II CHRONICLES
Chapter 29
II C | WelBeibl | 29:1 | Daeth Heseceia yn frenin pan oedd yn ddau ddeg pump, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg naw o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Abeia, merch Sechareia. | |
II C | WelBeibl | 29:2 | Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 29:3 | Yn syth ar ôl iddo ddod yn frenin, dyma Heseceia'n agor drysau teml yr ARGLWYDD a'u trwsio. | |
II C | WelBeibl | 29:4 | Dyma fe'n casglu'r offeiriad a'r Lefiaid at ei gilydd yn y sgwâr ar ochr ddwyreiniol y deml, | |
II C | WelBeibl | 29:5 | a'u hannerch, “Chi Lefiaid, gwrandwch arna i. Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunan cyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid. Taflwch bopeth sy'n aflan allan o'r Lle Sanctaidd. | |
II C | WelBeibl | 29:6 | Mae'n hynafiaid wedi bod yn anffyddlon a gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD. Roedden nhw wedi troi cefn arno fe a'i deml. | |
II C | WelBeibl | 29:7 | Dyma nhw'n cau drysau'r cyntedd a diffodd y lampau. Doedden nhw ddim yn llosgi arogldarth na chyflwyno aberthau yn y lle yma gafodd ei gysegru i Dduw Israel. | |
II C | WelBeibl | 29:8 | Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda Jwda a Jerwsalem. Mae'n gwbl amlwg fod beth sydd wedi digwydd yn ofnadwy; mae'n achos dychryn a rhyfeddod i bobl. | |
II C | WelBeibl | 29:9 | Dyna pam cafodd dynion eu lladd yn y rhyfel, ac wedyn eu gwragedd a'u plant yn cael eu cymryd yn gaethion. | |
II C | WelBeibl | 29:10 | “Nawr, dw i eisiau gwneud ymrwymiad i'r ARGLWYDD, Duw Israel. Falle wedyn y bydd e'n stopio bod mor ddig gyda ni. | |
II C | WelBeibl | 29:11 | Felly, ffrindiau, peidiwch bod yn esgeulus. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch dewis chi i'w wasanaethu ac i losgi arogldarth iddo.” | |
II C | WelBeibl | 29:12 | A dyma'r Lefiaid yma yn codi i wneud beth roedd y brenin yn ei orchymyn: Disgynyddion Cohath: Machat fab Amasai a Joel fab Asareia Disgynyddion Merari: Cish fab Afdi ac Asareia fab Jehalelel Disgynyddion Gershon: Ioach fab Simma ac Eden fab Ioach | |
II C | WelBeibl | 29:13 | Disgynyddion Elitsaffan: Shimri a Jeiel Disgynyddion Asaff: Sechareia a Mataneia | |
II C | WelBeibl | 29:15 | Yna dyma nhw'n casglu gweddill y Lefiaid at ei gilydd a mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain. Ac wedyn mynd ati i gysegru teml yr ARGLWYDD, fel roedd y brenin wedi dweud. Roedden nhw'n gwneud popeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn. | |
II C | WelBeibl | 29:16 | Aeth yr offeiriaid i mewn i'r deml i'w phuro. A dyma nhw'n dod â phopeth oedd yn aflan allan i'r iard, cyn i'r Lefiaid fynd a'r cwbl allan i Ddyffryn Cidron. | |
II C | WelBeibl | 29:17 | Roedd y gwaith glanhau wedi dechrau ar ddiwrnod cynta'r mis cyntaf. Mewn wythnos roedden nhw wedi cyrraedd cyntedd teml yr ARGLWYDD. Wedyn am wythnos arall buon nhw'n cysegru'r deml, a chafodd y gwaith ei orffen ar ddiwrnod un deg chwech o'r mis. | |
II C | WelBeibl | 29:18 | Yna dyma nhw'n mynd at y Brenin Heseceia a dweud, “Dŷn ni wedi cysegru teml yr ARGLWYDD i gyd, yr allor i losgi aberthau a'i hoffer i gyd, a'r bwrdd mae'r bara i'w osod yn bentwr arno gyda'i holl lestri. | |
II C | WelBeibl | 29:19 | Dŷn ni hefyd wedi cysegru'r holl lestri wnaeth y Brenin Ahas eu taflu allan pan oedd yn anffyddlon i Dduw. Maen nhw yn ôl o flaen yr allor.” | |
II C | WelBeibl | 29:20 | Yna'n gynnar y bore wedyn dyma Heseceia'n galw arweinwyr y ddinas at ei gilydd a mynd i deml yr ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 29:21 | Aethon nhw â saith tarw ifanc, saith hwrdd, saith oen a saith bwch gafr yn aberth dros bechod y deyrnas, y deml a gwlad Jwda. A dyma'r brenin yn gofyn i'r offeiriaid (disgynyddion Aaron) eu llosgi'n offrymau ar allor yr ARGLWYDD. | |
II C | WelBeibl | 29:22 | Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn. | |
II C | WelBeibl | 29:23 | Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr. | |
II C | WelBeibl | 29:24 | Wedyn, dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan. | |
II C | WelBeibl | 29:25 | Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y Brenin Dafydd wedi dweud. (Yr ARGLWYDD oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan.) | |
II C | WelBeibl | 29:26 | Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn. | |
II C | WelBeibl | 29:27 | A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel. | |
II C | WelBeibl | 29:28 | Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi. | |
II C | WelBeibl | 29:29 | Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli. | |
II C | WelBeibl | 29:30 | Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y Brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli. | |
II C | WelBeibl | 29:31 | Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd. | |
II C | WelBeibl | 29:32 | Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi. | |
II C | WelBeibl | 29:34 | ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd drwy'r ddefod o buro'u hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd drwy'r defodau na'r offeiriaid.) | |
II C | WelBeibl | 29:35 | Yn ogystal â'r anifeiliaid i'w llosgi, roedd yna lawer iawn o fraster o'r offrymau diolch, a hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda phob offrwm i'w losgi. Felly dyma nhw'n ailddechrau addoli'r ARGLWYDD yn y deml. | |