NUMBERS
Chapter 12
Numb | WelBeibl | 12:1 | Roedd Miriam ac Aaron wedi dechrau beirniadu Moses, am ei fod wedi priodi dynes o ddwyrain Affrica (ie, dynes ddu o Affrica). | |
Numb | WelBeibl | 12:2 | “Ai dim ond drwy Moses mae'r ARGLWYDD yn siarad?” medden nhw. “Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi'u clywed nhw. | |
Numb | WelBeibl | 12:3 | (Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy'r byd i gyd.) | |
Numb | WelBeibl | 12:4 | Felly dyma'r ARGLWYDD yn galw ar Moses, Aaron a Miriam: “Dw i eisiau i'r tri ohonoch chi ddod at babell presenoldeb Duw.” Felly dyma'r tri ohonyn nhw'n mynd. | |
Numb | WelBeibl | 12:5 | A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa'r Tabernacl. A dyma fe'n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw'n gwneud hynny. | |
Numb | WelBeibl | 12:6 | Yna dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i'n ddweud: Os oes proffwyd gyda chi, dw i'r ARGLWYDD yn siarad â'r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd. | |
Numb | WelBeibl | 12:8 | Dw i'n siarad ag e wyneb yn wyneb – yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd. Mae e'n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw. Felly pam roeddech chi mor barod i'w feirniadu?” | |
Numb | WelBeibl | 12:10 | Ac wrth i'r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi'n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni, | |
Numb | WelBeibl | 12:11 | dyma fe'n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu! | |
Numb | WelBeibl | 12:12 | Paid gadael iddi fod fel plentyn wedi'i eni'n farw, a hanner ei gnawd wedi diflannu cyn iddo ddod o'r groth!” | |
Numb | WelBeibl | 12:14 | A dyma'r ARGLWYDD yn ei ateb, “Petai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, byddai'n cael ei diystyru am saith diwrnod. Cau hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, a bydd hi'n cael dod yn ôl wedyn.” | |
Numb | WelBeibl | 12:15 | Felly dyma Miriam yn cael ei chau allan o'r gwersyll am saith diwrnod. A wnaeth y bobl ddim teithio yn eu blaenau nes roedd Miriam yn ôl gyda nhw. | |