Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 35
Ezek WelBeibl 35:2  “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Edom, a proffwydo yn ei herbyn.
Ezek WelBeibl 35:3  Dwed wrthi, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti, Edom. Dw i'n mynd i dy daro di'n galed, a dy droi di yn anialwch diffaith!
Ezek WelBeibl 35:4  Bydda i'n gwneud dy drefi'n adfeilion. Byddi fel anialwch! A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 35:5  “‘Rwyt ti bob amser wedi casáu pobl Israel. Roeddet ti'n ymosod arnyn nhw gyda'r cleddyf pan oedden nhw mewn trafferthion, pan o'n i eisoes wedi'u cosbi nhw.
Ezek WelBeibl 35:6  Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, gan dy fod ti mor hoff o dywallt gwaed mae lladdfa ar ei ffordd i ti!
Ezek WelBeibl 35:7  Bydda i'n troi Edom yn anialwch diffaith. Bydd hyd yn oed y rhai sy'n pasio trwodd yn cael eu lladd.
Ezek WelBeibl 35:8  Bydd cyrff marw yn gorchuddio dy fynyddoedd. Bydd pobl wedi'u lladd â'r cleddyf yn gorwedd ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd ac ym mhob ceunant.
Ezek WelBeibl 35:9  Byddi'n adfeilion am byth. Fydd neb yn byw ynot ti. A byddwch chi'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 35:10  “‘Roeddet ti'n dweud, “Bydd y ddwy wlad yna yn perthyn i mi! Bydda i'n eu cymryd nhw,” – er bod yr ARGLWYDD yna.
Ezek WelBeibl 35:11  Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘dw i'n mynd i ddelio gyda ti fel rwyt ti'n haeddu, am fod mor gas a chenfigennus a sbeitlyd. Bydda i'n dangos pwy ydw i iddyn nhw, drwy dy gosbi di.
Ezek WelBeibl 35:12  Byddi'n gwybod wedyn fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi clywed yr holl bethau sarhaus rwyt ti wedi bod yn eu dweud am fynyddoedd Israel. “Maen nhw wedi'u dinistrio,” meddet ti, “Maen nhw yna ar blât i ni!”
Ezek WelBeibl 35:13  Roeddet ti'n brolio dy hun a ddim yn stopio gwneud sbort am fy mhen i – ydw, dw i wedi clywed y cwbl!’
Ezek WelBeibl 35:14  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Bydd y byd i gyd yn dathlu pan fydda i'n dy droi di'n adfeilion.
Ezek WelBeibl 35:15  Pan gafodd gwlad Israel ei dinistrio roeddet ti'n dathlu. Ond nawr mae'r un peth yn mynd i ddigwydd i ti! Bydd Edom, ie pawb drwy'r wlad i gyd, yn cael eu dinistrio! Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”