Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ECCLESIASTES
1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 7
Eccl WelBeibl 7:1  “Mae enw da yn well na phersawr drud,” a'r diwrnod dych chi'n marw yn well na dydd eich geni.
Eccl WelBeibl 7:2  Mae'n well mynd i gartref lle mae pawb yn galaru nag i dŷ lle mae pawb yn cael parti. Marw fydd y diwedd i bawb, a dylai pobl ystyried hynny.
Eccl WelBeibl 7:3  Mae tristwch yn well na chwerthin – er bod tristwch ar yr wyneb, gall wneud lles i'r galon.
Eccl WelBeibl 7:4  Mae'r doeth yn meddwl am ystyr marwolaeth, ond ffyliaid yn meddwl am ddim ond miri.
Eccl WelBeibl 7:5  Mae'n well gwrando ar y doeth yn rhoi cerydd nag ar ffyliaid yn canu eich clodydd.
Eccl WelBeibl 7:6  Oherwydd mae sŵn ffŵl yn chwerthin fel brigau yn clecian wrth losgi dan grochan. Mae'n ddiystyr!
Eccl WelBeibl 7:7  Mae gormesu'n gwneud i'r doeth edrych fel ffŵl, ac mae breib yn llygru barn pobl.
Eccl WelBeibl 7:8  “Mae gorffen rhywbeth yn well na'i ddechrau,” ac “Mae amynedd yn well na balchder.”
Eccl WelBeibl 7:9  Paid gwylltio'n rhy sydyn; gwylltineb sydd yng nghalon ffyliaid.
Eccl WelBeibl 7:10  Paid gofyn, “Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?” Dydy'r rhai doeth ddim yn meddwl felly.
Eccl WelBeibl 7:11  Mae doethineb, fel etifeddiaeth, yn beth da ac yn fanteisiol i bob person byw,
Eccl WelBeibl 7:12  oherwydd mae doethineb, fel arian, yn gysgod i'n cadw'n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw'r doeth yn fyw.
Eccl WelBeibl 7:13  Ystyriwch bopeth mae Duw wedi'i wneud! Pwy sy'n gallu sythu beth mae e wedi'i blygu?
Eccl WelBeibl 7:14  Felly mwynhewch fywyd pan mae pethau'n mynd yn dda; ond pan mae popeth yn mynd o'i le, cofiwch hyn: Duw sydd tu ôl i'r naill a'r llall, felly all neb wybod yn iawn beth fydd yn digwydd yn y dyfodol.
Eccl WelBeibl 7:15  Yn ystod fy mywyd llawn penbleth, dw i wedi gweld y cwbl: rhywun sy'n ffyddlon i Dduw yn marw'n ifanc er ei holl ddaioni, a rhywun drwg yn cael byw'n hir er gwaetha'i holl ddrygioni.
Eccl WelBeibl 7:16  Paid bod yn rhy siŵr ohonot ti dy hun, dy fod yn berson cyfiawn a doeth, rhag i ti gael dy siomi!
Eccl WelBeibl 7:17  A phaid rhoi dy hun yn llwyr i ddrygioni ac ymddwyn fel ffŵl. Pam ddylet ti farw cyn dy amser?
Eccl WelBeibl 7:18  Y peth gorau i'w wneud ydy dal gafael yn y naill gyngor a'r llall, oherwydd mae'r person sy'n parchu Duw yn osgoi'r ddau eithaf.
Eccl WelBeibl 7:19  “Mae doethineb yn rhoi mwy o rym i rywun na deg o lywodraethwyr mewn dinas.”
Eccl WelBeibl 7:20  “Does neb drwy'r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.”
Eccl WelBeibl 7:21  Hefyd, “Paid cymryd sylw o bopeth sy'n cael ei ddweud, rhag i ti glywed dy was yn dweud pethau drwg amdanat ti!”
Eccl WelBeibl 7:22  Oherwydd mae'n dda i ti gofio dy fod ti dy hun wedi dweud pethau drwg am bobl eraill lawer gwaith.
Eccl WelBeibl 7:23  Ceisiais ddefnyddio fy noethineb i ddeall y cwbl, ond methu cael atebion.
Eccl WelBeibl 7:24  Mae'n anodd deall popeth sy'n digwydd – mae'r pethau yma yn llawer rhy ddwfn i unrhyw un ddarganfod yr atebion i gyd.
Eccl WelBeibl 7:25  Dyma fi'n troi fy sylw i astudio ac ymchwilio'n fanwl i geisio deall beth ydy doethineb, a pha mor dwp ydy drygioni, ac mor wallgof ydy ffolineb.
Eccl WelBeibl 7:26  Dw i wedi darganfod mai peth chwerw iawn ydy'r wraig sydd fel magl heliwr, yn rhwydo dyn, a'i breichiau amdano fel cadwyni. Mae'r dyn sy'n plesio Duw yn llwyddo i ddianc o'i gafael, ond mae'r un sy'n pechu yn cael ei ddal ganddi.
Eccl WelBeibl 7:27  Dyma'r casgliad dw i wedi dod iddo, meddai'r Athro – wrth geisio deall y cwbl o dipyn i beth:
Eccl WelBeibl 7:28  (Dw i wedi bod yn ymchwilio iddo'n gyson, ond heb eto gael ateb digonol, fel maen nhw'n dweud, “Cefais ddim ond un dyn mewn mil, ond dw i ddim wedi darganfod gwraig yn eu plith nhw o gwbl.”)
Eccl WelBeibl 7:29  Yr un casgliad dw i wedi dod iddo ydy hwn: gwnaeth Duw y ddynoliaeth yn gyfiawn, ond maen nhw i gyd wedi dilyn pob math o syniadau.