yn symud o'r tu blaen i sefyll tu ôl iddyn nhw,
Exod WelBeibl 14:20  rhwng gwersyll yr Eifftiaid a gwersyll pobl Israel. Roedd yn gwmwl tywyll un ochr, ac yn goleuo'r nos yr ochr arall. Felly doedd y fyddin un ochr ddim yn gallu mynd yn agos at yr ochr arall drwy'r nos.
Exod WelBeibl 14:21  Dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r ARGLWYDD yn dod â gwynt cryf o'r dwyrain i chwythu drwy'r nos a gwneud i'r môr fynd yn ôl. Dyma'r môr yn gwahanu, ac roedd gwely'r môr yn llwybr sych drwy'r canol.
Exod WelBeibl 14:22  A dyma bobl Israel yn mynd drwy ganol y môr ar dir sych, a'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.
Exod WelBeibl 14:23  Yna dyma'r Eifftiaid yn mynd ar eu holau i ganol y môr – ceffylau a cherbydau rhyfel a marchogion y Pharo i gyd.
Exod WelBeibl 14:24  Yn ystod yr oriau cyn iddi wawrio, dyma'r ARGLWYDD yn edrych i lawr ar fyddin yr Aifft drwy'r golofn o dân a niwl, a dyma fe'n achosi iddyn nhw banicio.
Exod WelBeibl 14:25  Gwnaeth i olwynion y cerbydau rhyfel fynd yn sownd, ac roedden nhw'n cael trafferth symud. A dyma'r Eifftiaid yn dweud, “Dewch! Rhaid i ni ddianc! Mae'r ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel yn ein herbyn ni'r Eifftiaid!”
Exod WelBeibl 14:26  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Estyn dy law tuag at y môr, i'r dŵr lifo yn ôl dros yr Eifftiaid, eu cerbydau rhyfel a'u marchogion.”
Exod WelBeibl 14:27  Felly dyma Moses yn estyn ei law tuag at y môr, a dyma'r môr yn mynd yn ôl i'w le wrth iddi wawrio. Roedd yr Eifftiaid yn ceisio dianc, ond dyma'r ARGLWYDD yn eu boddi nhw yng nghanol y môr.
Exod WelBeibl 14:28  Daeth y dŵr yn ôl dros yr holl gerbydau rhyfel a'r marchogion a byddin y Pharo oedd wedi mynd ar ôl pobl Israel i ganol y môr – wnaeth dim un ohonyn nhw fyw!
Exod WelBeibl 14:29  Ond roedd pobl Israel wedi cerdded drwy ganol y môr ar dir sych, gyda'r dŵr fel wal bob ochr iddyn nhw.
Exod WelBeibl 14:30  Dyna sut wnaeth yr ARGLWYDD achub Israel o law'r Eifftiaid y diwrnod hwnnw. Roedd pobl Israel yn gweld cyrff yr Eifftiaid yn gorwedd ar lan y dŵr.
Exod WelBeibl 14:31  Ar ôl gweld nerth anhygoel yr ARGLWYDD yn ymladd yn erbyn yr Eifftiaid, roedden nhw'n ei barchu fe, ac yn ei drystio fe a'i was Moses.