EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 18
Exod | WelBeibl | 18:1 | Clywodd tad-yng-nghyfraith Moses (sef Jethro, offeiriad Midian) am y cwbl roedd Duw wedi'i wneud i Moses a phobl Israel. Clywodd fod yr ARGLWYDD wedi dod â phobl Israel allan o'r Aifft. | |
Exod | WelBeibl | 18:3 | Gershom oedd enw un mab (am i Moses ddweud, “Dw i wedi bod fel mewnfudwr mewn gwlad ddieithr”), | |
Exod | WelBeibl | 18:4 | ac Elieser oedd y llall (am fod Moses wedi dweud, “Mae Duw fy nhad wedi fy helpu, ac wedi fy achub rhag cael fy lladd gan y Pharo”). | |
Exod | WelBeibl | 18:5 | A dyma Jethro yn dod â gwraig Moses a'i feibion i'r anialwch at Moses, oedd yn gwersylla wrth ymyl mynydd Sinai. | |
Exod | WelBeibl | 18:6 | Roedd wedi anfon neges at Moses yn dweud, “Dw i'n dod i dy weld di, gyda dy wraig a dy ddau fab.” | |
Exod | WelBeibl | 18:7 | A dyma Moses yn mynd allan i'w gyfarfod, yn ymgrymu o'i flaen ac yn ei gyfarch drwy ei gusanu. Ar ôl holi ei gilydd sut oedd pethau wedi bod, dyma nhw'n mynd yn ôl i babell Moses. | |
Exod | WelBeibl | 18:8 | Dwedodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith am bopeth roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud i'r Pharo a phobl yr Aifft er mwyn achub pobl Israel. Dwedodd wrtho am y problemau roedden nhw wedi'u hwynebu ar y ffordd, a sut roedd yr ARGLWYDD wedi'u helpu nhw drwy'r cwbl. | |
Exod | WelBeibl | 18:9 | Roedd Jethro wrth ei fodd yn clywed am y cwbl roedd yr ARGLWYDD wedi'i wneud i achub pobl Israel o'r Aifft. | |
Exod | WelBeibl | 18:10 | “Bendith ar yr ARGLWYDD,” meddai. “Mae wedi'ch achub chi oddi wrth y Pharo a'r Eifftiaid! | |
Exod | WelBeibl | 18:11 | Dw i'n gweld nawr fod yr ARGLWYDD yn gryfach na'r duwiau i gyd! Mae'n gallu gwneud beth maen nhw'n brolio amdano yn well na nhw!” | |
Exod | WelBeibl | 18:12 | Yna dyma Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, yn dod ag offrwm i'w losgi ac aberthau eraill i'w cyflwyno i Dduw. A dyma Aaron ac arweinwyr Israel yn ymuno gyda Jethro i fwyta'r aberthau o flaen Duw. | |
Exod | WelBeibl | 18:13 | Y diwrnod wedyn, dyma Moses yn eistedd i farnu achosion rhwng pobl. Roedd y bobl yn ciwio o'i flaen o fore gwyn tan nos. | |
Exod | WelBeibl | 18:14 | Pan welodd ei dad-yng-nghyfraith gymaint roedd Moses yn ei wneud, dyma fe'n dweud, “Pam wyt ti'n gwneud hyn i gyd ar dy ben dy hun? Mae'r bobl yn gorfod sefyll yma drwy'r dydd yn disgwyl eu tro.” | |
Exod | WelBeibl | 18:15 | “Mae'r bobl yn dod ata i am eu bod eisiau gwybod beth mae Duw'n ddweud,” meddai Moses. | |
Exod | WelBeibl | 18:16 | “Pan mae dadl yn codi rhwng pobl, maen nhw'n gofyn i mi farnu, a dw i'n dweud wrthyn nhw beth ydy rheolau ac arweiniad Duw.” | |
Exod | WelBeibl | 18:18 | “Byddi wedi ymlâdd – ti a'r bobl. Mae'n ormod o faich i ti ei gario ar dy ben dy hun. | |
Exod | WelBeibl | 18:19 | Gwranda ar air o gyngor, a bydd Duw yn dy helpu di. Gelli di gynrychioli'r bobl o flaen Duw, a mynd â'u hachosion ato. | |
Exod | WelBeibl | 18:20 | Gelli eu dysgu nhw am reolau a chyfreithiau Duw, a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fyw a beth ddylen nhw wneud. | |
Exod | WelBeibl | 18:21 | Ond yna rhaid i ti ddewis dynion cyfrifol – dynion duwiol a gonest, fyddai'n gwrthod derbyn breib – a'u penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. | |
Exod | WelBeibl | 18:22 | Cân nhw farnu'r achosion cyffredin o ddydd i ddydd, ond dod â'r achosion anodd atat ti. Gad iddyn nhw ysgafnhau'r baich arnat ti drwy ddelio gyda'r achosion hawdd. | |
Exod | WelBeibl | 18:23 | Os gwnei di hynny (a dyna mae Duw eisiau), byddi di'n llwyddo i ymdopi, a bydd y bobl yn mynd adre'n fodlon.” | |
Exod | WelBeibl | 18:24 | Gwrandawodd Moses ar gyngor ei dad-yng-nghyfraith a gwneud y cwbl roedd yn ei awgrymu. | |
Exod | WelBeibl | 18:25 | Dewisodd ddynion cyfrifol o blith pobl Israel, a'u penodi nhw'n swyddogion dros grwpiau o fil, cant, hanner cant a deg. | |
Exod | WelBeibl | 18:26 | Roedden nhw'n barnu'r achosion cyffredin, ac yn mynd â'r achosion anodd at Moses. Roedden nhw'n gallu delio gyda'r achosion hawdd eu hunain. | |