Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I SAMUEL
Prev Up Next
Chapter 13
I Sa WelBeibl 13:1  Does neb yn siŵr beth oedd oed Saul pan ddaeth yn frenin. Ar ôl bod yn frenin ar Israel am ddwy flynedd
I Sa WelBeibl 13:2  dyma fe'n dewis tair mil o ddynion i fod yn ei fyddin. Roedd dwy fil o'r dynion i aros gydag e yn Michmas a bryniau Bethel, a'r mil arall i fynd gyda Jonathan i Gibea ar dir llwyth Benjamin. Anfonodd bawb arall yn ôl adre.
I Sa WelBeibl 13:3  Clywodd y Philistiaid fod Jonathan wedi ymosod ar eu garsiwn milwrol yn Geba. Felly dyma Saul yn anfon negeswyr drwy'r wlad i gyd i chwythu'r corn hwrdd a dweud, “Chi Hebreaid, gwrandwch yn astud!”
I Sa WelBeibl 13:4  A chlywodd pawb yn Israel fod Saul wedi taro garsiwn milwrol y Philistiaid, a bod y Philistiaid yn ffieiddio pobl Israel. Felly dyma'r bobl yn cael eu galw i ymuno â byddin Saul yn Gilgal.
I Sa WelBeibl 13:5  Yn y cyfamser, roedd y Philistiaid yn paratoi i ymosod ar Israel. Roedden nhw wedi casglu tair mil o gerbydau rhyfel, chwe mil o farchogion a gormod o filwyr traed i'w cyfrif, ac wedi codi gwersyll yn Michmas i'r dwyrain o Beth-afen.
I Sa WelBeibl 13:6  Pan welodd byddin Israel mor ddrwg oedd hi arnyn nhw, dyma nhw'n colli pob hyder a mynd i guddio mewn ogofâu, drysni, yn y creigiau ac mewn pydewau.
I Sa WelBeibl 13:7  Roedd rhai wedi dianc dros afon Iorddonen i ardal Gad a Gilead. Ond arhosodd Saul yn Gilgal, er fod y fyddin oedd gydag e i gyd wedi dychryn am eu bywydau.
I Sa WelBeibl 13:8  Roedd Saul wedi aros am wythnos, fel roedd Samuel wedi gofyn iddo wneud, ond ddaeth Samuel ddim, a dechreuodd y dynion ei adael e.
I Sa WelBeibl 13:9  Felly dyma Saul yn dweud, “Dewch a'r anifeiliaid sydd i'w haberthu yma – y rhai sydd i'w llosgi a'r rhai sy'n offrwm i ofyn am fendith yr ARGLWYDD.” A dyma fe'n aberthu i Dduw.
I Sa WelBeibl 13:10  Roedd e newydd orffen llosgi'r aberth pan ddaeth Samuel i'r golwg. A dyma Saul yn mynd allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.
I Sa WelBeibl 13:11  Ond dyma Samuel yn gofyn iddo, “Be wyt ti wedi'i wneud?” Atebodd Saul, “Roedd y dynion yn dechrau gadael. Doeddet ti ddim wedi dod fel roedden ni wedi trefnu, ac mae'r Philistiaid wedi casglu at ei gilydd yn Michmas.
I Sa WelBeibl 13:12  Roedd gen i ofn y bydden nhw'n ymosod arna i yn Gilgal, a finnau heb ofyn i Dduw am help. Felly doedd gen i ddim dewis ond mynd ati i losgi'r aberth.”
I Sa WelBeibl 13:13  “Ti wedi gwneud peth gwirion,” meddai Samuel wrtho. “Dylet ti fod wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti. Petaet ti wedi bod yn ufudd byddai'r ARGLWYDD wedi cadw'r olyniaeth frenhinol yn dy deulu di am byth.
I Sa WelBeibl 13:14  Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae'r ARGLWYDD wedi dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac wedi dewis hwnnw i arwain ei bobl, am dy fod ti heb gadw'i orchmynion.”
I Sa WelBeibl 13:15  Yna dyma Samuel yn gadael Gilgal a mynd i ffwrdd. Aeth Saul a'r milwyr oedd ar ôl ganddo i ymuno gyda'r dynion eraill oedd wedi dod i ryfela. A dyma nhw'n mynd o Gilgal i Gibea yn Benjamin. Pan gyfrodd Saul y dynion oedd ar ôl gydag e, dim ond chwe chant ohonyn nhw oedd yna!
I Sa WelBeibl 13:16  Roedd Saul, Jonathan ei fab a'r dynion oedd gyda nhw yn Gibea yn Benjamin, tra oedd y Philistiaid yn gwersylla yn Michmas.
I Sa WelBeibl 13:17  Yna'n sydyn aeth tair mintai allan o wersyll y Philistiaid i ymosod ar wahanol ardaloedd. Aeth un i'r gogledd i gyfeiriad Offra yn ardal Shwal,
I Sa WelBeibl 13:18  un arall i'r gorllewin i gyfeiriad Beth-choron, a'r drydedd i gyfeiriad yr anialwch yn y dwyrain, i'r grib sydd uwchben Dyffryn Seboïm.
I Sa WelBeibl 13:19  Bryd hynny doedd dim gof i'w gael yn holl wlad Israel. Roedd y Philistiaid eisiau rhwystro'r Hebreaid rhag gwneud cleddyfau a gwaywffyn.
I Sa WelBeibl 13:20  Felly roedd rhaid i bobl Israel fynd at y Philistiaid i roi min ar swch aradr, hof, bwyell neu gryman.
I Sa WelBeibl 13:21  Roedd rhaid talu prisiau uchel – 8 gram o arian am hogi swch aradr neu hof, 4 gram o arian am fwyell, a'r un faint am osod blaen ar ffon brocio ychen.
I Sa WelBeibl 13:22  Felly pan ddechreuodd y frwydr doedd gan filwyr Saul a Jonathan ddim cleddyfau na gwaywffyn; dim ond Saul ei hun a'i fab Jonathan oedd â rhai.
I Sa WelBeibl 13:23  Roedd byddin y Philistiaid yn symud allan i gyfeiriad bwlch Michmas.