Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JUDGES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21
Prev Up Next
Chapter 21
Judg WelBeibl 21:1  Pan oedden nhw yn Mitspa, roedd pobl Israel wedi tyngu llw, “Fydd dim un ohonon ni'n gadael i'w ferch briodi dyn o lwyth Benjamin.”
Judg WelBeibl 21:2  Felly dyma'r bobl yn mynd i Bethel ac yn eistedd o flaen yr ARGLWYDD, yn beichio crio'n uchel.
Judg WelBeibl 21:3  “O ARGLWYDD, Duw Israel, pam mae hyn wedi digwydd? Mae un o lwythau Israel wedi diflannu heddiw!”
Judg WelBeibl 21:4  Y bore wedyn, dyma'r bobl yn codi'n gynnar ac yn adeiladu allor. A dyma nhw'n cyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Judg WelBeibl 21:5  Wedyn dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai'n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.”
Judg WelBeibl 21:6  Roedden nhw'n teimlo mor ddrwg am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin. “Heddiw, mae un o'r llwythau wedi'i dorri i ffwrdd o Israel!” medden nhw.
Judg WelBeibl 21:7  “Sut allwn ni ddod o hyd i wragedd i'r rhai ohonyn nhw sy'n dal yn fyw? Dŷn ni wedi addo ar lw, o flaen yr ARGLWYDD, i beidio rhoi'n merched ni yn wragedd iddyn nhw.”
Judg WelBeibl 21:8  A dyna pam wnaethon nhw ofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?” Dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod. (
Judg WelBeibl 21:9  Pan oedden nhw wedi cyfri'r bobl, doedd neb o Jabesh yn Gilead yno.)
Judg WelBeibl 21:10  Felly dyma nhw'n anfon 12,000 o filwyr i ymosod ar Jabesh yn Gilead. Y gorchymyn oedd i ladd pawb, gan gynnwys gwragedd a phlant.
Judg WelBeibl 21:11  “Lladdwch y dynion a'r bechgyn i gyd, a phob gwraig sydd ddim yn wyryf. Yr unig rai i'w cadw'n fyw ydy'r merched ifanc sy'n wyryfon.” A dyna wnaethon nhw.
Judg WelBeibl 21:12  Daethon nhw o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon yn Jabesh yn Gilead – merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â'r merched hynny'n ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
Judg WelBeibl 21:13  Wedyn, dyma bobl Israel yn cynnig telerau heddwch i ddynion Benjamin oedd wrth Graig Rimmon.
Judg WelBeibl 21:14  Felly daeth dynion Benjamin yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi'r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi'u harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd.
Judg WelBeibl 21:15  Roedd y bobl yn dal i deimlo mor ddrwg am beth oedd wedi digwydd i lwyth Benjamin – roedd yr ARGLWYDD wedi gadael bwlch yn Israel.
Judg WelBeibl 21:16  A dyma'r arweinwyr yn gofyn, “Sut ddown ni o hyd i wragedd i'r rhai sydd ar ôl? Mae merched llwyth Benjamin i gyd wedi'u lladd.
Judg WelBeibl 21:17  Mae'n rhaid cadw'r llwyth i fynd. Allwn ni ddim colli llwyth cyfan o Israel.
Judg WelBeibl 21:18  Ond allwn ni ddim rhoi'n merched ni yn wragedd iddyn nhw chwaith.” (Roedd pobl Israel wedi tyngu llw a chyhoeddi melltith ar unrhyw un fyddai'n rhoi gwraig i ddyn o lwyth Benjamin.)
Judg WelBeibl 21:19  Yna dyma nhw'n dweud, “Mae yna Ŵyl i'r ARGLWYDD yn cael ei chynnal yn Seilo bob blwyddyn. Mae'r Ŵyl yn cael ei chynnal i'r gogledd o Bethel ac i'r de o Lebona, ac i'r dwyrain o'r ffordd fawr sy'n rhedeg o Bethel i Sichem.”
Judg WelBeibl 21:20  Felly dyma nhw'n dweud wrth ddynion Benjamin, “Ewch yno i guddio yn y gwinllannoedd.
Judg WelBeibl 21:21  Pan fydd merched Seilo yn dod allan i ddawnsio, gallwch i gyd neidio allan a gafael mewn merch, ac wedyn mynd â nhw gyda chi adre i dir Benjamin.
Judg WelBeibl 21:22  Pan fydd tadau a brodyr y merched yn dod aton ni i gwyno, byddwn ni'n dweud wrthyn nhw, ‘Plîs gadwch lonydd iddyn nhw. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ymosod ar Jabesh yn Gilead. A wnaethoch chi ddim rhoi'ch merched yn wirfoddol iddyn nhw, felly dych chi ddim yn euog o dorri'ch llw.’”
Judg WelBeibl 21:23  Felly dyna wnaeth dynion Benjamin. Dyma nhw'n cipio dau gant o'r merched oedd yn dawnsio, a'u cymryd nhw'n wragedd iddyn nhw'u hunain. Wedyn aethon nhw yn ôl adre i'w tiroedd eu hunain, ailadeiladu'r trefi, a setlo i lawr unwaith eto.
Judg WelBeibl 21:24  A dyma weddill pobl Israel hefyd yn mynd yn ôl adre i'w tiroedd nhw.
Judg WelBeibl 21:25  Doedd dim brenin yn Israel yr adeg yna. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn.